g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19

Troelus a Chresyd (1590)

Anyhysbys
add. Steffan Donnelly

Ⓗ 2017 Steffan Donnelly
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 8

GOLYGFA 8

Cresyd
Och i'm calon os allan oddi yma rhaid im fyned!
Anffortunus forwyn, i ddwyn anffortun y'th aned.
Ai rhaid it ymadael â Throelus, gywir farchog,
a byw ym mysg dieithriaid anrhugarog?
Och! i'r nos am dywyllu;
Och! i'r dydd am lewyrchu;
Can och! A fyddo i'r weithred
sydd achos i mi i fyned!

Beth a wnaiff Troelus? A beth a wnaiff innau?
Pa fodd y byddwn fyw heb fodd yn yr unlle?
Pa fodd y llawenycha? Ni chaf fi aros.
Fy nhad, Calchas, tydi ydiw'r achos!

Ai i fyw mewn prudd-der i'r byd y'm ganed?
Os gwir hyn, gwir ydyw fod tynged.
All pysg fyw heb ddŵr yn yr afon Nilus?
Pa fodd y gall Cresyd fyw heb ei Throelus?


Troelus ar hyn yn dyfod.

Cresyd
Hyn a wnaf i, Troelus, y dydd yr ymadawon,
arf lifed nis cariaf, rhag fy mod yn greulon.
Onis lladd prudd-der fi y diwrnod hwnnw,
fy lluniaeth a wrthodaf, i gaffael marw.
Cyn sicred ac y'm ganed,
os oddi yma rhaid im fyned,
hyn a fydd fy nhynged,
modd y caffoch chwithau glywed.

A'm dillad i, Troelus, a gaiff fod yn dduon,
yn arwydd fod Cresyd yn gywir ei chalon.
Meddyliwch am y geiriau pan ddigwydd yr achosion;
yno y cewch wybod fy nghywirdeb ffyddlon.
A hyn a gofia i chwi
fy ffyddlondeb a'm caledi,
a'r modd y darfu i Cresyd
er eich mwyn golli ei bywyd.

Fy nghywir galon, yn dragwyddol rwy'n ordeinio
i ti ganlyn ysbryd Troelus i gydgŵyno;
er bod ein cyrff yn y ddaear yn gorwedd yn llonydd,
ein ysbrydion a gydrodia 'rhyd y trugarog feysydd.
Y rhain a elwir Eleisos -
nid oes dim poen yn aros
lle mae Orffews â'i dreiglad
efo Eurydice ei gariad.


Mae Pandar gyda hwy erbyn hyn.

Cresyd
Tithau, Pandar, a fuost achos o lawenydd mwy nag unwaith,
yr owran yr wyt yn achos o brudd-der eilwaith.
Nis gwn beth a ddywedaf wrthyt am hyn,
ai bod it groeso, ai nad oes un gronyn.
Dy achos fu yr digwyddiad
i mi wasanaethu cariad;
hwn sydd yn diwedd rhyngom,
mewn prudd-der a gofalon.
Ewch! Ewch!


Ac ar hyn yma yn llesmeirio. Troelus a'i gleddyf noeth yn ei law yn amcanu am ladd ei hunan.

Troelus
O greulon Iau, creulonach ffortun aflawen,
lledaist Cresyd a Throelus â'th genfigen,
y cleddau hwn a yrr fy ysbryd i allan,
i'th ddilyn di, Cresyd, 'rhyd feysydd Elisian.
Yna y byddwn yn aros
barnedigaeth brenin Minos,
gan fod ffortun mor greulon
a chariad eilwaith mor ddigllon.

Gan ddarfod amdanom, myfi a'r byd ydawa,
i ba le bynnag yr elych, dy ysbryd a gylyna.
Ni chaiff cariadddyn am Droelus fyth ddoedyd:
nas llefys, rhag ofn marw, gydfarw a Chresyd.
Gan nas cewn ni yma aros
gyda ein gilydd i fyw yn agos,
dioddefwch yn eneidie
yn dragwyddol fyw yn yr unlle.

Troea, bym yno fyw mewn dolur;
Priam, a'n holl gywir frodur,
ac i'm mam y wnaf ganu'n iach heb wybod!
Croeso Atropos, gwna'r elor i mi'n barod.

Ataf a negosed cleddyf creulon,
er dy fwyn di, at y'ng nghalon.

Cresyd
Er bod yn frenhines pes cawswn,
hyn yma nis mynaswn.
Ar y cwbwl, pell ac agos,
y mae'r haul yn ymddangos.

Fy ngwir galon, chwi a wyddoch hyn yr owran,
o bydd un yn wastad yn ochain ac un yn tuchan,
heb geisio rhyw ddfyais o'i ddolur i'w helpu,
nid yw hyn ond ffolineb: mae'r boen yn chwanegu.
Gen yn bod wedi cyfarfod,
yn deuoedd, yma yn barod
mae'n fadws i ni ddechrau
a gwneuthur y peth sydd orau.

Pes cyd-ymgynghores ni mewn modd ac amser,
nid rhaid i ni gymryd hanner hyn o brudd-der.
Mae digon o gelfydd
all helpu hyn o gaethfyd:
na chymrwch drwm feddyliau
fe ddaw hyn i gyd i'r gorau.

Oni wyddoch fod gan fy nhad ewyllys mawr i'm gweled,
yn unig rhag ofn fy mod yn byw mewn caethiwed.
Mae'n meddwl fy mod yn byw yma'n amddifad
oblegid yr achos o'i dwyllodrus fynediad.
Gwae fi Dduw nas gwyddai
y sut a'r modd yr ydwyf innau,
a daed fy myd yn Nhroea -
mi a wn nas gyrrai byth amdana'.

Wrth fy nhad y dywedaf ddarfod i mi guddio ei gyfoeth
rhag llosgi Troea a rhag ofn dynion diffaith,
ac na fedr neb ar a aned onid myfi eu caffael.
Mae yntau cyn chwanoged, â da nis clyw ymadael.
Ato fe pan ddelwyf
fe a goelia'r hyn ddywedwyf;
yn esgus cyrchu'r mwnws
mi a ddof eilwaith atoch, Troelus.

Mae'n anodd, medd gŵyr dysgedig ffordd yma,
llenwi'r blaidd a chael y mollt yn gyfa,
hynny ydyw, fod llawer un mor chwannog
ag y treulia swllt yn ceisio'r geiniog.
Mae henddyn yn enwedig
yn chwannog i'r da benthyg;
ag aur y gellid beunydd
gerfio calon y dyn cybydd.

Troelus
Mae'n anodd cloffi ger bron cripil heb ei ganfod;
mae cyfrwysdra Calchas bob amser mor barod.
I dda bydol er bod ganddo ormod dychwant
mae hen gyfrwyddyd ganddo a deall somiant.
Chwi a glywsoch, modd y dywedan,
haws somi babi na gwrachan.
Anodd dallu llygaid Argos
petai bawb yn helpio'r achos.

Cresyd
Mae rhai hefyd yn trafaelio ac yn siarad
am dangnefedd rhwng Troea a Groeg yn wastad
ac y rhoddir Helen adre a'i holl gyfoeth,
a phawb i ddyfod i'w wlad ei hunan eilwaith.
Petai ddim i'n cysuro
ond hyn yma i'w obeithio,
hyn yna a all ddyfod
cyn pen y pedwar diwrnod.

Troelus
Beunydd llid a ychwanega wrth golli gwaed gwirion.
Hyn yw naturiaeth rhyfel - gwneuthur pawb yn greulon,
a hyn a obeithia lleidr, i'w grogi pan yr elo,
o tyr y cebystr, fod cyfraith yn ei safio.
Nis rhoddir Helen adre
ond yn gyfnewid i Hesione:
hwn yw gobaith gofalon,
a'r gobaith hwn a dyr fy nghalon.

Cresyd
Mi a wn bellach beth sydd rhaid i mi ei wneuthud,
a hynny a wnaf pes collwn i fy mywyd:
milltir fechan sydd rhwng y Groegwyr a Throea,
nis byddaf i ond unawr yn cerdded hyn yma,
a hwn yn wir a gywiraf
os byw ac iach a fyddaf.
Byddwch i'm cyfarfod
hanner nos y degfed diwrnod.

Troelus
Hyn rwyf i yn ei ofni ac wrth ei feddwl mae'n ddolur,
yr achos mae'ch tad i'ch cyrchu i briodi un o'r Groegwyr.
Fe a'ch rydd i ryw ddyn a fo mewn mawr urddas;
geiriau'r tad a dreisia'r ferch i briodas.
Ac i Troelus cywir druan
y daw achwyn, ochain a griddfan,
chwychwi yn byw mewn gwrthwyneb,
yntau yn marw mewn cywirdeb.

Eich tad, er mwyn eich dwyn i hyn yma,
nyni, ein tref, a'n gallu i gyd, a ddibrisia;
ac a ddywaid nad aiff Groegwyr byth adre
nes ennill Troea a llosgi yn llwyr ei chaere.
Wrthyf fi y doedych
y gwnewch iddo goelio a fynych;
mae arna ofn yn fy meddwl
y gwnaiff i chwi goelio'r cwbwl.

Ym mysg Groegwyr llawer marchog glân a gewch ei weled,
yn llawn rhywiogrwydd, afiaith a rhinweddol weithred,
modd y bydd pawb mor ufudd, i'ch bodloni yn chwennych,
fel nas gwyddoch pwy adawoch na phwy a ddewisych.
Nid oes mewn Troelus ryglyddiad
i fod munud yn eich cariad,
ond ei fod yn rhy ffyddlon
ac yn eich caru chwi yn ei galon.

Cresyd
Y diwrnod, yr awr, neu'r munud y byddaf i ti anghywir,
er ofn tad, er cariad-ddyn nac ei dim ar a ellir,
gwaned Juno, merch Satwrnws, i mi yn dragwyddol
aros gyda Styx, fel Athamant mewn pydew uffernol.
Y modd y caf gan Dduw fy helpio,
pan fo rheithia i mi wrtho,
gymryd yr eich i'ch dwyfron
heb achos hyn ofalon.

Hefyd yr wy'n tyngu i holl dduwie nefol,
i'r dywiesau, i'r Nymffes, ac i adyrdod uffernol,
i'r Satirs, i'r ffanus, hanner duwie y gelwch,
y rhain bob amser sy'n aros mewn anialwch;
fo gaiff Atrop dorri,
yn gynta, yr ede mae'n ei nyddu,
cyn bod honof yn anghywir
i ti, Troelus, er a wnelir.

Tithe, Simoys, sy'n rhedeg fel paladr ysaeth union
rhyd ystrydoedd Troya i'r moroedd heilltion;
bydd dyst ar a ddywedwyf wrth fab brenin Priamus -
y diwrnod y bydd anghywir Cresyd i Troelus
y diwrnod hwnnw dymchweli
ac yn ôl dy gefn ti a gerddil
fy nghorff a'm enaid innau
a dymchwel i uffern boenau.

Coeliwch hyn, pan ddel Lucina, chwaer i ffebus glayrwen,
allan o'r llew ac allan o'r maharen,
Juno, brenhines nefoedd, y modd i'm helpia,
y ddegfed nos, mi a fyddaf wrth Droea.
Rhaid cael amser wrth galedi
i ennill amser i ni.
Dyma i ti fy nghred ar ddyfod
hanner nos y degfed diwrnod.

Troelus
Derbyn, Cresyd, gan Troelus yr arwyddion yma -
tlws a modrwy i ti a rodda',
y tlws i dy atgoffa i ddyfod eilwaith,
a'r fodrwy hon i feddwl am gydymaith.
Gwisg yr rhain bob amser
lle bo dy olwg yn ymarfer.
Ffarwel, Cresyd, ganwaith
hyd oni ddelych eilwaith.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19