a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12
Ⓗ 2014 Euros Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 8


Golygfa 8

daw pump person i eistedd yn y sêt fawr.

Arweinydd

(Codi, troi a chyhoeddi.) Y Drefn. (Eistedd.)

Gwas Bach

(Codi a sefyll ar ris isaf y pwlpud.) Gwas Bach.

Gwas Mawr

(Codi a sefyll ar ris nesaf y pwlpud.) Gwas Mawr.

Mistir

(Codi a sefyll ar ris nesaf y pwlpud.) Mistir.

Gŵr y Plas

(Codi a sefyll ar ris nesaf y pwlpud.) Gŵr y Plas. Y Tirfeddiannwr. Y Sgweier – beth bynnag ry' chi am ei alw.

Mistir

Nage, gyfaill. Beth bynnag mae e am i chi ei alw.

Gŵr y Plas

'Syr', wrth reswm.

Arweinydd

Ac ar y brig.

Gŵr y Plas

Ar gopa'r mynydd.

Gwas Bach

Ar ben y domen...



Yr arweinydd yn esgyn i'r pwlpud...

Arweinydd

Y Brenin.

Gŵr y Plas

(Yn ei gywiro.) Y Frenhiniaeth. (Pawb.) Y Sefydliad.



Gŵr y Plas yn eistedd mewn cadair seml-urddasol. Yr Arweinydd, y Mistir, y Gwas Mawr a'r Gwas Bach yn ei godi yn ei gadair i'w hysgwyddau.

Gŵr y Plas

For King and Country!

Y Pedwar

For King and Country!

Gŵr y Plas

For King and Country!

Y Pedwar

For King and Country!

Gŵr y Plas

Dros ein brenin, dros ein gwlad!

Y Pedwar

Dros ein brenin, dros ein gwlad!

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12