a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12
Ⓗ 2014 Euros Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 9


Golygfa 9

Daw Ifan-John i bwyso ar flaen y sêt fawr – pe bai'n pwyso ar glwyd, neu fonyn coeden. Ar yr un pryd, mae'r pedwarawd yn gostwng gŵr y plas yn ofalus i'r llawr. Â'r Pedwar i gyfeiriadau gwahanol cyn sefyll a loetran, megis Ifan-John.

Bachgen 1

Beth amdanat ti te, Ifan-John?

Bachgen 2

(Newydd ei weld.) Ifan-John! Ie – beth amdani?

Bachgen 3 a 4

Wyt ti'n mynd i ymuno â ni?

Bachgen 2

Pryd wyt ti'n mynd i ymuno â ni?

Bachgen 1

Bechgyn gore'r ardal...

Bachgen 4

Bechgyn gore'r fro...

Bachgen 3

Bro dy fam a dy...



Amnaid sydyn a chynnil gan un o'r bechgyn. Bachgen 3 yn deall.

Bachgen 3

(Yn wawdlyd.) O, ie. Wrth gwrs. Sori.

Bachgen 2

Dros dy frenin... Bachgen 1, 3 a 4 Dros dy wlad! Bachgen 2 Wel?



Dim ymateb gan Ifan-John.

Mae'r pedwar yn dechrau cau yn lled-fygythiol amdano.

Bachgen 2

Wedes i 'Wel'!

Bachgen 3

Do. 'Wel' 'wedodd e.



Â'r Pedwar ar ei war.

Ifan-John

Wel?



Y Pedwar yn rhannu gwên fuddugoliaethus wedi tynnu ymateb oddi wrtho.

Bachgen 4

Wel, Ifan-John, Tŷ Capel...

Bachgen 3

Ry' ni yn 'i chanol hi...

Bachgen 1

Training! Y Pedwar yn bwrw i rwtîn gorymdeithio, Bob yr un ohonynt â brwsh cans ar ei ysgwydd.

Bachgen 2

Sut i fwrw'r gelyn...

Bachgen 3

...yn gelain. Y Pedwar yn 'Saethu'.

Y Pedwar

Ysgubol!

Bachgen 4

Dere, mae'n...

Bachgen 2

Hwyl, mae'n...

Bachgen 1

Sbri. O, Ifan-John bach...

Y Pedwar

(Yn ffug-weddïol) Bydd gyda ni!



Y Pedwar yn torri o fod yn berfformwyr coeglyd i fod yn bedwar ffrind, go iawn.

Bachgen 3

Hei – gwed – pryd wyt ti'n dod?

Bachgen 2

Mi wyt ti yn dod, ond-wyt-ti?



Y perfformio'n dechrau ail-adeiladu...

Bachgen 1

Wrth gwrs ei fod e...

Bachgen 4

Wrth gwrs ei fod e...

Bachgen 3

Wrth gwrs ei fod e...

Bachgen 4

Wrth gwrs ei fod e...

Y Pedwar

(Yn sgrechian nerth eu pennau.) Wrth gwrs dy fod di!



Tawelwch.

Yn y pen draw...

Bachgen 2

Wedes i 'Wel'.

Bachgen 3

Pryd te?

Bachgen 4

Pryd te?

Bachgen 1

Pryd? – Te?



Yn ei amser ei hun.

Ifan-John

Cyn bo hir.

Bachgen 4

Cyn bo hir!

Bachgen 3

Dim rŵan?

Bachgen 2

Dim nawr?

Bachgen 1

'Ŵan?

Y Pedwar

Yr eiliad hon?



Yn ei amser ei hun, eto.

Ifan-John

Cyn bo hir, wedes i.

Bachgen 1

Cyn bo hir! Be' sy'n dy ddala di 'nôl?

Bachgen 3

Mati?

Bachgen 4

Morwyn fach Gogerddan?

Bachgen 2

Hy! Dyw hi ddim mor fach â 'ny, chi'n gw'bod.

Bachgen 1

Neu...

Bachgen 3

Neu...

Bachgen 4

Na. Does bosib.

Bachgen 1

Na. Dim Ifan-John.

Bachgen 2

Does bosib bod Ifan-John yn... Y Pedwar (Yn ffurfio'r gair, ond heb ei yngan.) ...gachgi!



Ifan-John yn dechrau cerdded bant.

Bachgen 3

Iawn.

Bachgen 2

Sori.

Bachgen 4

Y'n ni'n gw'bod bo' ti ddim.

Bachgen 1

Gw'bod yn iawn.



Ifan-John wedi sefyll â'u hwynebu eto.

Ifan-John

Falch clywed.



Ysbaid.

Bachgen 2

Gwed te...

Bachgen 3

Beth...

Bachgen 4

Sy'n...

Ifan-John

Y'n nala i 'nôl?

Y Pedwar

Ie!

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12