a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12
Ⓗ 2014 Euros Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 2, Golygfa 12

Golygfa 12

Cyhoeddir a chyd-gennir yr emyn olaf...

Emyn
856 (Caneuon Ffydd)

Arglwydd nef a daear, gariad hollalluog,
rhyfedd dy ddoethineb a pherffaith yn dy waith;
cerddaist ar y tonnau drwy y storm gynddeiriog,
a bu tawelwch wedi'r ddrycin faith.

Arglwydd, beth a dalwn am dy faith ffyddlondeb?
Arwain ni â'th gyngor yn ffordd d'ewyllys fawr,
dysg i'r holl genhedloedd heddwch a thiriondeb;
eiddot y deyrnas, Frenin nef a llawr.

Maddau, dirion Arglwydd, ddirfawr fai y bobloedd,
maddau rhwysg annuwiol ein holl benaethiaid ni,
tywys hwynt i'th lwybrau, Arglwydd Iôr y lluoedd:
llwybrau hyfrydwch dy gymdeithas di.

Maddau, Arglwydd, maddau fyth o'th lân faddeuant
tardd grasusau nefol y saint o oes i oes;
maddau, Arglwydd, maddau, casgler er d'ogoniant
ryfedd gynhaeaf grawnwin pêr y groes.

[J. T. Job]


Yn ystod y canu gwelir ar y sgrîn ddyfyniadau archif Hansard / newyddion...

Gwleidyddion Senedd Prydain yn cyfiawnhau mynd i ryfel, 1914

Gwleidyddion senedd prydain yn cyfiawnhau rhyfel Irac, 2003, a chyrchoedd awyr, 2014

Ar ddiwedd yr emyn, gwahoddir y gynulleidfa i gyd-adrodd y weddi apostolaidd...

Llais
Gras ein Harglwydd Iesu Grist
a chariad Duw,
a chymdeithas yr Ysbryd Glân,
a fyddo gyda ni oll. Amen.


Y Diwedd

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12