| |
---|
|
ANNE yn cipio llyfr gan MARGOT.
|
Margot
|
Tyd a fo'n ol!
|
Anne
|
Dwi isio sbio ar y llunia!
|
Margot
|
Tyd a fo yma, rwan!
|
Anne
|
Mynadd Margot!
|
Margot
|
Mi o'n i ar ganol i ddarllen o!
|
Anne
|
Paid a gneud swn neu fydd gweithwyr y ffatri'n dy glywed di.
|
Margot
|
Mi gafodd y llyfr yna i ddewis gan Bep yn arbennig ar y nghyfer i. Ma gen ti dy lyfra dy hun.
|
Anne
|
Dwi di'u gorffan nhw!
|
Margot
|
Sa Mam ddim yn licio i ti sbio arno fo.
|
Anne
|
Pam?
|
Margot
|
Mae o ar gyfer rhywun hyn na ti!
|
Anne
|
Am be mae o'n son lly?
|
Margot
|
Dwi'm yn meddwl y dylwn i ddeud.
|
Anne
|
Be rhyw? Sud ma dyn yn sticio'i bidlan yn…
|
Margot
|
Stopia!
|
Anne
|
Ti'm yn swil Margot? Mae o'n naturiol i ni feddwl am y petha ma! Wrach swn i'm yn sownd yn fama swn i di 'neud o' erbyn hyn!
|
Margot
|
Paid a bod yn ffiaidd!
|
Anne
|
Ti'm yn teimlo weithia fod na awydd yn dod drosda ti i…
|
Margot
|
Ti fatha hogan fach di sbwylio! Byth yn gwbod pryd ma isio tewi! Does na'm syndod fod Mam a Dad yn dy drin di fel ma nhw.
|
Anne
|
Mam a Dad? Ma pawb wrthi! Dussel a'r van Daans am y gora yn gweld pwy ellith ddeud drefn ora wrtha i! Mychanu i a gneud hwyl ar y mhen i heb feddwl sud dwi'n teimlo tu mewn.
|
Margot
|
Wel faswn i byth yn dwyn llyfr gen ti.
|
Anne
|
Dwi'm yn son am y blydi llyfr Margot! Dwi'n son am sut ma Mam a Dad yn dy drin di a sud ma nhw hefo fi.
|
Margot
|
Ma nhw'n ein caru ni'n dwy.
|
Anne
|
Does na'm cariad rhyngdda i a Mam.
|
Margot
|
Paid a deud hynna.
|
Anne
|
Dwi'n ei weld o yn ei llygid hi.
|
Margot
|
Poeni amdana ti ma hi sdi.
|
Anne
|
Di'm yn hawdd arna i.
|
Margot
|
Mi ga'i air hefo hi. Son am sud wyt ti'n teimlo.
|
Anne
|
Siarad di'r cwbwl da ni'n neud yma!
|
Margot
|
Fyddwn ni'm yma am byth.
|
Anne
|
Dwi di laru ar bob dim!
|
Tad
|
Mi o'n i'n y'ch clywed chi, bob gair! Rhag dy gywilydd di Anne! Rho'r llyfr na yn ei ol ar dy union.
|
Margot
|
Ma'n iawn iddi sbio arno fo.
|
Tad
|
Mi fysa na ffasiwn sterics tasa Margot druan yn meiddio sbio ar un o dy lyfra di!
|
|
ANNE yn gollwng y llyfr yn swnllyd.
|
Tad
|
Cwyd o, munud ma!
|
|
ANNE yn gadael yn flin.
|
Tad
|
Tyd yn ol yma!
|
Margot
|
Eith hi'm yn bell na neith Dad?
|
Llais
|
Dydd Sadwrn, 30 Ionawr 1943 Mae pawb yn meddwl mod i'n dangos fy hun pan fydda i'n siarad…yn ddiog pan ydw i'n flinedig, yn hunanol pan fyddai'n byta un tamaid yn fwy nag y dyliwn i…ac yn y blaen ac yn y blaen. Y cwbl ydw i'n ei glywed trwy'r dydd ydi mod i ddigon a gwylltio rhywun, ag er fy mod i'n ceisio chwerthin a chymryd arnaf beidio malio ─ rydw i yn malio. Rydw i'n gneud fy ngorau glas i bleisio pawb, mwy nag y mae neb yn ei sylweddoli.
|