GOLYGFA 13 |
|
Troelus |
Bellach mae yn canlyn y goleubryd siriol Fenws rhyd y cynefin lwybr y disgynes ar i wared Phebws; bellach, mae Citherea ai chyfle i gwagen yn tynny ac yn troi allan o'r llew hyd y mae ei gallu. Mae signiffer yn gole y ddaear a'i chanwylle; bellach, mai rhyfeddod am Cresyd yma yn dywod! O arglwydd Ciwpid, mawr fi i mi dy anrugaredd, pan atgoffaf fy hun o'm holl ddrwstan fuchedd, ac fel y blinaist bob dydd yn waeth na'i gilydd: fy muchedd i yn ystori i'r byd i gyd a ddigwydd. Pa oruchafiaeth sydd i ti bob amser fy ngorchfygu? Mi a ymrois i ti yn ffyddlon, er dy gael yn arglwydd creulon. Planna yng nghalon Cresyd y fath ewyllys ddyfod cyn gynted fel y rhoddaist i mi hiraeth a chwant am ei gweled. Y diwrnodiau a'r nosweithiau a fu'n hwy o lawer nag y byddai y rhain arferol o fod bob amser; yr haul a gerddes ei gwmpas ar gam yn bellach, neu mae'n myned i'w siwrnai yn annibennach. Y degfed ddydd aeth heibio, Y ddegfed nos yw heno; yn llawen bellach y'm gwelir os yw'r byd i gyd yn gywir. |
Troelus yn cerdded i'r man cyfarfod trwy'r olygfa nesaf, yn disgwyl yno. |