g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19

Troelus a Chresyd (1590)

Anyhysbys
add. Steffan Donnelly

Ⓗ 2017 Steffan Donnelly
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 9

GOLYGFA 9

Rhagddoedydd
Bellach mae'n dyfod nesnes y dynged
hon y mae Iau o'i ddirgelwch yn ymwared,
ac i chwithau, Parcas ddicllon, dair chwiorydd,
mae'n gorchymyn i chwi ar hyn wneuthur diwedd.
Mae Diomedes yn dyfod ac Antenor i Droea.
Mae Cresyd yn mynd ymaith at y Groegwyr
a Troelus yn dwyn penyd nes darfod i Lachesys nyddu edau ei fywyd.

Diomedes
Yr urddasol arglwyddi ar gwbwl o Droea ac Asia,
oddi wrth frenhinoedd Groeg yr wyf i'n dyfod yma,
ac yn dwyn i chwi y carcharwr hyn yn gyfnewid
am unferch Calchas, fel yr oedd eich addewid.
Diolchgar ydynt hwythau
am yr heddychol ddyddiau,
a'r cytundeb yn sicir
o'u rhan hwy a gedwir.

Priaf
Diomedes: mae i chwi groeso oddi wrth frenin Agamemnon:
sefyll ydd ydym ni yn y cytundeb addawson,
derbyn y carcharwr Antenor i'w ryddid
a rhoddi i chwi amdano y forwyn yma, Cresyd.
Ymsicrhewch Agamemnon
nas torrwn ni ar a addawson;
brenin Troea nis torrodd
ar ddim erioed addawodd.


Cyfnewid yn digwydd. Mae Troelus yn dywedyd wrtho ei hunan:

Troelus
Paham nas gwnaf i dlawd a chyfoethog o'r unwaith
gael digon i wneuthud cyn mynediad Cresyd ymaith?
Paham nas dysgaf Droea i ryfel disymwth?
Paham nas laddaf Diomedes cyn ei fygwth?
A paham nas dygaf
hon ymaith ar ei gwaethaf,
a pha aros yr wyf innau
cyd, heb helpu fy noluriau?


Pawb yn ymadael, ond Troelus. Dilynwn Diomedes a Cresyd ar y ffordd i Roeg:

Diomedes
Siriwch! Paham yr ydych chwi cyn budredd?
Eich annwyl dad ar hynt a gewch ei weled,
hwn sydd yn cystuddio mewn hiraethus ofalon
eich bod yn byw oddi wrtho ym mysg ei elynion.
Os tybiwch chwi y galla
i'ch meddylie roddi esmwythdra,
rwy'n deisyfu arnoch ac yn erfyn,
a hyn allan, fy ngorchymyn.

Mi a wn, Cresyd, fod yn chwith ac yn ddieithr gennych -
nid yw hyn ryfeddod i'r sawl a ŵyr oddi wrthych -
gyfnewid cydnabyddiaeth y Groegwyr, sydd i chwi yn ddieithriaid,
am y Troeaid, eich cymdogion, a Throea, y man y'ch ganed
Na feddyliwch nas cewch weled
ym mysg y Groegwyr wŷr cyn laned
ag sydd yn Nhroea a'i swydd,
a chwaneg o garedigrwydd.

Troelus
Ble mae yr owran, fy arglwyddes am anwylyd?
Ble mae ei phryd a'i gwedd? Ble mae Cresyd?
Ble mae ei deufraych a'i golwg eglur sirian
ydoedd gynt yn dy lawenychu Troelus, truan?
Wylo yn hawdd a elli
yr heilltion ddagrau amdani;
nid oes yma ddim i'w weled
ond y llawr y nen ar pared.

Diomedes
Mi a fynnwn i chwi fy nghymryd megis eich brawd diniwed,
ac na wrthodych fy ngharedigrwydd pan ddelych ym mysg dieithriaid,
er bod eich prudd-der o achosion mawr yn tyfu,
nid hwyrach mewn amser y gallwn i eich helpu.
Onide hyn a wyddwn,
eich trymder nis ychwanegwn,
ond trwm a fyddwn innau
dros drymder eich meddyliau.

Er bod y Troeaid wrth y Groegwyr yn ddicllon,
a'r Groegwyr wrth y Troeaid beunydd yn greulon,
yr un duw cariad mae'r ddwyblaid yn ei wasanaethu,
a'r ddwyblaid mae'n orfod i'r duw yma eu helpu.
Er duw, pwy bynnag a'ch digiodd,
arnaf i na roddwch anfodd;
myfi ni chlywaf arnaf
ryglyddu eich dig na'ch gwaethaf.

Troelus
Pwy sydd yr owran i'th weled, fy ngwir, gywir arglwyddes?
Pwy sy'n eiste yn dy ymyl, a phwy sy'n dy alw'n fesitres?
Pwy sydd a lawenycha dy galon drom hiraethus?
Mae Troelus heb fod yna; pwy sydd it gynghorus?
Wrth bwy y gelli ddoedyd
ydiw Troelus yn y byd?
Mae Pandar yn ochneidio
a Throelus truan yn wylo.

Diomedes
At y Groegwyr gan ein bod yn owran yn agosed,
neu at dent Calchas - bellach all ein gweled -
mi adawaf, i gadw fy nghyfrinach angall
wedi ei selio yn fy meddwl tan ryw amser arall.
Moeswch i mi, Cresyd,
eich llaw, eich cred, eich addewid
ar gaffael o Diomedes
fod yn nesaf ddyn i'ch mynwes.


Cresyd yn rhoddi ei llaw i Diomedes.

Diomedes
Mae cymaint o farchogion ym mysg Groegwyr mor rhinweddol,
cyn laned, cyn foneddigeidded, ac mor weddus naturiol,
a phob un a wnaiff ei orau am ei einioes a'i fywyd
ar gael ohonynt ennill eich gwasanaeth chwi, Cresyd.
Arnoch chwi y deisyfaf,
am y boen a'r drafael yma,
yng ngwydd y rhain fy enwi
yn wasanaethwr ufudd i chwi.

Cresyd
I chwi, Diomedes, yr wyf yn ddiolchgar, yn enwedig
am eich poen ac am eich ewyllus da rwy'n rhwymedig,
eich gwasanaeth, eich cymdeithas, eich cynghorion,
a derbyn i'r gorau eich holl eiriau caredigion.
A hyn a ellwch goelio
er dim a all ddigwyddo,
o flaen un ar a aned
ynddoch chwi y bydd f'ymddiried.


Ar hyn mae yn canfod ei thad, sydd wedi heneiddio ac yn amlwg yn sal.

Cresyd
Atolwg i chwi, fy nhad, eich bendith a rhoddwch i mi;
hiraeth mawr amdanoch hyd yn hyn a ddugum.

Calchas
Fy mendith i ti a ffyno, f'anwylyd a'm un llygad;
nis cysgaith noswaith ddiofal gan ofal mawr amdanad.
A flinaist yn dyfod yma?
Mae'r newyddion o Droea
nad ydynt hwy ond aros
y gwrthwyneb sydd yn agos.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19