a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12
Ⓗ 2014 Euros Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 6


Golygfa 6

Mae'r wraig yn dod i mewn.

Mae'n gosod y lamp wrth ei hymyl cyn mynd ati i bolisio gwaith coed y sêt fawr. Gwelwn ei bod yn rhoi o'i nerth i'r gwaith.

Ymhen hir a hwyr mae'n syrthio i'w phengliniau er mwyn dechrau ar y gwaith o bolisio'r pwlpud.

Gyda hyn, mae drws y capel yn agor – ei mab, Ifan-John, yn chwilio amdani.

Ifan-John

Mam?

Kitty

Ie?

Ifan-John

(Yn chwilio eto amdani cyn ei gweld.) Fyn'na y'ch chi.

Kitty

Ble wyt ti'n disgwyl i fi fod? Ma' swper yn barod. Ddô'i mewn 'wan.

Ifan-John

Sdim ise i chi – o'm rhan i, beth bynnag.

Kitty

Beth! Allu di ddim mynd heb fwyd.

Ifan-John

Dwi wedi b'yta.

Kitty

Rhaid i ti f'yta.

Ifan-John

Dwi wedi, Mam.

Kitty

Labro drw'r dydd. Sdim mynd heb fwyd i fod.

Ifan-John

Mam – er mwyn popeth – dwi wedi b'yta. Iawn?

Kitty

Pryd?

Ifan-John

Gynne. Oedd popeth ar y ford 'fo chi.

Kitty

O. A fe f'ytes di heb aros amdana'i.

Ifan-John

Ma' hast arna'i, Mam. Wedes i wrthoch chi bore 'ma.

Kitty

Ie-ie. I gwrdd â'r lodes 'na.



Ifan-John yn cnoi ei dafod.

Kitty

Wel, ffwrdd â thi, te. Paid adel i fi fod yn fwy o rwystr i ti.

Ifan-John

Mam, chi'n gw'bod fel ma'r plas 'na. Dim ond heno s'da hi tan duw-a-ŵyr pryd.

Kitty

Ie. A dim ond heno s'da fi i gael y lle hwn yn lân 'fyd. Fel wyt ti'n gw'bod yn iawn.

Ifan-John

Fi'n gw'bod, fi'n gw'bod. Ond...

Kitty

O, cer er mwyn popeth. Ddô'i ben ben y'n hunan. Dwi wedi 'neud digon o'r blaen a mi wna'i ddigon eto, siŵr o fod. Hy! Bydd raid i fi unwaith briodi di'r lodes 'na.

Ifan-John

Sdim sôn am briodi, Mam.

Kitty

Ifan-John bach, sdim ise dim 'sôn' oes-e? Pan fydd raid, bydd raid.

Ifan-John

S'o Mati'r fath hynny o ferch.

Kitty

Nagyw. Wrth gwrs nag yw hi.

Ifan-John

Dyw hi ddim!

Kitty

Na. – A ti?

Ifan-John

Mam? Be' sy'n bod heno nawr?

Kitty

Dim. Dim byd. (Saib fer.) Gofynnes di hanes y Gerlan wedyn?

Ifan-John

Naddo.

Kitty

Ifan-John!

Ifan-John

Ges i ddim cyfle, Mam. 'Sbyth cyfle.

Kitty

Nagoes. Wrth gwrs does byth gyfle. Mae raid i ti wneud cyfle, 'chan. Beth dwi wedi bod yn gweud a gweud 'thot ti. Wyt ti byth yn mynd i gael dy le dy hunan fel hyn. Wyt ti am sefyll yn was bach i Mister Hollbwysig Morris am weddill dy oes?

Ifan-John

Dwi'n was mawr, Mam. Ddim gwas bach.

Kitty

Gwas mawr, gwas bach. Beth yw'r gwa'niaeth. Gwas yw gwas a mistir yw mistir.

Ifan-John

Ie, a se'n i'n cael y'n ffarm y'n hunan 'run lle fydden i, ontife – gorfod codi 'nghap i fe Pryse y Plas.

Kitty

Wyt ti'n gwneud 'ny 'wan, beth bynnag.

Ifan-John

Dim os fedra'i osgoi.

Kitty

Ie. Ow'n i wedi clywed. Bachan mawr – tu ôl 'i gefen!

Ifan-John

Dwi'n mynd.

Kitty

Ie. Cer. Gwylia di nag yw un o'i gynffonwyr yn gweud wrtho, 'na'i gyd.



Ifan-John yn ymadael.

Kitty

(Yn galw ar ei ôl.) Fydd hi ar ben arnat ti'n cael lle dy hunan wedyn, 'machgen i, on-fydd-hi!

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12