a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12
Ⓗ 2014 Euros Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 11

Golygfa 11

Cyhoeddir a chyd-genir yr emyn...

Emyn
735 (Caneuon Ffydd)

Bydd yn wrol, paid â llithro,
er mor dywyll yw y daith
y mae seren i'th oleuo:
cred yn Nuw a gwna dy waith.
Er i'r llwybyr dy ddiffygio,
er i'r anial fod yn faith,
bydd yn wrol, blin neu beidio,
cred yn Nuw a gwna dy waith.

Paid ag ofni'r anawsterau,
paid ag ofni'r brwydrau chwaith;
paid ag ofni'r canlyniadau:
cred yn Nuw a gwna dy waith.
Cei dy farnu, cei dy garu,
cei dy wawdio lawer gwaith;
na ofala ddim am hynny:
cred yn Nuw a gwna dy waith.

[Norman Macleod / cyf. Ben Davies]


Tra fod yr emyn yn cael ei ganu dechreua'r fam hulio'r ford swper.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12