a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12
Ⓗ 2014 Euros Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 15


Golygfa 15

Digwydd chwarae'r olygfa hon mewn dau le ar yr un pryd. Nid oes perthynas uniongyrchol rhwng y naill a'r llall.

Yn y naill le, Mae kitty ifanc yn eistedd gan fagu plentyn yn ei chôl.

Yn y llall mae Ifan-John yn gosod y pethau olaf yn ei fag teithio...

Ifan-John

Mae popeth gen' i, Mam... Odw, dwi'n siŵr... Bydd inc yn y baracs... Oedd hi'n gweud yn y papurach ges i. Dangoses i chi... Odw, dwi'n siŵr... Ie, ond beth os torrith y botel – y caead yn dod yn rhydd... Odi ma'r ffownten pen gen i... Yr un ges i 'da Dad-cu... Yr un gore, ie... Gwnaf, Mam... Odw, dwi'n gw'bod... Drychwch, ma' rhaid i fi fynd. Ma' rhaid...



Wedi'r cam petrus cyntaf, Mae Ifan-John yn troi ac yn brasgamu o'r adeilad. Nid yw'n mentro nag oedi na throi yn ei ôl o gwbl.

Rai eiliadau'n ddiweddarach, daw rhywun/rhywrai at Kitty gan fynd a'r plentyn o'i gafael ac o'n golwg.

O'r cysgodion daw ail bennill yr hwiangerdd...

Llais
Si hei lwli 'mabi,
Y gwynt o'r dwyrain chwyth;
Si fy mabi lwli
Mae'r wylan ar ei nyth.
Si hei lwli lwli lws,
Cysga, cysga 'mabi tlws;
Si hei lwli 'mabi,
Y gwynt o'r dwyrain chwyth.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12