a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12
Ⓗ 2014 Euros Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 10


Golygfa 10

Yn torri ar draws yr olygfa flaenorol...

Dafydd

Ifan-John!



Mae'r pedwar milwr yn diflannu.

Ifan-John

Dafydd.

Dafydd

Dyw hi ddim yn dod. Ddim yn gallu dod. Ma' rhyw chap uchel o'r fyddin yn y Plas heno. Swper a...

Ifan-John

Boi recriwtio?

Dafydd

O, ie-ie. Dad yn ei nabod e'n dda. Pryse wedi anghofio gweud, mae'n debyg. Wedes i weden i wrthot ti.

Ifan-John

O'dd hi ddim yn hapus, debyg.

Dafydd

Na. Ond wedyn...

Ifan-John

Ie. Wi'n gwbod.



Ysbaid.

Dafydd

Ryw neges i fynd 'nôl?

Ifan-John

Na. Dim. Ti'n mynd 'nôl 'wan?

Dafydd

Na. Nes mlaen. Yn hwyr. Â'i nôl i hebrwng Dad gatre.



Ysbaid.

Dafydd

Beth amdanat ti? Be'ti'n mynd i 'neud 'wan?

Ifan-John

Ddim yn gw'bod. Teg edrych tuag adre, siŵr o fod. Sypreis i Mam.

Dafydd

O, ie. Siwt mae dy fam? Gwella?

Ifan-John

Gwella?

Dafydd

Oedd hi ddim yn rhy dda wythnos ddiwetha', oedd-hi?

Ifan-John

Nagoedd-hi?

Dafydd

O – wel, falle mai galw ar ryw neges ambiti'r capel wna'th Dad te. Sori. Anghywir, fel arfer.

Ifan-John

Dafydd, mae'n bryd i ti stopio gwneud hynny.



Amnaid yn unig gan Dafydd.

Ifan-John

Ymddiheuro drwy'r amser. Am ddim rheswm. Dim fel arfer.

Dafydd

Ie, wel. Falle byddi di ddim yn gweud 'ny pan glywi di beth s'gen i i weud nesa'. Ti yw'r cynta' i w'bod, ti'n gw'bod.

Ifan-John

Gw'bod beth, Dafydd?

Dafydd

Dwi'n mynd i fynd.

Ifan-John

Mynd?

Dafydd

Ti'n gw'bod ble.

Ifan-John

Dafydd! Ti!

Dafydd

Ie. Fi. Mister Gwerth-dim-byd-i-neb.

Ifan-John

Mister Gwerth-dim-byd-i... Wyt ti'n sgolor, 'chan. Yn y coleg. Mynd yn athro. Prifathro, siŵr o fod. 'Sdim ise i ti fynd. 'Sneb yn disgwyl i ti fynd. Ti ddim y teip i fynd.

Dafydd

Nagw. Wi'n gw'bod.

Ifan-John

Wel pam gythrel!...

Dafydd

O'n i'n gw'bod byddet ti'n grac.

Ifan-John

Wi ddim yn grac. Wi'n...

Dafydd

Wyt, Ifan-John. Wyt ti'n grac.

Ifan-John

Ie. O-reit. Falle mod i. Ond... Beth ma' hwn ambiti? Achos dy dad, ife? Fe sy'n pwyso? O'n i'n meddwl bod e ddim yn pwyso.

Dafydd

Dyw e ddim. Ddim arna'i. Dyw e ddim.

Ifan-John

Wel mae'n pwyso ar bawb arall.

Dafydd

Odi. Yn hollol. Pwyso ar bawb arall. Hollol.



Ysbaid.

Ifan-John

O. Mi wela' i.



Ysbaid.

Ifan-John

Wyt ti wedi gweud wrtho 'to?

Dafydd

Dad?

Ifan-John

Ie.

Dafydd

Na. Naddo.

Ifan-John

Bydd hynny'n werth ei weld. Gweld ei ymateb.



Ysbaid.

Ifan-John

Beth am dy fam?

Dafydd

Dwi heb weud wrth neb. Dim ond ti.

Ifan-John

Gwd. Paid. Weda'i ddim gair. Bydd neb ddim callach.

Dafydd

Mi fydda' i.

Ifan-John

(Yn mynd i ymresymu ag e.) Dafydd, Dafydd...



Ar ei draws...

Dafydd

Taw pia hi, Ifan-John. Ma'r penderfyniad wedi'i wneud. Dwi wedi penderfynu.



Ifan-John yn syllu'n ofalus arno. Wedi'r archwiliad...

Ifan-John

Wyt. Mi wyt ti, ond-wyt-ti.



Ysbaid.

Ifan-John

Pryd te? Pryd wyt ti'n mynd?

Dafydd

Yr... yr un pryd â thi?



Amnaid yn unig o ddealltwriaeth gan Ifan-John.

Dafydd

Pryd wyt ti'n mynd? Wyt ti wedi gweud 'tho hi 'to?

Ifan-John

Ddim 'to.

Dafydd

O. Ow'n i'n meddwl bo' ti'n meddwl gweud 'tho hi wythnos ddiwetha'.

Ifan-John

Ie. Ow'n i wedi meddwl.

Dafydd

O. Ond wnes di ddim.

Ifan-John

Naddo. Wnes i ddim.

Dafydd

Ond...wel... wyt ti'n dal...



Ar ei draws.

Ifan-John

Dafydd, wyt ti'n gw'bod mod i'n mynd. Wi wedi gweud 'ny ers y cychwyn cynta'. Cyn i John Cwm Bach a Meical Fallon a'r bois 'na i gyd fwrw gered. 'Mhell cyn 'ny.

Dafydd

Sori, Ifan-John.

Ifan-John

Mowredd y byd! Co ti 'to. Ymddiheuro.

Dafydd

Odw. Am dy...



Ar ei draws...

Ifan-John

Am f'atgoffa o beth dwi wedi ffaelu 'wneud – ei chael hi mor anodd i wneud. Amhosib. Bob tro dwi'n eistedd wrth y ford swper 'na. Bob tro. Meddwl: dwi'n mynd i weud heno. Dwi'n mynd i. A wedyn mae'n gweud rhywbeth. Rhyw stori ambiti hi'n ferch ifanc. Neu ryw hanner stori mae hi wedi clywed am ffarm fydd yn dod yn rhydd a bod Pryse yn whilo am fachgen ifanc, rhywun â syniadau yn ei ben – fydd yn gallu 'neud rhywbeth o'r lle. Rhywun 'nunion fel fi, wrth gwrs. Yn union fel fi! Mam fach!



Ysbaid.

Dafydd

Ond dim ond ti sydd gyda hi, Ifan-John. Ontife.

Ifan-John

O ie. Dim ond fi!



Ysbaid.

Ei lygaid yn codi ac yn edrych ar Dafydd.

Ifan-John

A nawr - bydd raid i fi 'weud, on-fydd-e. – Oni bai bo' ti'n mynd i newid dy feddwl.



Dim symudiad o ran Dafydd ac amnaid yn unig gan Ifan-John.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12