a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12
Ⓗ 2014 Euros Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 2, Golygfa 6

Golygfa 6

Ar ddiwedd y ffilm, darganfyddir Mati yn y pwlpud...

Mati
I le'r wyt ti'n myned, fy machgen ffein i?
'Myned i ryfel yr wyf' mynte'n hy;
O'r ddwy fraich gref a'r corff cadarn cry'
Draw dros grib y mynydd, aeth gyda'r llu.

Pam wyt ti'n myned, fy machgen ffein i?
'I brofi beth s'da bywyd i gynnig'mynte'n hy;
O'r ddwy fraich gref a'r corff cadarn cry'
Bant i gael ei hyfforddi aeth gyda'r llu.

Am faint fyddi yno, fy machgen ffein i?
'Fydda'i nôl erbyn 'dolig sdim dowt' mynte'n hy;
O'r ddwy fraich gref a'r corff cadarn cry'
I wersyll 'mherfedd Lloeger aeth gyda'r llu.

A gofi di amdana'i, fy machgen ffein i?
'Mi sgwenna'i yn ffyddlon bob wythnos' mynte'n hy;
O'r ddwy fraich gref a'r corff cadarn cry'
Draw dros y moroedd aeth gyda'r llu.

Ddôi di nôl yn gyfan, fy machgen ffein i?
'Dwi'n iach ac yn effro a chydnerth' mynte'n hy;
O'r ddwy fraich gref a'r corff cadarn cry'
Ymhell, mor bell o gartre sydd gyda'r llu.


Yn ystod y gân dechreua Kitty hulio'r bwrdd ar gyfer swper.
Mae'n gosod cyllyll a ffyrc ar gyfer dau.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12