GOLYGFA 16 BRWYDR FFYRNIG RHWNG TROEA A GROEG. |
|
Deiffobws |
Edrych, Troelus, mi a ddugum arfau gwynion Diomedes, er hyn y gŵr yn ddifriw gennym a ddienges. Fe fu acw ymladd creulon dros ychydig amser; fe frifwyd yn ddrwg sypyn, ac a las llawer. |
Milwr |
Beth yw'r tegan yma a'r gwychder sydd yn rhwym o fewn ei goler? Dyma arwydd fod Diomedes yn gwasanaethu rhyw arglwyddes. |
Troelus |
O Cresyd, f'anwylyd, o f'arglwyddes eurbleth, ble mae'r owran eich addewid, na phle mae'r crediniaeth? Ble mae'r cariad? Ble mae'r gwirionedd, Cresyd? Diomedes sydd yr owran yn cael arnoch chwi ei wynfyd. Hyn yma a ddygaswn, a hyn drosot a dyngaswn, er dywedyd ohonot anwir na buesit byth anghywir. Pwy o hyn allan i'th lyfau di, Cresyd, a goelia? Gwae fi, tyngaswn nas gwneuthit byth hyn yma. Pwy a feddyliai fod ynddot ti feddwl cyn anwadaled, na phwy a dybiai fod dy galon di cyn greuloned â lladd dyn truan diniwed trwy dwyll a thrwy ymddiried? Gwae fi erioed o ddigwyd i ti, Cresyd, anonestrwydd. Oedd yr un arwydd gennyt ti i'w roddi i'th newydd gariad ond hwn i'w lawenychu? Ar hwn llawer heilltion ddagrau a wylais; i ti er mwyn dwyn cof amdanaf y rhoddais, a thithau er cas arnaf i Diomedes rhoist hwn yma. Wrth hyn y gwn fy mod yn rhy drwstan, gan ddarfod i chwi fy mwrw o'ch meddwl allan. Er yr holl fyd eich bwrw chwi nis medraf, allan o'm meddwl un chwarter awr nis gallaf. Ar amser drwg y'm ganed, pawb a ŵyr hyn wrth glywed: chwychwi dwyllodrus i mi, a minnau er hyn i'ch caru. Trefna im, Arglwydd, er dwyn mawr artaith, gyfarfod â Diomedes yma unwaith; trefna im nerth ac amser eilwaith; mi a wnaf i'w galon waedu am draeturiaeth. Atolwg ti, Arglwydd, edrych am y pethau hyn yn fynych: os gadewch chwi hyn heb dramgwydd, y cyffelyb a all ddigwydd. O, Pandar, ti a erchaist im na choeliwn i freuddwydion; gwêl modd y digwyddod hyn yn rhy unuion; gwêl mor gywir yw dy annwyl nith Cresyd; meddi ti "er dim hi a gywirai dy addewid"! Mynych y mae'r duwiau yn dangos hyn o wyrthiau ac yn rhybydd o'n cyntun o'r pethau sydd i'n herbyn. Ar y gwir wirionedd heb chwaneg o eiriau y dywedaf: o'r dydd hwn allan, cyn gynted ag y gallaf, fy marwolaeth greulon ar flaen yr arfau a gyrchaf, a'm trafferthus flinder ar unwaith a diweddaf. O hyn allan fe ddywedir dy fod, Cresyd, yn anghywir. Ni chaiff undyn byth ddywedyd fod Troelus yn ffals i Cresyd. |