GOLYGFA 5 |
|
Rhagddoedydd |
Yn yr amser yma y digwyddodd y Groegwyr wrth fod yn wastadol wrth ymladd tan walie Troea, yn garcharur, Antenor, un o uchelwyr Troea. Yn hyn, fo godes hiraethmawr ar Galchas am ei ferch Cresyd ac ofn rhag dyfod tramgwydd i'r dref Troea mewn amser disymwth, ac yn hyn colli ei ferch, y fo a syrthies ar ei linie ger bron Agamemnon un o frenhinoedd Groeg i ddeisyf cael Antenor i'w roddi yn gyfnewid am Gresyd. |
Calchas |
Gwybyddwch, f'arglwyddi, mai Troean y'm genedigaeth; gwybyddwch mai myfi a ddwg i chwi gyntaf oruchafiaeth; gwybyddwch mai myfi yw'r arglwydd Calchas, yn eich holl flinder a wnaeth i chwi urddas. Mi a fum yn proffwydo bob amser i'ch cysuro y dinistriech chwi â rhyfel tref Troea cyn ymadael. Deuthum fy hun atoch mewn malais i roddi i chwi fy holl gyngor a'm dyfais, heb edrych unwaith am ddim ar a wyddoch ond rhoddi i gyd fy ymddiried ynddoch. Y cwbwl i gyd y gollais o fewn Troea ar a feddais; diwgyn gennyf, trwy feddwl, er eich mwyn chwi, golli'r cwbwl. Pan fum yn aberthu i Apolo ddiwaetha, o'r rhyfel gofynais a'i ateb oedd hyn yma: fod y "dialedd yn agos ar ddigwyddo iddi" — hyn a wn hefyd trwy reol Astronomi — y bydd tân a gwreichion dros Droea yn greulon, a'r dialedd hyn sydd agos, cyn pen y nawfed wythnos. Hefyd mae Neptun a Ffebws, y duwiau y rhain a wnaeth o bobtu y caerau, yn ddicllon iawn wrth genedl Troea, oblegid hyn bydd haws eu difetha. Oherwydd nas talent i rhain y pethau a ddylent, caerau hon a losgir a'i phobl a distrywir. Ond unferch, hon yn wirion, gartref a adewais (pan gollais i o Droea) yn ei gwely'n ddifalais. Annaturiol dad a chreulon iddi oeddwn, hon gyda mi yn ei huncrys nas dygaswn. Gan hiraeth a gofalon a hir ddygais i'm calon nis gallaf, fy arglwyddi, yr owran mo'r byw hebddi. Llawer yr owran o garcharwyr a ddalied o'r Troeans - mae'r rhain mewn mawr gaethiwed. Pes cawn un o'r rhain yma i gyfnewid â brenin Priaf am fy unferch Cresyd: atolwg i mi gaffael un o'r rhain yn fy ngafael a deisyf cael Antenor - hwn nid hawdd mo'i hepgor. |
Agamemnon |
Diomedes, i Droea, at Frenin Priaf cerddwch, deisyfwch arno roddi in tair wythnos o heddwch fel y gallwn ninnau ein carcharwyr gyfnewid. Ni a rown iddynt Antenor ar cael Cresyd. Llai o amser nis gwasnaetha, trwm fu'r ymladd diwaetha, i feddyginiaethu'r rhai a frifwyd ac i gladdu'r rhai a laddwyd. |