a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12
Ⓗ 2014 Euros Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 2, Golygfa 4


Golygfa 4

Tra fod y fam wrth ei gwaith daw'r bardd (Mr. Jones) i'r capel. Heb ei gwled, â tua'r sêt fawr i chwilio am rywbeth.

Wedi'i wylio am eiliad neu ddwy...

Kitty

Whilo rhein, syr - Mr. Jones?

Mr Jones

O – ie. Siŵr o fod. Nodiadau. Eu hangen nhw arna'i.

Kitty

Cyn dydd Sul?

Mr Jones

Ia. Ddim yn siŵr a fyddai yma ddydd Sul, a deud y gwir.

Kitty

O. Mynd bant?

Mr Jones

Ydw. 'Da chi'n gwybod i le, Mrs. Jones? I dir neb. Dyna'n lle i, mae'n amlwg – tir neb. Nes bydd yr holl... yr holl beth yma ar ben.

Kitty

Ry' chi'n ddyn lwcus, Mr. Jones. Y Bardd yn troi i edrych arni... Os oes 'da chi rywle i ddianc iddo. Lwcus.



Yn sylweddoli iddo anghofio am ei gofid.

Mr Jones

Mrs. Jones, mae'n ddrwg gin' i. Mae'n ddrwg gin' i.

Kitty

'Sdim ise. O gwbwl.



Ennyd.

Mr Jones

Ryw air wythnos hon?

Kitty

Y llythyr arferol.

Mr Jones

A, sut...

Kitty

(Ar ei draws.) Mae'n iach – hyd yn hyn, diolch yn fawr i chi.

Mr Jones

Da iawn. Da iawn.



Eiliad letwhith. Dim rhagor i'w ddweud. Yn y pen draw...

Mr Jones

O'r gorau. Adra.



Mr. Jones yn troi i fynd.

Kitty

Mr. Jones...



Yn cynnig ei nodiadau iddo.

Mr Jones

Diar-diar. Ble ma' mhen i, deud y gwir. (Yn troi i fynd.) Wela'i chi ddydd Sul, 'fallai.

Kitty

Debyg iawn.



Kitty'n oedi, yna'n galw ar ei ôl...

Kitty

Mr. Jones...

Mr Jones

Ia?

Kitty

Y gerdd honno - yn y'ch nodiadau...

Mr Jones

'Da chi 'di darllen y'n nodiadau?

Kitty

Mi oedd y cyfan ar y llawr. Dros y lle i gyd.

Mr Jones

Ddrwg gin'i. Pa gerdd?

Kitty

Yr un am y dail yn murmur a'r... a'r deuddeg abad a'r tawelwch a'r...

Mr Jones

(Ar ei thraws, braidd.) Ystrad Fflur.

Kitty

Ystrad Fflur. Ie. Y'ch chi... chi'n mynd i'w cyhoeddi?

Mr Jones

Na. Dwi ddim yn credu. Na.

Kitty

Pam?

Mr Jones

Am ei bod yn gelwydd. Celwydd noeth hefyd. Da bo chi.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12