a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12
Ⓗ 2014 Euros Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 2, Golygfa 8

Golygfa 8

Cyhoeddir a chyd-gennir y trydydd emyn...

Emyn
167 (Caneuon ffydd)

Ar fôr tymhestlog teithio'r wyf
i fyd sydd well i fyw,
gan wenu ar ei stormydd oll:
fy Nhad sydd wrth y llyw.

Trwy leoedd geirwon, enbyd iawn,
a rhwystrau o bob rhyw
y'n dygwyd eisoes ar fy nhaith:
fy Nhad sydd wrth y llyw.

Er cael fy nhaflu o don i don,
nes ofni bron cael byw,
dihangol ydwyf hyd yn hyn:
fy Nhad sydd wrth y llyw.

Ac os oes stormydd mwy yn ôl,
ynghadw gan fy Nuw,
wynebaf arnynt oll yn hy:
fy Nhad sydd wrth y llyw.

A phan fo'u hymchwydd yn cryfhau,
fy angor, sicir yw;
dof yn ddiogel drwyddynt oll:
fy Nhad sydd wrth y llyw.

I mewn i'r porthladd tawel, clyd,
o sŵn y storm a'i chlyw
y caf fynediad llon ryw ddydd:
fy Nhad sydd wrth y llyw.

[Ieuan Glan Geirionydd]


Yn ystod ail hanner yr emyn dechreua Kitty ar ei gwaith glanhau, unwaith eto.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12