g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19

Troelus a Chresyd (1590)

Anyhysbys
add. Steffan Donnelly

Ⓗ 2017 Steffan Donnelly
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 2

GOLYGFA 2

Calchas
Trwm. A! Rhy drwm yw'r meddwl
sydd i'm calon mal swmbwl,
nis gad i mi na huno
nac esmwythdra i beidio.

Pwy allai fod yn llawen
a fai'n trin y fath fargen,
heb wybod beth sydd orau,
ai mynd, ai trigo gartre?

Fy ngwlad yw gwlad yr Asia,
fy nhrigfan sy yn nhref Troea,
fy ngheraint, fy nghymdeithion
a'm holl annwyl garedigion,
y nhw a minnau o'r untu
yn yr unfan yn gwladychu.

Mae'r byd yn chwerthin arna i!
Oni ddaw help mewn amser
fe aeth hyn i gyd yn ofer!

Mae Groeg i gyd yn arfog,
wrth Droea mae'n llidiog.
Er gwroled ydyw Hector,
er gwyched ydyw Troelus,
a meibion brenin Piramus,
er bod dynion cyn wyched
yn nhref Troea ac a aned,
mae rhai o'r Groegwyr mor wychion
ag allai fod o ddynion,
a holl gryfdwr y rhyfel
yn siŵr yw'r cyfiawn afael.

Os aros a rhyfela
o blaid cenedl Troea
ac amddiffyn eu pechod
yn erbyn fy nghydwybod,
fe ddaw diwrnod o'r diwedd
y dygir yn llwyr y dialedd,
pan fyddo'r tân mor greulon
yn llosgi Troea dirion
a gwaed gwŷr yn aberoedd
yn llenwi ei holl ystrydoedd.
Ni cheir amser yno i fyfyr
beth sydd orau i wneuthur.

Os gwrthod fy nghrediniaeth,
fy ngwlad, fy mraint, fy nghoweth,
fy ngheraint, fy nghyndeithion,
a myned at y gelynion,
beth a ddoedir amdana
ond 'ffalster ai difetha?'
Ar Groecwyr a ddoedan
"siomes ei wlad ei hunan,
Bydd diau im syn innau
os rhown goel arno yntau."

Ac or achos hyn yma
ar Apollo mi hydera;
Ar pethau a orchymyn
rho fy mryd ar i galyn.

Sinon, cyrch di i mi
ddŵr gloyw yr aberthu,
a dwc yma ffiledi
i gwmpasu yr allorau;
Bid ffrancwmsens yn barod,
cymysg y rhain a'r wermod;
Gole di y tân ynddyn
a does ymaith oddi wrthyn.

Y mae yma eisie
ydafedd o dri lliwie.
Mae Apolo yn llawenychu
yn y rhod rhifedy.
Apolo, beth sydd orau —
ai mynd ai trigo gartre?

Apolo, fo drodd dy ateb
y lleuad yw gwrthwyneb;
A thryddod ti, Apolo,
yr oedd Syrse yn gweithio.
Apolo, beth sydd orau —
ai mynd ai trigo gartre?
Trwyddod ti y cafodd hefyd
Medea i holl gyfrwyddyd;
Trwyddod ti y cafodd Enon
wybodaeth ac arwyddion;
A thrwyddot ti mae Cassandra
yn profwydo i Droya.

Apolo, beth sydd orau —
ai mynd ai trigo gartre?
Ti a droist yr afonydd
yn gwrthwyneb y gelltydd;
Ti a wnaethost y mor, Apolo,
heb na llenwi ne threio.

Apolo, pwy un a ddinystrir,
ai yr Troeaid ai'r Groegwyr?

Apolo
Y Troeaid a ocrchfygir,
a thref Droya a ennillir.
Hon yn llwyr a llosgyr,
trwy golledigion i'r Groegwyr.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19