g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19

Troelus a Chresyd (1590)

Anyhysbys
add. Steffan Donnelly

Ⓗ 2017 Steffan Donnelly
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 12

GOLYGFA 12

Cresyd
Arnat, Droea, mewn hiraeth a thrymder yr wy'n edrych,
dy dyrau uchel a'th reiol gaerau cwmpaswych.
Llawer diwrnod llawen o fewn dy gaerau a gefais
a llawer o hiraeth amdanat ti a ddygais.
O, Droea, gwae fi o'r myned!
O, Troelus, gwae fi dy weled!
O, Troelus, fy anwylyd,
wyt ti'n meddwl am Cresyd?

Gwae fi, Troelus, nas gwnaethwn y peth a geisiaist!
Gwae fi nad aethwm y modd a'r sut y dymunaist!
Nis buaswn i yr owran yn rhoi ochenaid cyn drymed,
ni ellesid ddywedyd wneuthur ohonof ddrwg weithred.
Nid oes ym gael ond trwbwl
i atgoffau hyn y meddwl;
y cyffirie sydd ddiweddar
wedi rhoi'r corff mewn daear.

Mae'n rhowyr yr owran am yr achos yma siarad.
O arglwyddes y synwyr, ble yr oedd dy dri llygad?
Y peth a basiodd, mi atgoffais amdano;
Y peth oedd yn bresenol, mi a wyddwn oddi wrtho.
Ar y pethau oedd i ddyfod
nis gwneuthum fawr adeilad
am nas medrwn eu gweled;
y mae im yn gwneuthur niwed.

Ond, yn wir, treigled hyn y modd ag y mynno,
yfory'r nos yn ddiffael y byddaf gyda fo;
naill ai i'r deau, ai i'r dwyrain, ai i'r gorllewin
y collaf i fyned at Troelus fy anwylddyn.
Doeded pawb a fynan,
fe wnaiff Cresyd ei hamcan;
Drywant a fy'n siarad
a genfigen ar gariad.


CRESYD YN CEISIO DIANC
Yn pacio ei dillad a'r tegan (brooch) gan Troelus, mae'n ceisio dianc Groeg.
Gan ddringo allan o'i ffenestr a cerdded mewn tuag at giatiau y ddinas, mae Diomedes a'i ddynion yn ei dal.
Diomedes yn dyfod at Cresyd

Diomedes
Fy nghariadus argwlyddes, beth a fynnwch chwi ymofyn?
Am Droea neu am Droeaid, na soniwch amdanyn.
Gyrrwch allan obaith chwerw a gwnewch lawenydd.
Codwch i fyny'ch calon a'ch glendid o newydd,
oherwydd mae Troea
wedi ei dwyn ei hun i'r gwaetha;
nid ydyw hon ond aros
y trwm ddiwedd sydd yn agos.

Meddyliwch fod Groegwyr yn gystal gwŷr eu hymddygiad,
cyn onest, cyn ffyddloned, cyn berffeithied mewn cariad
ag ydyw un Troewr, ac o lawer yn garedicach
i ufuddhau i'ch meddyliau ac i'ch gwasanaethu yn ffyddlonach.
Chwi a roesoch im gennad
i draethu wrthych beth o'm siarad:
fe ddywed pobl lawer
na ddylid caru merch mewn prudd-der.

Bid hysbys i ti, Cresyd, mai unfab Tideus y'm barned,
a'm bod cyn foneddiced ag un Troewr ar a aned,
a phe buasai fy nhad fyw hyd y dyddiau yma
mi a fuaswn frenin ar Arge a Chalsedonia.
Ei farwolaeth a gyrches
pan fu'r rhyfel wrth Thebes,
fe lladdwyd Polimeite
a llawer o'r rhai gore.

F'anwylyd, gan fy mod yn gwasanaethu eich anrhydedd,
a chwithau yw'r ferch gyntaf a ddymunais ei thrugaredd,
erfyn yr wyf yn lleigus gael chwaneg wrthych siarad.
Beth a bair ddrwgdybio ond hir ymdroi mewn cariad?
Fy meddwl ni rhaid dangos,
ni wnaiff geiriau ond paentio'r achos;
y peth sydd raid ei wneuthur
nid gwaeth yn fuan nag yn hwyr.

Cresyd
Diomedes, Diomedes, mae ti orchymyn fy meddyliau,
gwae fi erioed wybod oddi wrth ryw bethau.
Ond mae gwŷr cyn laned o fewn tref Troea
ag sydd â'u trigfan rhwng Orcades ac India.
O rhyglydd bodd i chwi ddyfod
yn lleigus, mae i chwi gennad;
a phan ddeloch chwi yno,
chwi ellwch orchymyn croeso.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19