a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12
Ⓗ 2014 Euros Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 2, Golygfa 7


Golygfa 7 Ar ddiwedd y gân, daw Mati o'r pwlpud. Caiff Kitty rywfaint o sioc o'i gweld.

Kitty

O! Ti'n gynt nag arfer 'wythnos hon.

Mati

Lady Pryce yn Nanteos. Soirée, fel ma' nhw'n gweud.

Kitty

Odi Peggy'n gw'bod bo' ti wedi mynd yn gynnar?

Mati

Hi 'wedodd wrtho'i.

Kitty

A des ti fan hyn. At Kitty, druan bach â hi.

Mati

Os nagych chi ise 'nghwmni i...

Kitty

O, paid bod mor groen-denau, lodes.

Mati

Dwi ddim yn credu mai fi sy'n groen-denau.

Kitty

Nag wyt ynta.



Ysbaid fer.

Kitty

Ma' cwpwl bach o dato'n berwi. Fyddan nhw ddim yn hir 'wan.



Y sôn am dato yn ei hatgoffa...

Mati

O! Ma' rhywbeth bach o'r gegin gen' i fan hyn i chi. Cigach.

Kitty

Peggy roiodd e i ti?

Mati

Nage. Fi ddaeth ag e. Briwsion casgles i pnawn 'ma tra'r oedd Peggy'n cael napyn bach.

Kitty

Wyt ti'n gweud y gwir, gobeithio. Dwi ddim angen unrhyw gardod oddi wrth Peggy na'r plas, ti'n gw'bod.

Mati

Fydden i ddim ise chwaith.

Kitty

Na fyddet. Dwi'n amau dim.



Ennyd fer.

Kitty

Ond ma' dwyn oddi wrthyn nhw'n iawn, odi-hi?

Mati

Dwyn? I'r cŵn fydde hwnna'n mynd. Gormod o frasder.

Kitty

(Yn rhyfeddu at y syniad.) Gormod o frasder! Siwt wyt ti'n dal dy dafod yn y fath le, dwn i ddim.

Mati

Peidiwch chi a dweud dim – 'rholl siarsio i chi wedi gwneud ar Ifan-John i gadw'i gapan yn strêt efo Morris Penrallt a'r Plas!

Kitty

Ma' 'na bwrpas i hynny.

Mati

Oes. Gwneud yn siŵr fod cenhedlaeth y'ch mab a finne yr un mor daeog a'ch cenhedlaeth chi.

Kitty

A be' sy'n bod ar fod yn daeog os mae'n golygu ffarm fach dda i chi'ch dau – dechreuad da. Dechreuad. Cael siawns go lew i wneud y gore ohoni. (Yn blino'n sydyn.) A wedyn – hwn. Yr holl ddwli 'ma. Difetha'r cwbwl.

Mati

Y rhyfel, chi'n feddwl.

Kitty

Wrth gwrs. Beth arall? Erbyn iddo ddod nôl fydd tenantiaeth Y Gerlan wedi mynd. Wedi hen fynd.



Ennyd.

Mati

A fi, Mrs. Jones.

Kitty

Beth?

Mati

Dwi'n mynd. 'Madael.

Kitty

Mati?

Mati

Ow'n i wedi bwriadu gweud wythnos ddiwetha', ond...



Ennyd.

Kitty

I le ti'n mynd? Le allu di fynd? Beth am dy dad? Beth am y plas? 'Sdim unman gen' ti i fynd.

Mati

Oes.

Kitty

Nagoes. Wyt ti heb gael diwrnod mwy o ysgol na ges i. Wyt ti wedi 'neud yn dda i gael lle yn y Plas. Yn dda iawn. 'Sdim unman arall i fynd, heblaw...



Wrth iddi ddechrau ei ddweud, mae Kitty'n sylweddoli mai bwriad Mati yw mynd bant.

Mati yn gweld y realiti yn taro kitty ac yn edrych yn ymddiheuriol tuag ati.

Kitty

(Yn galed.) Ble wyt ti'n mynd?

Mati

Birmingham.

Kitty

Ble! I weithio yn un o'r ffatrïoedd 'ny? (Yn llawn dirmyg.) Helpu'n hannwyl Lloyd George?

Mati

Na.

Kitty

(Yn grac ac yn ddi-amynedd.) Ble te? Gwed, ferch.

Mati

Ysbyty.



Kitty'n edrych arni'n syn.

Mati

Y Southern General. Ble ma' nhw'n dod a'r milwyr.



Ennyd.

Kitty

Ble byddan nhw'n dod ag Ifan-John.

Mati

Os bydd e'n lwcus.



Ennyd.

Kitty

Fydd e ddim.

Mati

Mrs. Jones...

Kitty

(Ar ei thraws.) Be' ti'n mynd i 'wneud 'na? Glanhau lloriau? Cario bwcedi?

Mati

I ddechrau – siŵr o fod. Ond, wel...

Kitty

'Ond, wel' beth?

Mati

Dwi ise bod yn nyrs – yn y pen draw.

Kitty

Mati fach!



Ennyd.

Kitty

Wyt ti heb gael ysgol.

Mati

'Sdim ots am bethe felna - ond bo' ni'n gallu 'neud – fodlon 'neud - popeth sydd i 'neud.

Kitty

(Dan ei hanadl, braidd.) Gwyn dy fyd di.

Mati

Mrs. Jones?

Kitty

Pryd wyt ti'n mynd? Wyt ti wedi gweud gatre 'to? Wrth y Plas?

Mati

Naddo. Neb.

Kitty

Ond, mi wyt ti yn mynd.

Mati

Odw. Dwi wedi trefnu popeth.

Kitty

A beth am Ifan-John? Beth mae e'n gweud?

Mati

Dim, hyd-yn-hyn.



Edrychiad gan Kitty. Mati'n ateb yr edrychiad...

Mati

Dyw e ddim yn gw'bod.

Kitty

Pryd wyt ti'n mynd i 'weud? Ma' rhaid i ti 'weud. Ma' hawl gydag e i w'bod.

Mati

Oes-e?



Kitty yn edrych yn ddwys-ymchwilgar arni, unwaith eto. Yn y pen draw, Mati'n ateb yr edrychiad...

Mati

Mae e'n sgwennu atoch chi bob wythnos? O hyd?



Amnaid gan Kitty tra'i bod yn rhagdybio'r hyn sydd gan Mati i ddweud nesaf, sef...

Mati

Os na ddaw rhywbeth gyda'r post fory fydd deufis wedi mynd ers ges i'r llythyr diwetha'.

Kitty

Deufis?

Mati

Deufis.



Ennyd.

Kitty

Wedest ti... 'Sdim pythefnos wedi mynd ers i ti 'weud i ti gael llythyr ganddo.

Mati

Ie, wel – doedd hynny ddim yn wir.

Kitty

Ond...

Mati

(Ar ei thraws / i ateb ei dryswch.) Y'ch bai chi. Chi a'ch breuddwyd.



Kitty yn edrych arni. Mati'n ateb yr edrychiad...

Mati

Ifan-John a fi a'r ffarm fach gysurus. Dedwydd. Y'ch dedwyddwch chi. A'n un i hefyd, falle. Ond dim Ifan-John. Mae hynny'n ddigon amlwg 'wan. Odi. Ddigon amlwg.



Mae Kitty'n fud am ba bynnag amser y cymer i ddarnau olaf ei breuddwyd gwympo a chwalu'n deilchion.

Yn y pen draw...

Kitty

Mati...

Mati

Ie?

Kitty

Ddaw e nôl, ti'n meddwl?

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12