g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19

Troelus a Chresyd (1590)

Anyhysbys
add. Steffan Donnelly

Ⓗ 2017 Steffan Donnelly
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 6

GOLYGFA 6

Rhagddoedydd
Cyffelyb i'r melys yr owran yn felysach ddywad,
oherwydd hir chwerwder a barhaodd yn wastad,
o brudd-der i lawenydd mawr a syrthiodd -
ers pan fy aned y fath lawenydd nis digwyddodd.

Gwelais ar ôl boregwaith pruddaidd, niwlog,
yn canlyn brynhwawngwaith eglur, gwresog,
ac ar ôl byrddydd gaeaf blin, gwlybyrog,
yn dyfod hirddydd Galanmai yn desog.
Ar ôl prudd-der a thristwch,
y daw'r holl ddifyrwch,
ac ar ôl cawodau helaeth
yn siwr y daw gorchafiaeth.

Amhosibl i'm tafod allu'n iawn draethu
y difyrwch a lawenydd y sydd o bobtu.


Gweler Troelus a Cresyd mewn gwely.

Rhagddoedydd
O noswaith ddifyr, hir y bued i'th ymofyn,
llwyr y dygaist ddifyrwdd mawr i'th ganlyn.
Os mawr y byd a'i gwmpas,
dau cymaint yw dy urddas.
Os mawr iawn yw'r mynydd,
dau cymaint yw'r llawenydd.

O f'arglwydd, allai i ddrewiant chwannog cenfigennus
a fai'n goganu cariad, ac o gariad yn ddibris
gael noswaith ddigwyddiad o lawenydd perffaith hyfryd
fel yr owran y digwyddodd i Troelus a Cresyd?

Chwi a glywsoch o'r noswaith ddifyr ddigwyddiad;
rhaid i chwi glywed peth o'r trwm ymadawiad.
Medd doeth, "ni all yr un peth barhau'n wastad:
pob peth sydd â dechrau, rhaid iddo gael diweddiad.
Y noswaith a blygeiniodd
a'r plygain yn ddydd ymrithiodd,
a'r pethau yn hyn a ddigwyddodd,
dealled y sawl a garodd.

Pan ddaeth y ceiliog, astrologer y cyffredin,
dan guro ei esgyll â rhybudd fod y nos ar derfyn,
a'r seren Luwsiffer, cennad y gloywddydd, yn codi
yn y deau, a'i phelydr dros yr hollfryd yn llewyrchu -
Yno y dywedai Cresyd
wrth Troelus ei hanwylyd:

Cresyd
O f'enaid yn fy nghalon, fy nghoel a'm holl ddifyrwch,
och yr amser y'm ganed i ddigwydd i mi fath dristwch,
pan allo un boregwaith ein dosbarthu ni oddi yma,
bellach rhaid ymadael, neu fo ddarfu amdana.

O dywyllnos, fe'th waned yn hud dros loywddydd perffaith
ar amserau â'th hagr alarwisg ddiffaith,
a thros amser mae pob peth i'w esmwythyd mewn bwriad:
dynion ac anifeiliaid yn hawdd all achwyn arnad;
y dydd yn rhoi trafael yma,
tithau'r nos yn rhoddi esmwythdra.
Tydi yr owran o lawer
a ffoist ynghynt na'th amser.

Rhagddoedydd
Troelus, tostur eiriau Cresyd, pan glywodd,
heilltion ddagrau ar hyd ei ruddiau a ollyngodd,
megis yn rhyfeddu o'r fath lawenydd a difyrwch
mor ddisymwth yn dywed y cyfriw drymder a thristwch.
Ochenaid trwm, a rodde
ar geiriau hyn a ddoede:

Troelus
O Cresyd, fy anwylddyn,
aeth y byd i gyd yn ein erbyn.

O greulon ddiwrnod, melltigedig i lawenydd hyfryd,
lleidr y nos a lleidr cariad wyt hefyd.
O genfigennus ddiwrnod, melltigedig ddyfodiad
o fewn caerau Troea heb unwaith yrru amdanad.
Pa achos yr wyt yn ysbienna?
A gollaist dy ffordd yma?
Duw a wnel i ti golli
dy lewyrch a'th oleuni?

Och! Beth a wnaeth cariad ddynion yn dy erbyn
pan wyt bob amser mor genfigennus unddyn?

O Cresyd, beth bellach a wnaf gan hiraethus gariad?
Yr owran mae'r amser o'r trwm ymadawiad.
Hir fyw nis gallaf yn y fath drymder;
oes byth im obaith ond arwain prudd-der?
Nid oes fodd na ddaw hiraeth
arnaf i'n ddigon helaeth,
pan yr wyf yr owran yn ymwrando
â hiraeth cyn ymado.

Yn wir, f'arglwyddes loyw, eurbleth,
hyn pes gwyddwn yn ddiweiniaith,
fod eich ufudd was a'ch marchog cywir
wedi ei osod yn eich meddwl mor sicir
ar ydd ych chwi, f'arglwyddes,
yn fy meddwl i a'm mwynes,
digŵyn yw gen i ymarfer
â hiraeth twm a phrudd-der.

Cresyd
O gywir galon a chwbwl o'm ymddiried,
mae'r chwarae hwn cyn belled wedi myned
fel y caiff yn gyntaf yr haul syrthio i lawr o'r wybren
a'r gwalchaidd eryr ymgymharu â'r glomen
a phob craig ysmudo
o'r tir a'r fan y byddo
cyn darffo i Troelus symud
o gywir calon Cresyd.

Troelus
O cydymaith o'r cymdeithion, y gorau i drugaredd
a fu erioed, ac a fu byth mewn gwirionedd,
fy meddwl i a ddygaist i esmwythdra nefol
o Fflegeton, y tanllyd afon uffernol,
Pes gallwn i roddi
fy einioes i'th wasanaethu,
ni fydde hyn i'w wneuthud
ddim wrth a ryglyddyd.

Pandar
Fy nghywir gydymaith, erddot ti ddim pes gwnaethwn,
fy wir Duw mae felly y mynnwn.
O'r geiriau a ddoetwy, na chymer ddig na chystydd,
gochel i gyd hyn sydd o aflywenydd.
Yr owran, mae dy duedd
at lawenydd a mowredd;
na bych dy hunan iti
yn achos o ddrygioni.

Gwathaf yw hyn o holl anffortun a drygioni,
bod unwaith yn oludog a syrthio mewn tlodi,
mae hwn yn synhwyrol a gatwo i elw;
mawrhad yw cael twrnda, mwy mawrhad i gadw.
Yn rhy ddiofal na fyddwch,
or bod yr hin mewn tawelwch;
rheitia yw cymryd ordor
pan fo yr ŷd yn ysgubar.

Od wyt yn esmwyth, dal dy hun a gaethiwed;
cyn sicred a bod pob tân yn goch i'w weled,
mae mwy dichell i gadw peth nai ennill.
Llawenydd bydol sy ynglyn ar linin candryll;
Mae'n ddigon hawdd profi
rhag mynyched i mae'n torril
rhag torri hwn mewn adwyth,
rhaid yw gymryd yn esmwyth.

Troelus
Cariad, mae ytt ar dir a môr reoli;
cariad, mae ytt orchymyn y nefoedd o fri;
cariad, mae ytt ryddid mawr a gollyngdod;
O cariad, i ti mae'r holl ufudddod.
Tydi, cariad, sy'n clymu
pob cyfraith a chwmpeini;
cwlwm hyn o gytundeb
rhag dyfod byth wrthwyneb.

Cariad, ir byd mae'n dwyn caredigrwydd;
i bob peth yn ei ryfogaeth y mae'n digwydd;
mae hwn yn naturiol i'r pedwar deunydd;
y rhain sy wrthwynebys bob un yw gilydd.
Y lleuad sydd dros noswaith,
yr Haul dros loywddydd perffaith;
pob un ai dyfodiad
o achos rhinwedd cariad.

Hwn, i'r môr, or maint yw trwst ei donnau,
sy'n gwneuthur iddo gydnabod ai derfyne;
hwn sy'n dwyn afonydd a phrydiau digwyddiad
i ffrwythau tiroedd o meilliondir gwastad.
Hawsa peth i hepgor
bob amser ydi'w gyngor;
anhawsa peth yn wastad
yw hepgor ydiw cariad.

Erfyn it, arglwydd, o'th drugaredd, yn enwedig,
roddi rhwym ar gariad a chwlwm caredig;
a phlannu yn ei calonnau hir cytundeb,
lle bo unwaith gariad, na bo byth anghywirdeb.
A thyfu o gariad ffyddlon
ai gwreiddin yn y galon,
na bo achos iddyn dybied
byth o angharedig weithred.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19