GOLYGFA 15 |
|
Troelus |
(i Cassandra) Am fi'n cysgu, noswaith, yn syrn flin, Cassandra, mi a freuddwydiais yn y modd i chwi y ddoeda: mi am gwelwn mewn forest yn rhodio ac wylo y byddwn o gariad ar ryw ferch ryw amser a adwaewn. Gwelwn, wrth rodio am gylchion, ryw faedd ac yscithredd creulon; a'r baedd ydoedd yn cysgu a'r haul arno yn llewyrchu. Yn cusanu y baedd yma, mi a welwn Cresyd, ac ai deufraych yn bleth amdano y gwelwn hefyd. Trwy chwithder a dychryn ei gweled yn y fath fodd ac felly yr ofn yma o'n cyntyn a'm deffrodd. Er pan welais y breuddwyd, yr wyf mewn gofal ac arswyd, yr wyf fi yn erfyn ac yn damuno i chwi roddi deallt arno. |
Cassandra |
F'anwylyd Troelus, os deallt y breuddwyd yma a fynwch, a chlywed y gwirionedd amdana a chwnychwch, mae'n rhaid i chwi glywed hen ystoriau lawer a hanes argwlyddi perthynasol i hyn o fater. Ac felly y cewch chi wybod o ble mae'r baedd yn dyfod, a phwy ydiw'r baedd hefyd, fel y mae hen lyfre yn doedyd. Diane, hon sy mewn digofaint mawr a diclloni wrth Roegwyr ar achos am na aberthen iddi, a phan welodd y dduwies y llyn yma ei dirmygu, hi a fagodd greulondeb ac a weithiodd drygioni. Trwy faedd creulon ffyrnig yn gimyn ac ych pascedic; hwn yw distriwio ei gwinydd, ei hyde a'i perllanwydd. I ladd y baedd yma, fo goded pobl lawer; y mysg y rhain, fo ddoeth arglwydd Meleager. Hwn oedd yn cari rhyw ferch lan, anianol, hon oedd yn aros yn y wlad yn wastadol. I'r baedd y doeth gwrthwyneb trwy nerth a grym gwroldeb; y baedd ei hun a laddodd, a'i ben i hon a hebryngodd. A'r baedd hwn sy'n arwyddo Diomedes mab Tideus; hwn sy'n dowod o Feleager fel y clywsoch, Troelus. Ble bynnag y mae Cresyd, dy arglwyddes anwyl dithe, mae hi yn eiddo Diomedes, a Diomedes yn ei heiddo hithe. Hawdd y gelli fynd yn drymgla allan o ddadl yw hyn yma; Diomed sy'n ei meddwl yr owran a thithe, Troelus, y sydd allan. |
Troelus |
Celwydd, gyfarwyddes, yw dy drafferthus eirie gweigion, a'th holl anuwiol broffodoliaethu ffeilsion! Di a fynni fod dy fuchedd a'th chwedle di'n dduwiol a thithe'n codi chwedlau ar arglwyddesau rhinweddol. Duw a drefno i ti brudder — ffwrdd o'm golwg mewn amser; yn wir, nid hwyrach y byddi yn gelwyddog, cyn yfory. Cyn hawsed y gelli ddoedyd y celwydd yma ar rinweddol Alceste, ei ddoedyd ar Gresyda; gwr hon, pan oedd mewn perygl mawr amdano, naill ai gorfod marw ei hunan a'i rhoi un i farw drosto, Hon a ddewisodd gydfod a marfolaeth droes ei phriod. Gwn mae felly y gwnai Cresyd cyn colli Troelus ei fywyd. |