a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12
Ⓗ 2014 Euros Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 3

Golygfa 3

Mae drws y capel yn agor.

Clywir, o bell, pump o wŷr ifainc uchel eu hysbryd, os nad lled-feddw, yn agosau.
Wrth iddynt ddod mewn trwy'r drws gwelir – o'u gwisg a'u hyder - mai boneddigions ydynt.
Golygfa fyrfyfyr fydd hon i'w phrifio o'r hadau canlynol...

Mae bob yr un ohonynt â photel siampên yn ei law.

Mae pob potel wedi'i lapio â baner ymerodraethol, sef... Awstro-Hwngari, Rwsia, yr Almaen, Ffrainc a Phrydain.

Eu hymateb cyntaf wrth 'ddarganfod' y gofod newydd yw hawlio eu cyfran yn enw eu hymerodraeth. cyflawnir hyn pe byddent yn chwarae gêm.

Mae'r gêm yn datblygu yn ei sbri wrth i'r pump ruthro i 'feddiannu' mwy a mwy o 'diroedd'.

Digwydd rhyw fath o anffawd.
Ond nid yw'r sawl a anafwyd yn fodlon derbyn mai damwain ydoedd.
Mae'r chwarae yn troi'n chwerw wrth i'r cwmni meddw ymrannu'n garfannau cecrus (yr Almaen ac Awstria-Hwngari yn erbyn Ffrainc, Prydain a Rwsia).

Mae cyfeiliant y tympani yn dychwelyd.
Yn frawychus o gyflym mae'r cyfeiliant hwn yn troi'r ymgecru yn ffieidd-dra gwirioneddol brawychus.
Clywir y geiriau 'this means war'/ 'this is war'/ 'war' drosodd a throsodd.

Wedi cyrraedd ei ben llanw...

Tywyllwch dudew a thawelwch llethol am funud gyfan.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12