a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12
Ⓗ 2014 Euros Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 13


Golygfa 13

Wrth i'r golau ail-gynnau agorir drws y capel.

Mae'r fam yn y capel, wrth y gwaith o olchi'r lloriau.

Yn betrusgar braidd, daw merch ifanc i'r amlwg.

Mati

Mrs. Jones?

Kitty

(O gornel dywyll.) Ie?

Mati

'Wedodd e mai fan hyn fyddech chi, fwy na thebyg.

Kitty

(Yn troi i'w gweld.) Mati!

Mati

Popeth yn iawn.

Kitty

Wyt ti wedi gweld Ifan-John yn 'weddar? Dyw e'n gweud dim. Llai nag erioed nawr, wrth gwrs.

Mati

Weles i e neithiwr – ryw awr fach.

Kitty

O. Wyt ti'n gw'bod te.



Mati'n oedi cyn ymateb.

Kitty

O. Wrth gwrs. Yn gw'bod ers sbel. Ers meityn. 'Mhell cyn ow'n i'n gw'bod, siŵr o fod. Faint, sgwn i? O, be' 'di'r ots. Mae e'n benderfynol o fynd.

Mati

Odi.

Kitty

Ond 'sdim rhaid iddo. 'Na beth dw-i ddim yn deall. Odi e'n teimlo'n gryf am y rhyfel 'ma? Beth mae e'n gweud? Dyw e'n gweud dim wrtho'i. Dwi heb glywed e'n siarad am y peth o gwbwl. Darllen yr un papur na dim. Dwi ddim yn deall.

Mati

Na. Mae e'n gw'bod hynny.

Kitty

Pam na wedith e wrtho'i te. Siarad. Gweud beth sydd ar ei feddwl.



Ysbaid.

Mati

Ma' sôn wedi bod bod Elgan yn dod gatre. Odi e wedi gweud 'ny wrthoch chi?

Kitty

Elgan yn dod gatre – i beth?

Mati

I weithio ar y ffarm, ma' nhw'n gweud. Bydd raid i un o'r gweision fynd wedyn a ma' Ifan-John yn meddwl ma...

Kitty

Ie-ie, Ifan-John yn meddwl. Mae Ifan-John yn meddwl beth sy'n siwto Ifan-John i feddwl. Man-a-man i ti ddysgu gymaint â hynny nawr, 'merch i. Beth bynnag, pam bydde Elgan Morris o bawb yn dod gatre. 'Sdim elfen ffarmwr ynddo o gwbwl.

Mati

Nagoes. Ond dyna beth ma' nhw'n gweud bydd lot sydd wedi mynd bant i'r coleg a pethe'n 'neud os daw hi'n fater o gonsgripsiwn. Dod gatre i weithio ar y tir. Fyddan nhw'n saff wedyn, on-fyddan-nhw.

Kitty

Mor saff â mae hi ar Ifan-John nawr. A phan fydd y whare-plant yma drosodd, fydd y Gerlan yn rhydd – yn disgwyl amdano.

Mati

Y Gerlan?

Kitty

Mae e wedi sôn wrthot ti, siŵr o fod. Ffarm fach net i chi gael dechreuad arni. Gael y'ch tra'd 'danoch. Wyt ti'n dod mlaen yn iawn yn y Plas, ond-wyt-ti – dod mlaen â hi a fe'n iawn?

Mati

Odw. Odw – ar y cyfan.

Kitty

Da iawn. Fydd hynny'n help. Un peth ma' rhaid gweud am 'rhen Pryse, Gogerddan – mae e'n dewis ei denantiaid yn dda. Yn deg hefyd. 'Sda fi ddim lot arall i 'weud amdano – dim un ohonyn nhw, o ran hynny. A nawr ma'hwn – Ifan-John... O, beth yw'r pwynt pregethu ragor. Oni bai bod 'da ti ddylanwad arno.

Mati

Na. Dim dylanwad.

Kitty

Mwy nag wyt ti'n feddwl, siŵr o fod.

Mati

Na. Dwi ddim yn credu. Ddim ar y foment, beth bynnag.



Ysbaid.

Kitty

A mae Dafydd y Fagwyr yn mynd hefyd.

Mati

Mae'n debyg.

Kitty

Sôn am y byd yn wallgo.

Mati

Dwi'n gw'bod.



Ysbaid.

Mati

'Na fe. Fyddan nhw'n gwmni i'w gilydd.

Kitty

A mae hynny i fod yn gysur, Mati?

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12