a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12
Ⓗ 2014 Euros Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 14


Golygfa 14

Yn y sêt fawr, mae gweinidog yn ymarfer wrth ymwisgo. Mae ei goler gron yn amlwg, ond dim ond wrth eu gwisgo gwelwn mai siaced a chapan cyrnol sydd ganddo.

Wrth i'r ymwisgo fynd rhagddo try'r ymarfer yn berfformiad – yn bererasiwn didwyll a dilyffethair.

Llais
(Salm 24)

Eiddo yr Arglwydd y ddaear a'i chyflawnder; y byd, ac a breswylia ynddo.

Canys efe a'i seiliodd ar y moroedd, ac a'i sicrhaodd ar yr afonydd.

Pwy a esgyn i fynydd yr Arglwydd, a phwy a saif yn ei le sanctaidd ef?

Y glân ei ddywlo, a'r pur ei galon; yr hwn ni ddyrchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo.

Efe a dderbyn fendith gan yr Arglwydd, a chyfiawnder gan Dduw ei iachawdwriaeth.

Dyma genhedlaeth y rhai a'i ceisiant ef, y rhai a geisiant dy wyneb di, O Jacob.

O byrth, dyrchefwch eich pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a brenin y gogoniant a ddaw i mewn.

Pwy yw Brenin y gogoniant hwn? Yr Arglwydd nerthol a chadarn, yr Arglwydd cadarn mewn rhyfel.

O byrth dyrchefwch eich pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn.

Pwy yw Brenin y gogoniant hwn? Arglwydd y lluoedd. Efe yw Brenin y gogoniant.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a1, g11a1, g12a1, g13a1, g14a1, g15a1, g16a1, g17a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a2, g5a2, g6a2, g7a2, g8a2, g9a2, g10a2, g11a2, g12