GOLYGFA 14 |
|
Cresyd |
(ar ben ei hun) Diomedes, Diomedes, gwae fi erioed dy weled, anghywir wyf bellach i'r gŵr cywira a aned; fy enw da i nis gall neb mo'i helpio, a'm gonestrwydd i bellach aiff byth mewn ango, pan dwyllais â'm anwiredd y marchog mawr ei anrhydedd; tra fo dŵr yn tramwy daear byth nis gwelir iddo gymar. Gwae fi o'm geni erioed i fod yn anghywir; un gair da byth amdanaf i nis dywedir; mewn pob llyfr ac ysgrifen y byddaf i oganus, a phob tafod amdanaf i a fydd siaradus. A'r merched yn fwyaf wrthyf i a fydd ddicaf; o'm herwydd i a'm gweithred nis rhoir ynddynt byth ymddiried. Hwy a ddywedant, oblegid fy mod mor annaturiol, ddarfod i mi eu cywilddyio'n dragwyddol; er nad ydwyf i y cyntaf a fu'n anghywir, nid yw hyn o les, mi a wn ni'm esgusodir. Er bod rhy hwyr drefnu am a basiodd edifaru, bellach mi a fyddaf gywir i Diomedes er a wnelir. O, Troelus, gan nad oes i mi ddim well i wneuthud ond gorfod ymadael â thydi fy anwylyd, ar Dduw yr archaf roddi yn rhwydd pob peth rhagot, fel i'r gŵr boneddigeiddiaf a wn erioed ei adnabod. Er darfod i mi syrthio mewn drygioni mawr i'th ddwylo, tra fo carreg mewn afon nid ei, Troelus, o'm calon. |