GOLYGFA 2 |
|
Calchas |
Trwm. A! Rhy drwm yw'r meddwl sydd i'm calon mal swmbwl, nis gad i mi na huno nac esmwythdra i beidio. Pwy allai fod yn llawen a fai'n trin y fath fargen, heb wybod beth sydd orau, ai mynd, ai trigo gartre? Fy ngwlad yw gwlad yr Asia, fy nhrigfan sy yn nhref Troea, fy ngheraint, fy nghymdeithion a'm holl annwyl garedigion, y nhw a minnau o'r untu yn yr unfan yn gwladychu. Mae'r byd yn chwerthin arna i! Oni ddaw help mewn amser fe aeth hyn i gyd yn ofer! Mae Groeg i gyd yn arfog, wrth Droea mae'n llidiog. Er gwroled ydyw Hector, er gwyched ydyw Troelus, a meibion brenin Piramus, er bod dynion cyn wyched yn nhref Troea ac a aned, mae rhai o'r Groegwyr mor wychion ag allai fod o ddynion, a holl gryfdwr y rhyfel yn siŵr yw'r cyfiawn afael. Os aros a rhyfela o blaid cenedl Troea ac amddiffyn eu pechod yn erbyn fy nghydwybod, fe ddaw diwrnod o'r diwedd y dygir yn llwyr y dialedd, pan fyddo'r tân mor greulon yn llosgi Troea dirion a gwaed gwŷr yn aberoedd yn llenwi ei holl ystrydoedd. Ni cheir amser yno i fyfyr beth sydd orau i wneuthur. Os gwrthod fy nghrediniaeth, fy ngwlad, fy mraint, fy nghoweth, fy ngheraint, fy nghyndeithion, a myned at y gelynion, beth a ddoedir amdana ond 'ffalster ai difetha?' Ar Groecwyr a ddoedan "siomes ei wlad ei hunan, Bydd diau im syn innau os rhown goel arno yntau." Ac or achos hyn yma ar Apollo mi hydera; Ar pethau a orchymyn rho fy mryd ar i galyn. Sinon, cyrch di i mi ddŵr gloyw yr aberthu, a dwc yma ffiledi i gwmpasu yr allorau; Bid ffrancwmsens yn barod, cymysg y rhain a'r wermod; Gole di y tân ynddyn a does ymaith oddi wrthyn. Y mae yma eisie ydafedd o dri lliwie. Mae Apolo yn llawenychu yn y rhod rhifedy. Apolo, beth sydd orau — ai mynd ai trigo gartre? Apolo, fo drodd dy ateb y lleuad yw gwrthwyneb; A thryddod ti, Apolo, yr oedd Syrse yn gweithio. Apolo, beth sydd orau — ai mynd ai trigo gartre? Trwyddod ti y cafodd hefyd Medea i holl gyfrwyddyd; Trwyddod ti y cafodd Enon wybodaeth ac arwyddion; A thrwyddot ti mae Cassandra yn profwydo i Droya. Apolo, beth sydd orau — ai mynd ai trigo gartre? Ti a droist yr afonydd yn gwrthwyneb y gelltydd; Ti a wnaethost y mor, Apolo, heb na llenwi ne threio. Apolo, pwy un a ddinystrir, ai yr Troeaid ai'r Groegwyr? |
Apolo |
Y Troeaid a ocrchfygir, a thref Droya a ennillir. Hon yn llwyr a llosgyr, trwy golledigion i'r Groegwyr. |