a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12
Ⓗ 2014 Euros Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 12


Golygfa 12

Ar ddiwedd yr emyn clywir y drws mas yn agor a chau. Mae'r fam 'yn y gegin'.

Mam

Ifan-John – ti sy' 'na?

Ifan-John

(Wrth dynnu ei got waith ac ati.) Ie, Mam. (Wrth ddod i olwg pawb.) Mam...

Mam

(Ar ei draws.) Bwyd bron yn barod. Y tato 'ma sydd ar ôl.



(Ennyd.)

Ifan-John

Mam, dewch 'ma am funud.

Mam

Fydda'i ddim yn hir nawr.

Ifan-John

Na. Nawr, Mam – plîs.

Mam

Be' sy'n bod arnat ti, grwt. Ma' popeth biti bod yn barod.

Ifan-John

Na-na-na. Nawr.

Mam

Ifan-John!

Ifan-John

(Yn gweiddi - ar ei thraws.) Er mwyn popeth! Ma' rhywbeth 'da fi i 'weud!



Y fam yn dod i'r amlwg.

Ifan-John

(Yn dawelach.) Ma' rhywbeth 'da fi i 'weud!



Ymhen ennyd.

Yn dawel, yn y cefndir, cenir yr hwiangerdd...

Llais
Si hei lwli 'mabi,
Mae'r llong yn mynd i ffwrdd.
Si hei lwli 'mabi,
Mae'r capten ar y bwrdd.
Si hei lwli lwli lws,
Cysga, cysga 'mabi tlws;
Si hei lwli 'mabi,
Mae'r llong yn mynd i ffwrdd.



Mae'r golau'n araf wanhau nes ildio'r adeilad i dywyllwch llethol.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12