GOLYGFA 12 |
|
Cresyd |
Arnat, Droea, mewn hiraeth a thrymder yr wy'n edrych, dy dyrau uchel a'th reiol gaerau cwmpaswych. Llawer diwrnod llawen o fewn dy gaerau a gefais a llawer o hiraeth amdanat ti a ddygais. O, Droea, gwae fi o'r myned! O, Troelus, gwae fi dy weled! O, Troelus, fy anwylyd, wyt ti'n meddwl am Cresyd? Gwae fi, Troelus, nas gwnaethwn y peth a geisiaist! Gwae fi nad aethwm y modd a'r sut y dymunaist! Nis buaswn i yr owran yn rhoi ochenaid cyn drymed, ni ellesid ddywedyd wneuthur ohonof ddrwg weithred. Nid oes ym gael ond trwbwl i atgoffau hyn y meddwl; y cyffirie sydd ddiweddar wedi rhoi'r corff mewn daear. Mae'n rhowyr yr owran am yr achos yma siarad. O arglwyddes y synwyr, ble yr oedd dy dri llygad? Y peth a basiodd, mi atgoffais amdano; Y peth oedd yn bresenol, mi a wyddwn oddi wrtho. Ar y pethau oedd i ddyfod nis gwneuthum fawr adeilad am nas medrwn eu gweled; y mae im yn gwneuthur niwed. Ond, yn wir, treigled hyn y modd ag y mynno, yfory'r nos yn ddiffael y byddaf gyda fo; naill ai i'r deau, ai i'r dwyrain, ai i'r gorllewin y collaf i fyned at Troelus fy anwylddyn. Doeded pawb a fynan, fe wnaiff Cresyd ei hamcan; Drywant a fy'n siarad a genfigen ar gariad. |
CRESYD YN CEISIO DIANC Yn pacio ei dillad a'r tegan (brooch) gan Troelus, mae'n ceisio dianc Groeg. Gan ddringo allan o'i ffenestr a cerdded mewn tuag at giatiau y ddinas, mae Diomedes a'i ddynion yn ei dal. Diomedes yn dyfod at Cresyd |
|
Diomedes |
Fy nghariadus argwlyddes, beth a fynnwch chwi ymofyn? Am Droea neu am Droeaid, na soniwch amdanyn. Gyrrwch allan obaith chwerw a gwnewch lawenydd. Codwch i fyny'ch calon a'ch glendid o newydd, oherwydd mae Troea wedi ei dwyn ei hun i'r gwaetha; nid ydyw hon ond aros y trwm ddiwedd sydd yn agos. Meddyliwch fod Groegwyr yn gystal gwŷr eu hymddygiad, cyn onest, cyn ffyddloned, cyn berffeithied mewn cariad ag ydyw un Troewr, ac o lawer yn garedicach i ufuddhau i'ch meddyliau ac i'ch gwasanaethu yn ffyddlonach. Chwi a roesoch im gennad i draethu wrthych beth o'm siarad: fe ddywed pobl lawer na ddylid caru merch mewn prudd-der. Bid hysbys i ti, Cresyd, mai unfab Tideus y'm barned, a'm bod cyn foneddiced ag un Troewr ar a aned, a phe buasai fy nhad fyw hyd y dyddiau yma mi a fuaswn frenin ar Arge a Chalsedonia. Ei farwolaeth a gyrches pan fu'r rhyfel wrth Thebes, fe lladdwyd Polimeite a llawer o'r rhai gore. F'anwylyd, gan fy mod yn gwasanaethu eich anrhydedd, a chwithau yw'r ferch gyntaf a ddymunais ei thrugaredd, erfyn yr wyf yn lleigus gael chwaneg wrthych siarad. Beth a bair ddrwgdybio ond hir ymdroi mewn cariad? Fy meddwl ni rhaid dangos, ni wnaiff geiriau ond paentio'r achos; y peth sydd raid ei wneuthur nid gwaeth yn fuan nag yn hwyr. |
Cresyd |
Diomedes, Diomedes, mae ti orchymyn fy meddyliau, gwae fi erioed wybod oddi wrth ryw bethau. Ond mae gwŷr cyn laned o fewn tref Troea ag sydd â'u trigfan rhwng Orcades ac India. O rhyglydd bodd i chwi ddyfod yn lleigus, mae i chwi gennad; a phan ddeloch chwi yno, chwi ellwch orchymyn croeso. |