| Yn ofalus, mae ALUN yn codi LEIA yn ei law.  Fel Hamlet â phenglog Yorick.  Y mae'n aros fel hyn yn edrych arni.   | 
        |
| Alun | 
        Mae gen ti farc arnot ti. Dent bach.  | 
        
| Leia | 
        Ymhle?  | 
        
| Alun | 
        Fan hyn.  | 
        
| Leia | 
        O ganlyniad i'r ergyd.  | 
        
| Alun | 
        Ie?  | 
        
| Leia | 
        Yr ergyd wrth lanio.  | 
        
| Alun | 
        Wyt ti'n ei deimlo?  | 
        
| Leia | 
        Nid yw pod fel hyn yn trosglwyddo teimladau ffisegol.  | 
        
| Alun | 
        Rwy'n gweld.  | 
        
| Leia | 
        Mae'n ymddangos nad yw'r anaf wedi effeithio ar weithrediad y pod. Rydw i'n ddiolchgar i ti am sylwi.  | 
        
| Alun | 
        Beth am deimladau emosiynol?  | 
        
| Leia | 
        Ym mha gyd-destun?  | 
        
| Alun | 
        O ran trosglwyddo teimladau. Ydy'r pod yn gallu trosglwyddo teimladau emosiynol? Wyt ti'n gallu teimlo emosiwn?  | 
        
| Leia | 
        Ydw.  | 
        
| Alun | 
        Pob emosiwn?  | 
        
| Leia | 
        O'r chwe emosiwn sylfaenol, rydw i'n medru teimlo pob un ohonynt.  | 
        
| Alun | 
        Chwech?  | 
        
| Leia | 
        Mae gan fodau datblygedig y gallu i deimlo emosiynau sydd yn dod dan chwe changen sylfaenol. Gellir dosbarthu pob emosiwn posib i'r chwe chategori hyn.  | 
        
| Alun | 
        Am ffordd o symleiddio teimladau!  | 
        
| Leia | 
        Ond mae'r canghennau sydd yn deillio o'r chwe emosiwn sylfaenol yn gymhleth tu hwnt. Yn ddiddiwedd.  | 
        
| Alun | 
        Felly sut wyt ti'n gallu teimlo?  | 
        
| Leia | 
        Sut wyt ti'n gallu teimlo?  | 
        
| Alun | 
        Mae'n digwydd yn naturiol.  | 
        
| Leia | 
        Dyna yn union sut yr wyf i'n teimlo hefyd, er mai geiriau yw fy unig ffordd i o fynegiant. Mae geiriau yn wyddonol, rhesymegol, ffeithiol.  | 
        
| Alun | 
        Beth am chwerthin? Llefen?  | 
        
| Leia | 
        Nid yw gweithredoedd ffisegol yn rhan o'n hunaniaeth.  | 
        
| Alun | 
        Cwtsh. Allwch chi ddim cwtsho?  | 
        
| Leia | 
        Mae fy nghronfa ddata yn egluro mai coflaid yw cwtsh. Nid yw cofleidio yn rhan o'n hunaniaeth.  | 
        
| Alun | 
        Mae cwtsh yn fwy na coflaid. Mae cwtsh yn... special. Mae'n... mae'n anodd egluro.  | 
        
| Leia | 
        Rydw i eisiau profi cwtsh.  | 
        
| Alun | 
        Wyt ti?  | 
        
| Leia | 
        Hoffwn deimlo cwtsh os gweli di'n dda.  | 
        
| Alun | 
        Iawn...  | 
        
| Yn araf ac yn betrus, mae ALUN yn rhoi cwtsh hir i LEIA.   Saib.  | 
        |
| Leia | 
        Na.  | 
        
| Alun | 
        Na?  | 
        
| Leia | 
        Ni allaf deimlo un o'r emosiynau y soniaist amdanynt.  | 
        
| Alun | 
        Dim byd?  | 
        
| Leia | 
        Mae fy synwyryddion allanol yn darllen gwasgedd a gwres uchel.  | 
        
| Alun | 
        Sori.  | 
        
| Leia | 
        Pam wyt ti'n ymddiheuro?  | 
        
| Alun | 
        Roeddwn i eisiau i ti deimlo cwtsh.  | 
        
| Leia | 
        Nid yw fy iaith raglenni yn galluogi hynny.  | 
        
| Alun | 
        Roeddwn i eisiau i ti deimlo'r hyn sydd yn digwydd rhwng dau berson. Rhwng pobl ar y blaned yma...  | 
        
| Leia | 
        Rwyt ti eisiau cwtsh gan dy fam.  | 
        
| Saib.   | 
        |
| Leia | 
        Mae'r blaned hon yn teimlo ac yn mynegi cariad mewn ffordd arbennig. Gwahanol. Mae'n brydferth.  | 
        
| Alun | 
        Wyt ti wedi teimlo cariad?  | 
        
| Leia | 
        Nid ar lefel ddynol.  | 
        
| Alun | 
        Mae'n unigryw, felly?  | 
        
| Leia | 
        Ydy. Mae'r cariad ar draws y ddaear hon yn eithriadol. Y cysylltiad rhwng bodau dynol. Perthyn. Perthynas. Deuthum i'r blaned er mwyn gweld. Er mwyn deall beth sydd yma.  | 
        
| Alun | 
        Ar dy ben dy hun?  | 
        
| Leia | 
        Ar ôl colli. Er mwyn gwella mewn byd iach.  | 
        
| Alun | 
        Dyw'r ddaear ddim yn iach.  | 
        
| Leia | 
        Mae'n llawn lliw. Yn llythrennol ac yn emosiynol. Mae'n fyd lle mae emosiwn yn gyrru popeth. Mae hi'n fyd sydd yn wirioneddol fyw.  | 
        
| Alun | 
        Ond mae emosiwn yn gyrru pethau negatif hefyd. Emosiwn yw'r rheswm dros ein dioddefaint. Dros y boen rydym yn ei deimlo mewn colled.  | 
        
| Leia | 
        Mae'n rhaid dysgu i fyw gyda'r boen. Fydd e byth yn diflannu.  | 
        
| Alun | 
        Sut, Leia? Helpa i fi ddeall.  | 
        
| Leia | 
        Does dim i ddeall.  | 
        
| Alun | 
        Plîs.  | 
        
| Leia | 
        Mae'n rhan o fywyd. Yn y diwedd, mi fyddi di'n gweld... 'Per ardua ad astra'.  | 
        
| Alun | 
        Lladin? Sut mae rhyw hen eiriau mewn Lladin i fod i helpu?  | 
        
| Leia | 
        Cyfieithiad... "Through adversity to the stars."  | 
        
| Tywyllwch.   |