| ANNE yn cadw llygad ar MARGOT ac yn ymateb i bob swn ma hi'n ei wneud. |
|
| Anne |
Well rwan? Mi ga'i rywun i helpu mi fynd a ti at doctor. |
| Margot |
Misio. |
| Anne |
I ti gael gwella. |
| Margot |
Na. |
| Anne |
Wrach ge'i di ffisig. A fyddi di'm run un! Be ti'n ddeud? (ANNE yn mynd i afael am MARGOT.) Nghariad gwyn i. |
| Margot |
Mam? |
| Anne |
Naci, Margot. |
| Margot |
Mam? |
| Anne |
Paid rwan. |
| Margot |
Isio… |
| Anne |
Gawn ni weld Mam sdi…yn munud. |
| Margot |
Boeth… |
| Anne |
Gorwedd di rwan. |
| Milwr |
Allan! |
| Milwr 2 |
Pawb allan! |
| Anne |
Aros di'n fama ia? Fydda i'm yn hir. |
| Milwr |
174, 175, 176… |
| ANNE yn hymian can y dawnsio nes mae ei rhif hi a MARGOT yn cael ei alw. |
|
| Milwr |
182…182? |
| Anne |
Ia. |
| Milwr |
183…183 |
| Anne |
Ia. |
| MILWR 2 yn sylwi mai ANNE sydd wedi ateb y ddau rif. ANNE yn ofni cael ei chosbi. MARGOT yn gorwedd yn farw ym mreichiau ANNE. |
|
| Anne |
Gafael yn y mwg Margot rhag ofn i rywun ei ddwyn o. Sgin ti'm syched? Ma raid i ti yfed! Bwysicach na dim! Tyd rwan Margot! Tisio tamad o fara ta? Mi ges i hyd iddo fo tu ol i'r gegin. Agor dy geg rwan! Isio llonydd ti, ia? Isio mi adael ti gysgu i fod yn gry at fory? Ma raid ni gael ein cyfri yli! Tyd rwan! Rown ni ti i bwyso yn erbyn y wal lle gei di gysgod. E? Isio mi fyta fo ti? Na ti bia fo! Da ni'n gofalu am ein gilydd dydan? Pawb arall ar ben u hunin yli! Ond ddim y ni! Tyd Margot fach, llynca fo! Plis Margot? |
| Milwr |
Allan! Rwan! |
| Anne |
Ma hi'n sal. Ellith hi'm symud. |
| Milwr |
Dos di allan ta! |
| Anne |
Y'n chwaer i di hi! Mi a'i nol rhywun i'n helpu i! |
| Milwr |
Gad hi! |
| Anne |
Fydd hi'n iawn yn munud. Plis? Mi oeddach chi'n arfer bod yn glen! Ddim fatha'r lleill! |
| Milwr |
Allan! |
| Anne |
Sbiwch! Ma hi'n styrio! |
| MILWR yn chwerthin. ANNE yn ymuno am rhywfaint. |
|
| Milwr |
Allan! |
| Anne |
Ma hi'n weithwraig dda! |
| Milwr |
Rwan! |
| ANNE yn ddiymadferth. MILWR yn galw ar MILWR 2. |
|
| Milwr |
Un arall di mynd! |
| Milwr 2 |
Swn i'm cyffwrdd yn hwnna. Mi ga'n nhw i symud hi u hunin. |
| Anne |
Gadwch i mi neud. |
| Milwr |
Rel madam fach dwyt? Isio ffor dy hun hefo bob dim! |
| MILWR ar fin gafael yn ANNE mewn ffordd rywiol. ANNE yn poeri yn ei wyneb. |