g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19

Troelus a Chresyd (1590)

Anyhysbys
add. Steffan Donnelly

Ⓗ 2017 Steffan Donnelly
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 10

GOLYGFA 10

Troelus
Pa fodd y gallaf aros deng niwrnod modd yma,
pan ydyw cyn anhawsed i'm gydfod y diwrnod cyntaf?

Pandar, gan yr hiraethus drymder sydd arnaf,
parhau yn hir yn wir mi a wn nis gallaf,
odid im gaffael fy einioes hyd yfor.
Oherwydd hyn yma, atolwg i ti ddychmygu
pa fodd y gwneir fy medd,
os rhaid i mi yno orwedd,
ac am bethau anghenrheidiol
i roddi lle y'u bo gweddol.

Fy nghlon, pan fyddo wedi llosgi hyd yn ulw,
hel hwn yn yr unlle a bydd sicr o'i gadw,
a dod mewn llestr o aur wedi ei wneuthur i hynny
a hebrwng i'r arglwyddes a fum gynt yn ei gwasanaethu.
A dangos mai o'i chariad
y digwyddodd y digwyddiad:
am gadw hwn dymunaf
er mwyn dwyn cof amdanaf.

Pandar
O Troelus, pa fodd y mae rhain yn cytynnu
sy'n gweled eu cariadau ac eraill yn eu priodi,
a hefyd yn eu gweled mewn gwelyau eu gŵyr priod?
Duw a'i gŵyr, trwy synnwyr mae gorfod iddynt gydfod.
Fel mae amser i'th friwo,
felly daw amser i'th helpio.
Nid yw'r amser ond agos:
gobaith da yn hir all aros.

Troelus
Myfi a wn wrth y modd y cymrodd fy nolur myfi a'm prudd-der
ac wrth fy mreuddwydion i, rhaid im farw ar fryder.
Hefyd y dylluan hon a elwir Aschaffilo
sydd y ddwy nos diwetha uwch fy mhen yn cregleisio.
Tithe, y duw Mercwri,
pan rhyglydd bodd i ti,
gyrchi yr ysbryd poenedig
allan o'r corff aniddig.

Pandar
Dy wendid, dy ynfydrwydd a'th drafferthus freuddwydion
gad ymaith gyda dy holl feddyliau gweigion,
y rhain sy'n tyfu o felancoli gwydn,
yr hwn sydd achos o drafferthus gyntun.
Hyn yr ydwyf yn ei weled:
nad oes undyn ar a aned
a fedr yn union
roddi deall ar freuddwydion.

Yr hen bobl a ddywed am freuddwyion
mai hwy sy'n dangos dirgelwch Duw cyfion,
eraill yn dywedyd mai o uffernol hudoliaeth,
ac eraill yn meddwl mai complecsiwn amherffaith,
a'r llall sy'n dangos
mai glythineb yw'r achos.
Nis gŵyr neb yn sicir
pwy un o'r rhain a goelir.

Y dysgedig a ddywed mai impresion
ydyw'r achlysur i'r holl freuddwydion,
megis petai un yn meddwl ac ar hynny yn cysgu.
Y meddwl eilwaith sydd ynddo yn adnewyddu.
Chwi a gewch ryw un i siarad
mae ar ryw amser ar y lleuad;
rhai eraill, wrth y flwyddyn;
nid gwiw coelio gormod unddyn.

Yr hen wragedd sy'n rhoi mwyaf coel mewn breuddwydion
neu mewn awgwri o ehediad adar gwylltion.
Mae llawer, rhag ofn, wrth fran llesmeirio,
wrth glywed cigfrain ac adar cwrffwr yn drwcleisio.
Gwae fi, dduw, pan fytho
y fath bethau a hyn i'm trwblio;
a bod Cresyd mor berffaith
a dyn yn gobaith.

Tyred, gad i ni siarad am yr hen fuchedd yn Nhroea,
y modd y buom gynt yn fyw ac y byddwn eto ar hyn yma.
Cyn myned heibio y ddegfed awr o'r degfed dydd
fe dry hyn i gyd i ti mewn hir lawenydd.
Awn oddi yma yn union
at frenin Sarpedon
i somi hyn o amser
sy'n atgoffau dy brudd-der.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19