g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19

Troelus a Chresyd (1590)

Anyhysbys
add. Steffan Donnelly

Ⓗ 2017 Steffan Donnelly
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 19

GOLYGFA 19
Cresyd yn ceisio gwellt a mantell ac yn aros ym mysg y gwahanolion a'r trueiniaid.
A'r noswaith y daeth yn eu mysg, y cwynai wrthi ei hunan ac y dywedai y peth sydd yn canlyn:

Cresyd
O, dywarchen o brudd-der wedi sincio mewn gofalon,
o carcharedig Cresyd mewn llawer o foddion,
dy lawenydd aeth ymaith, i ddwyn trymder y'th roddwyd,
o'th holl ddifyrrwch, noethlwm iawn y'th addewid.
Dy dynghedfen sydd galed, a gorthrwn fu dy eiriau;
nid oes i'w gael mo'r eli a iacha dy friwiau.
Dy orau di aeth heibio a'r gwaethaf i ti nis darfu.
Gwae fi, Dduw, na buesit cyn hyn wedi fy gladdu,
lle na buasai sôn
am Groeg nac Troea.

Ble mae dy ystafell wedi ei gwisgo â sidan drosti?
Mae dy aur-frodiad glustogau a'th amrosgo wely?
Mae'r llysiau gwresog a'r gwinoedd i'th gysuro?
Ble mae'r cwpanau o aur ac arian yn disgleirio?
Mae dy felys fwydydd a'th ddysglau gloywon gwastad?
Mae dy flasus seigiau a phob newydd arferiad?
Ble mae'r dillad gwychion a'r mynych ddyfeisiau?
Ble mae'r lawnd a'r camlad a'r euraidd nodwyddau?
Hyn i gyd a gefaist
a'r cwbl o hyn a gollaist.

Ble mae dy erddi yn llawn o risiau gwychion?
Ble mae'r tiau bychain yn llawn o fentell gwyrddion?
Ble mae'r wastad alay a llysian wedi ei thrwsio
lle y byddit Mai ac Ebrill arferol i rodio
i gymryd y boreywlith wrth dy bleser a'th esmwythdra
ac i wrando ar achwyn y felwswbwnc Ffilomela,
gyda llawer glan arglwyddes dan ganu carolau,
gan ystys y gwyrddion fentyll ai cyson doriadau?
Hyn a fu ac a ddarfu
pethau eraill rhaid croesawu.

Ffortun ffiaidd!

Cymer lety'r clipan am dy eurblas uchelgrib,
am dy esmwythglyd wely cymer hyn o wellt oerwlyb,
am dy fwydydd gwresog a'r gwinoedd o bell a ddyged
cymer fara toeslyn a sucan sur i'w yfed.
Am fy eurglais melys a'th garolau cyn fwyned
cymer oernad gerwin, dychryn gan bawb dy glywed.
Am dy bryd, dy wedd, dy lendid a'th hawddgarwch
cymer wyneb gwresog, brychlyd, yn llawn o ddiffeithwch.
Ac yn lle dy liwt, ymarfer
â'r cwpan yma a'r claper.

Chwychwi arglwyddesau o Droea a Groeg ymwrandewch
am annedwyddol fuchedd, ac i ffortun na ymddiriedwch.
Fy mawr anras, yr hwn nis gall neb mo'i orfod,
gwnewch yn eich meddwl ohonof i ryfeddod.
Fel yr ydwyf i'r owran nid hwyrach i chwithau fod;
er eich glendid a'ch gwychder i'r un diwedd y gellwch ddyfod,
neu i ddiwedd a fo gwaeth, os oes gwaeth na gwaethaf.
Am hyn bid bob amser eich meddwl ar y diwethaf.

Dim ydyw eich glendid ond darfodedig flodeuyn;
dim ydyw eich goruchafiaeth a phob peth sydd i'ch canlyn
ond gwynt yn chwythu yng nghlustiau eraill faswedd,
eich siriol wynebpryd diflannu a wnaiff o'r diwedd.
Bid ohonof i bob amser esiampl yn eich meddwl
yr hon sy'n dwyn tyst ar hyn i gyd yn gwbwl.
Pob peth daearol mal gwynt i ffwrdd a wisga;
am hyn bid bob amser eich meddwl ar y diwaetha.

Trueiniaid
Paham yr wyt yn erbyn y pared yn ymguro felly,
ai ceisio dy ladd/dinistro dy hun ac heb fendio er hynny?
Gan nad ydyw ochain ond chwanegu dagrau i'th lygaid,
fy nghyngor i ti, wneuthur rhinwedd o angenrhaid,
dysg drosi dy glaper i fyny ac i wared,
a dysg fyw ar ôl cyfraith y begeriaid.


Troelus ac arglwyddi eraill yn myned heibio.

Trueiniaid
Arglwydd trugarog, er mwyn Duw yr ydym yn gwylied
rhan o'ch elusennau ym mysg hyn o drueiniaid.


Troelus yn rhoddi peth i bawb ac yn rhoddi i Cresyd wregys a phwrs euraid yn llawn o aur a thlysau, ac yn caru ei golygiad, ac er hyn heb ei hadnabod, ond yn bruddaidd myned ymaith.
Ac yna y dywedai un o'r trueiniaid wrthi:

Trueiniaid
Fe gymrodd yr arglwydd hwn fwy o drugaredd wrthyd
nag a gymres wrthym ni yma i gyd.

Cresyd
Pwy ydoedd yr arglwydd aeth heibio diwethaf,
a fu mor drugarog i ni â hyn yma?

Trueiniaid
Hwn ydyw Troelus, marchog o Droea,
mab brenin Priamus a gŵr o'r gwrola.

Cresyd
Ai hwn yw mab y brenin Priamus?
O anghywir Gresyd a chywir farchog Troelus!
Dy gariad, dy lendid, dy foneddigeiddrwydd, farchog,
a gyfrifais yn ychydig pan oeddwn ifanc oludog.
Fy meddwl oedd yn llawn o wag oferedd gwamal,
a beunydd yn dringo i dop yr olwyn anwadal,
a hyn a'm twyllodd yn anghywir i fab brenin Priamus.
O anghywir Gresyd a chywir farchog Troelus!

O wir gariad arnaf, ti a gedwaist dy urddas
mewn gonestrwydd a theilyngdod ym mhob cymdeithas;
i ferched a gwragedd amddiffynnwr fuost ffynedig,
a'm meddwl innau ar faswedd, oferedd llygredig;
a hyn a'm twyllodd yn anghywir i fab brenin Priamus.
O anghywir Gresyd a chywir farchog Troelus!

Cariadau, gochelwch, ac yn hyn byddwch ddyfal,
i bwy a rhoddwch eich cariad a thros bwy y dygwch ofal.
Deallwch hyn, nad oes ond ychydig o'r rai perffaith
ar y gellwch goelio iddynt ar gael cywirdeb eilwaith.
Ofer yw'r trafael - profwch hyn pan y mynnoch;
fy nghyngor i chwi - eu cymryd yn y modd ag y'u caffoch.
Chwi a'u cewch hwynt cyn sicred yn eu gweithred a'u harfer
ag ydyw ceiliog y ddrycin sy'n y gwynt bob amser.

Yr wyf yn deisyf arnat roi fy nghorff mewn daear galed
i ymborthi nadredd, llyffain, a mân bryfed;
fy nghwpan, fy nghlaper, a chwbwl o'm anghenrhaid
rhan hynny ym mysg fy nghymdogion trueiniaid.
Yr aur, yr arian a roddes Troelus i mi,
cymer i ti hynny er help ar fy niwarthu.
Y fodrwy a'r ruwbi sy'n y fodrwy wedi ei gweithio,
hon a hebryngodd Troelus yn arwydd oddi wrtho,
dod hon iddo cyn gynted ag y derfydd amdana',
a gwna fe'n gydnabyddus o'r farwolaeth yma.

Yr wyf yn gorchymyn fy ysbryd gyda Diana i driog,
'rhyd meysydd a choedydd a dyfroedd i rodio.
O, Diomedes, ti a gefaist yr holl arwyddion
a hebryngodd Troelus i mi yn anerchion.
Annrhugarog oeddyt, o fab i frenin Tideus!
O anghywir Gresyd a chywir farchog Troelus!


Ac ar hyn bu farw.

Rhagddoedydd
I Troelus pan ddywedwyd o drwm farwolaeth Cresyd,
gwallt ei ben a dynnodd fel dyn ynfyd.
O'i gwendid, o'i thlodi, o'i nychod pan glywodd,
o dosturi a thrymder mewn llesmair er syrthiodd.
Tra fu fyw, yn ochneidio bob dydd amdani.
Fel arglwyddes y mynnodd i'r ddaear ei diwarthu,
o gerrig marbl y parodd wneuthur bedd iddi.
Ar ei bedd yr ysgrifennes i bawb yno a ddelai
y rheswm hwn sy'n canlyn, mewn euraidd lythrennau,
"Gwelwch, arglwyddesau, lle mae Cresyd o Droea'n gorwedd,
ryw amser yn flodeuyn ar holl ferched a gwragedd".

O'r diwrnod hwn allan rhoes ddiofryd nas peidiau
ag ymladd mewn rhyfel nes marw o waith cleddau.
Yn y diwethaf hyn i gyd a gywires,
ei einioes a gollodd ar law creulon Achiles.
Pandar o drymder a dorrodd ei galon;
hyn ydyw diwedd hyn i gyd o achosion.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19