a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12
Ⓗ 2014 Euros Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 7

Golygfa 7

Canwr Gwerin...

Canwr
'I Blas Gogerddan heb dy dad!
Fy mab, erglyw fy llef:
Dos dithau'n ôl i faes y gad
Ac ymladd gydag ef!
Dy fam wyf i, a gwell gan fam
It golli gwaed fel dwfr,
Neu agor drws i gorff y dewr,
Na derbyn bachgen llwfr.'

'I'r nefoedd dos, ac yno gwêl
Arluniau'r Prysiaid pur;
Mae tân yn llygad llym pob un,
Yn olau ar y mur.'
'Nid fi yw'r mab amharcha'i fam,
Ac enw tŷ ei dad;
Cusenwch fi, fy mam,'medd ef,
Ac aeth yn ôl i'r gad.

Daeth ef yn ôl i dŷ ei fam,
Ond nid, ond nid yn fyw:
Medd hithau, 'O fy mab! fy mab!
O maddau im, O Dduw!
Ar hyn, atebai llais o'r mur:
'Trwy Gymru tra rhed dwfr,
Mil gwell yw marw'n fachgen dewr
Na byw yn fachgen llwfr.'

[Ceiriog]

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12