Golygfa 3 Cyhoeddir a chyd-gennir yr emyn... |
|
Emyn |
I bob un sy'n ffyddlon dan ei faner ef mae gan Iesu goron fry yn nheyrnas nef; lluoedd Duw a Satan sydd yn cwrdd yn awr: mae gan blant eu cyfran yn y rhyfel mawr. I bob un sy'n ffyddlon dan ei faner ef; mae gan Iesu goron fry yn nheyrnas nef. Meddwdod fel Goliath heria ddyn a Duw, myrdd a myrdd garchara gan mor feiddgar yw; brodyr a chwiorydd sy'n ei gastell prudd, rhaid yw chwalu'i geyrydd rhaid cael pawb yn rhydd. I bob un sy'n ffyddlon dan ei faner ef; mae gan Iesu goron fry yn nheyrnas nef. Awn i gwrdd â'r gelyn bawb ag arfau glân, uffern sydd i'n herbyn â'i phicellau tân; gwasgwn yn y rhengau ac edrychwn fry: concrwr byd ac angau acw sydd o'n tu. I bob un sy'n ffyddlon dan ei faner ef; mae gan Iesu goron fry yn nheyrnas nef. [ap Hefin] |
Yn ystod y pennill olaf gwelir y fam yn ail-afael yn ei theclynnau glanhau. |