a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12
Ⓗ 2014 Euros Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 2, Golygfa 9


Golygfa 9

Wrth i Kitty weithio, gwelwn fod blinder mawr yn gwasgu arni. Gwelwn hefyd ei bod yn gweithio â phenderfyniad i beidio ildio.

Am gyfnod da, y tyndra mewnol hwn yw canolbwynt y ddrama.

Yna, clywir darllenwr nad ydym yn ei weld, er ei fod yn bresennol (nid tâp) yn darllen...

Darllenwr
Geirau y Pregethwr, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem.

Gwagedd o wagedd... gwagedd yw y cwbl.

Pa fudd sydd i ddyn o'i holl lafur a gymer efe dan yr haul?

Un genhedlaeth a â ymaith, a chenhedlaeth arall a ddaw: ond y ddaear a saif byth.

Y peth a fu, a fydd; a'r peth a wnaed, a wneir: ac nid oes dim newydd dan yr haul.

Nid oes goffa am y pethau gynt; ac ni bydd coffa am y pethau a ddaw, gan y rhai a ddaw ar ôl.

Mi a roddais fy nghalon i wybod doethineb, ac i wybod ynfydrwydd a ffolineb: mi a wybûm fod hyn hefyd yn...

Kitty
... fod hyn hefyd yn orthrymder ysbryd.

Darllenwr
Canys mewn llawer o ddoethineb y mae llawer o ddig: a'r neb a ychwanega wybodaeth, a...

Kitty
... ychwanega ofid.

Darllenwr
Y doeth sydd â'i lygaid yn ei ben; ond y ffôl a rodia yn y tywyllwch: ac eto...

Kitty
... mi a welais yr un ddamwain yn digwydd iddynt oll.

Darllenwr
Canys ni bydd coffa am y doeth mwy nag am yr annoeth yn dragywydd; y pethau sydd yr awr hon, yn y dyddiau a ddaw a ollyngir oll dros gof: a pha fodd y mae y doeth yn marw?

Kitty
... fel yr annoeth.

Ysbryd y Bardd
Am hynny cas gennyf einioes, canys blin gennyf y gorchwyl a wneir dan haul; canys...

Kitty
... gwagedd...

Ysbryd y Bardd
... a gorthrymder ysbryd...

Ysbryd y Bardd a Kitty
... yw y cwbl.


Ennyd.

Llais Ifan-John.
Nid oes daioni mwy i ddyn, nag iddo fwyta ac yfed, a pheri i'w enaid gael daioni o'i lafur.

Kitty
Ifan-John!


Ennyd.

Darllenwr ffyddlon
Hyn hefyd a welais, mai o law Duw yr oedd.

Darllenwr wedi'i siomi
Hyn hefyd a welais, mai o law Duw yr oedd.

Darllenwr sy'n cael hyn yn anodd ei ddeall
Hyn hefyd a welais, mai o law Duw yr oedd.

Darllenwr sur
Hyn hefyd a welais, mai o law Duw yr oedd.

Darllenwr sur iawn
Mai o law Duw yr oedd.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12