a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12
Ⓗ 2014 Euros Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 17

Golygfa 17

Cyhoeddir a chyd-gennir yr emyn olaf...

Emyn
817 (Caneuon Ffydd) [Tôn: 265: Llwynbedw - J. T. Rees]

Gwrando di, O Dduw'r cenhedloedd,
ar ddeisyfiad teulu'r llawr;
codwn lef o fro ein trallod
atat ti, ein Harglwydd mawr:
doed dy gariad
i gymodi gwledydd byd.

Tyn i lawr yr uchel furiau
sy'n ysgaru plant dy fron;
dyro orsedd i'r Eneiniog
dros drigolion daear gron:
doed dy gariad
i gymodi gwledydd byd.

Maddau, Arglwydd, ein gelyniaeth
a'n camweddau o bob llun;
tywys ni i ffordd tangnefedd
fel y delo'r teulu'n un;
doed dy gariad
i gymodi gwledydd byd.

[D. E. Williams]


Ar ddiwedd yr emyn, gwahoddir y gynulleidfa i gyd-adrodd y weddi apostolaidd...
Gras ein Harglwydd Iesu Grist
a chariad Duw
a chymdeithas yr Ysbryd Glân
a fyddo gyda ni oll.
Amen.
Diwedd Act 1.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12