g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19

Troelus a Chresyd (1590)

Anyhysbys
add. Steffan Donnelly

Ⓗ 2017 Steffan Donnelly
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 14

GOLYGFA 14

Cresyd
(ar ben ei hun)
Diomedes, Diomedes, gwae fi erioed dy weled,
anghywir wyf bellach i'r gŵr cywira a aned;
fy enw da i nis gall neb mo'i helpio,
a'm gonestrwydd i bellach aiff byth mewn ango,
pan dwyllais â'm anwiredd
y marchog mawr ei anrhydedd;
tra fo dŵr yn tramwy daear
byth nis gwelir iddo gymar.

Gwae fi o'm geni erioed i fod yn anghywir;
un gair da byth amdanaf i nis dywedir;
mewn pob llyfr ac ysgrifen y byddaf i oganus,
a phob tafod amdanaf i a fydd siaradus.
A'r merched yn fwyaf
wrthyf i a fydd ddicaf;
o'm herwydd i a'm gweithred
nis rhoir ynddynt byth ymddiried.

Hwy a ddywedant, oblegid fy mod mor annaturiol,
ddarfod i mi eu cywilddyio'n dragwyddol;
er nad ydwyf i y cyntaf a fu'n anghywir,
nid yw hyn o les, mi a wn ni'm esgusodir.
Er bod rhy hwyr drefnu
am a basiodd edifaru,
bellach mi a fyddaf gywir
i Diomedes er a wnelir.

O, Troelus, gan nad oes i mi ddim well i wneuthud
ond gorfod ymadael â thydi fy anwylyd,
ar Dduw yr archaf roddi yn rhwydd pob peth rhagot,
fel i'r gŵr boneddigeiddiaf a wn erioed ei adnabod.
Er darfod i mi syrthio
mewn drygioni mawr i'th ddwylo,
tra fo carreg mewn afon
nid ei, Troelus, o'm calon.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19