| |
---|
|
OTTO'n gwbwl aflonydd wrth iddo fod yn argyhoeddiedig fod swn yn y swyddfa islaw. ANNE yn aflonydd oherwydd y gwres.
|
Tad
|
Sh! Glywsoch chi o?
|
Margot
|
Swn allan oedd o Dad.
|
Tad
|
Gwranda eto! Glywis i wbath! Stedda Anne!
|
Anne
|
Ffrog ma sy'n dynn amdana i!
|
Tad
|
Sh! Na fo eto!
|
Anne
|
Dwi'n chwys doman!
|
Tad
|
Bendith Tad i ti, stedda'n llonydd!
|
Margot
|
Tyd oddi wrth y ffenast Anne!
|
Tad
|
Wyt ti isio i rywun dy weld di?
|
Anne
|
Pwy sa'n gweld trw gyrtan?
|
Margot
|
Tyd i ddarllan efo fi.
|
|
ANNE yn parhau i sefyll wrth y ffenestr.
|
Anne
|
Ga'i hagor hi'r mymryn lleia?
|
Tad
|
Sh!
|
Margot
|
Swn allan ydi o Dad!
|
Tad
|
Ma na rywun yma eto.
|
Margot
|
Bep sy'n dod a bwyd.
|
Tad
|
Ma hi'n rhy hwyr i hynny! Ista lawr Anne!
|
Margot
|
Does na'm byd yna Dad!
|
Tad
|
Symud bob dau funud! Sgin ti gynron? Neu trio ngwylltio fi wyt ti? Cwyno byth a beunydd!
|
Margot
|
Peidiwch!
|
Tad
|
Gneud ati o hyd! Trio ngwylltio i! Isio cal y gora arna i… Isio ngweld i'n torri… isio mi… isio'n lladd i! Ond ne'i di ddim! O na! Mi na'i dy ymladd di i'r pen! Bob un ohona chi! Da chi'n y ngweld i?
|
Margot
|
Sh! Shh!
|
Tad
|
Dyma fi… Dyma fi!
|
Margot
|
Sh Dad! Plis!
|
|
OTTO'n sylweddoli'n sydyn gymaint mae wedi dychryn y merched.
|
Tad
|
Ma ddrwg gynna i… Ddrwg gynna i Anne! Ti'n dallt dwyt? Ti di'n hogan fach i sdi. Geith neb dy frifo di… byth, y nghariad i. Nghalon aur i! Cariad Dad wyt ti bob tamad.
|