| |
---|
|
Cerddoriaeth.
Ar y sgrin, ALUN. Siwt, tei ac ati.
Y camera'n dilyn ALUN wrth iddo gerdded allan o'i fflat. Mae'n cerdded tua'r stryd fawr. Heibio'r Tesco Metro. Heibio'r heidiau o bobl. Y mae'n croesi heol neu'n defnyddio lôn danffordd. Yn cerdded trwy barc, efallai. Yn pasio cannoedd o bobl. Pob un ar drywydd gwahanol, unigryw.
Ac ALUN yn ei fyd bach ei hun.
Yn ystod yr uchod, mae ALUN yn mynd i eistedd gyda'r gynulleidfa. Mae'n gwylio'r ffilm.
Ar y sgrin, mae ALUN yn dod i stop mewn man prysur. Canol y ddinas, efallai. Mae'n troi i wynebu'r camera. Yn hollol lonydd. Mae'r ffilm yn cyflymu. Mae'r byd yn parhau i symud o'i amgylch. Yn gyflym. Fel bod popeth yn symud yn gyflym iawn ac ALUN yn y canol yn llonydd ac yn syllu'n syth at y camera.
Ac mae ALUN yn gwylio yn y theatr. Yn rhan o'r gynulleidfa.
Ar ôl tipyn, mae'r ffilm yn arafu. Yn dychwelyd i gyflymder naturiol y byd.
Mae ALUN yn troi ei sylw at yr awyr. Yn edrych i fyny at y gofod anferth, diderfyn uwch ei ben.
Ac mae ALUN yn gwenu.
|
|
Diwedd
|