a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12
Ⓗ 2014 Euros Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 2


Golygfa 2

Ar ddiwedd yr emyn darllenir...

Beibl
Jeremeia 51, Adnodau 35–45 + 58

... Bydded ar Fabilon y trais a wnaed arnaf fi ac ar fy nghnawd!
Dyweded Jerwsalem, 'Bydded fy ngwaed ar drigolion Caldea!'

36 Am hynny, fel hyn y dywed yr (Arglwydd.): Dyma fi'n dadlau dy achos, ac yn dial drosot; disbyddaf ei môr hi, a sychaf ei ffynhonnau.

37 Bydd Babilon yn garneddau, yn drigfa i siacaliaid; yn arswyd ac yn syndod, heb neb i breswylio ynddi.

38 Rhuant ynghyd fel llewod, a chwyrnu fel cenawon llew.

39 Paraf i'w llymeitian ddarfod mewn twymyn, meddwaf hwy nes y byddant yn chwil, ac yn syrthio i drymgwsg diderfyn, diddeffro, medd yr (Arglwydd.).

40 Dygaf hwy i waered, fel ŵyn i'r lladdfa, fel hyrddod neu fychod geifr.

41 O fel y goresgynnwyd Babilon ac yr enillwyd balchder yr holl ddaear! O fel yr aeth Babilon yn syndod i'r cenhedloedd!

42 Ymchwyddodd y môr yn erbyn Babilon, a'i gorchuddio â'i donnau terfysglyd.

43 Aeth ei dinasoedd yn ddiffaith, yn grastir ac anialdir, heb neb yn trigo ynddynt nac unrhyw un yn ymdaith trwyddynt.

44 Cosbaf Bel ym Mabilon, a thynnaf o'i safn yr hyn a lyncodd; ni ddylifa'r cenhedloedd ato ef mwyach, canys syrthiodd muriau Babilon.

45 Ewch allan ohoni, fy mhobl; achubed pob un ei hunan rhag angerdd llid yr (Arglwydd.).

58 Dryllir i'r llawr furiau llydan Babilon; llosgir ei phyrth uchel â thân; yn ofer y llafuriodd y bobl, a bydd ymdrech y cenhedloedd yn gorffen mewn tân.


Yn ystod y darlleniad datblygir cyfeiliant tympani.
Wrth i'r cyfeiliant gryfhau, cryfhau hefyd a wna goslef y darllenwr.
Yn y pen draw, nid darllenydd gwrthrychol mohono ond cennad 'dial cyfiawn'.

Trwy gydol y darlleniad mae'r fam yn cynnal ei hystym gan wrthweithio pob ymgais ar ran y lladmerydd i'w gorchfygu.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12