GOLYGFA 4 |
|
Rhagddoedydd |
Wrth rwyfo ar hyd y tonnau môr peryglus, O gwynt! Mae'r tymyr yn esmwythau'n dynerus; y llong o'm cyfarwyddyd sydd boenus yn nofio, wrth hwylbren anobaith rwy'n deall ei bod yn ysmudo. Fel y mae'r calendr yn nechreuad y llyfrau, felly mae gobaith calandr i Troelus ar ddechrau. O arglwyddes Clio, dy brysur help yr owran, i'm tafod dod rwydd-deb i orffen hyn allan. Myfi fy hun a'm esgusodaf wrth gariad-ddyn aniddig nad fy nyfais i mo hyn ond gwaith gŵr dysgedig, a minnau, er mwyn yr ewyllys da i chi a ddygais, a'i trois i'r iaith Gymraeg yn orau ag y medrais. Am hyn nid wyf yn disgwyl na diolch nac anfodd, ond eich ewyllys da, a hynny o'ch wirfodd. Na fernwch arnaf os wyf ddiffygiol o eiriau, canlyn nesaf y gallwyf y dysgedig rwyf innau. Ac ar fy amcan yr ydwyf o gariad yn traethu; mae'n anodd i ŵr dall o liwiau allu barnu. Os oes gennych rhyfeddod wrth glywed hyn o hanes, pa fodd i ennillodd Troelus gariad ei arglwyddes, neu gymryd rhyfeddod wrth eu foddion yn caru, nid oes gennyf ddim rhyfeddod wrtho am hynny. Odid cael tri o fewn y byd o'r un deunydd, yn gwneuthud ac yn dywedyd un ffunud â'i gilydd; rhai mewn prennau a gerfia, eraill mewn cerrig, y gwirionedd a ganlynaf i. Atolwg, byddwch ddiddig. |
Pandar |
Fy arglwyddes, Duw fo'n geidwad ar eich llyfr a'ch holl gwmpeini. |
Cresyd |
Croeso, fy ewythr; amser da yw i'ch dyfodiad. A ddowch chwi yn nes, i'r goleuni, i ddywedyd chwedlau newydd i mi? Newyddion a gaf glywed; anfynwch rwy'n eich gweled. |
Pandar |
Fy nith, gwell a allai ddigwyddo os Duw a roddai gennad. Gwneuthum ar fai eich trwblio oddi wrth eich llyfr a'ch bwriad. Ydy e'n sôn ddim am gariad? |
Cresyd |
Mae'n ysgrifennu am ryfel Thebes: nid yw'n sôn am eich meistres. Mae yn ysgrifennu'n eglur am ddigwyddiad yr holl ryfel ac am esgob yn dostur. Amffiorac aeth yn ddigrel i uffern gyda'r cythrel, a'r modd bu farw Laiws trwy waith ei fab Edipws. Mae hyn yn ddifyrrwch i fwrw amser heibio ac i esmwythau tosturwch, lle mae fel arfer yn gwreiddio. Ni a ollyngwn hyn mewn ango. Pa newydd am y Groegwyr? Ydy Hector yn brysur? |
Pandar |
Mae'n iach: i Dduw y diolchaf, ond bwrio peth o'i wyneb. Mae Troelus, ei frawd ieuaf ail i Hector mewn gwroldeb, neu mewn rhinwedd synhwyroldeb; a'r dyn glanaf ar ei galon yw hwn o'r holl feibion. |
Cresyd |
Y mae'n dda gennyf glywed eu bod yn wychion ill deuwedd; yn wir mae'n anodd gweled i fab brenin gymaint rhinwedd a bod mor foneddigaidd. Rhinweddol yw naturiaeth lle bo uchel enedigaeth. I Hector mae anrhydedd - |
Pandar |
Am Hector ni rhaid ei grybwyll, na siarad gormod geiriau. Ef yw unig farchog didwyll mewn llawer mwy o rinweddau na'i holl gryfdwr mewn arfau. Mi a wn y gallaf ddywedyd am Troelus yr un ffunud. Torelus ydi … Troelus! |
Cresyd |
I Hector mae anrhydedd, I Troelus mae cariad, rhai yn sôn mewn gwirionedd ei fod bob dydd dros ei wlad yn ymladd yn wastad. Mae'n dda gennyf glywed eu canmoliaeth cyn fynyched. |
Pandar |
Y gwroldeb ddoe a wnaeth Troelus! Gwae fi nas buasech yn gweled. Nid oes o'r help lle cyrraedd, a'r Groegwyr cyn amled yn ffoi rhag caffael niwed a'r cri ym mhen gwrageddos: "Y mae Troelus yn agos!" Rhai'n ffoi yma, rhai'n ffoi acw, y Groegwyr i gyd yn waedlyd a rhai eraill wedi marw, a rhai yn syn, heb fedryd na ffoi ymhell na dywedyd; a'r diwrnod y dwg arfau, nis gwelir ond eu sodlau. Mae'n garedicaf ar a aned lle y byddo ganddo duedd. Ond madws i mi fyned i fendio ar eich annedd. Oes a fynnwch, o'r diwedd? |
Cresyd |
Ni chewch yr owran mo'r gennad: mae i mi chwaneg siarad. |
Pandar |
Gwyliwch, gan eich bod yn atal, rhag i mi eich trwblio wrth ddywedyd pethau gwamal. Mi allwn i eich digio a'ch gyrru chwi mewn cyffro. |
Cresyd |
Os bydd y meddwl o'r gorau, diniwed a fydd geiriau. Atolwg, gadewch glywed beth yw meddwl eich siarad. |
Pandar |
Fy ngeiriau sydd ddiniwed a'm meddwl sydd heb fwriad: Beth pe soniwn am gariad? Ond gwaetha rhoddi ateb rhag cafael rhyw wrthwyneb. |
Cresyd |
Yr un a ofno ddoedyd, ofned gael ei geisio; yr un a wyr ei glefyd, o'i glefyd mae'n haws ei helpio. |
Pandar |
Fy nith, myn y ddysgedig Juno, ac myn Minerfa y dduwies, myn Jubiter, a wnaeth i'r daran ruo, myn Fenws fwynaidd gynnes, os gwrandewch chi ar fy neges, Nes dowed ange ym erbyn, mi a fydda tan ych gorchymyn. |
Cresyd |
Mi wrandawaf ar eich geiriau. Bellach cerddwch rhagoch, gwyliwch siarad rhyw bethau yn erbyn hyn a wyddoch. Fydd merch ac ysgymun os gwneir gormod yn ei herbyn. |
Pandar |
Fy nith, mae Troelus yn annwyl fab y brenin; atoch chwi ganwaith fe arches ei orchymyn; i chwi mae'n dwyn y fath ewyllys caredig, onis caiff eich trugaredd nid yw ond gŵr colledig. Y gwir sydd rhaid ei ddywedyd am ei drymder a'i benyd: nid oes gen i mo'r rhyfeddod, mae'n eich caru chwi yn ormod. Os gadewch i hwn farw, fy hoedl fi a derfydd; ar fy ngwir wirionedd ni ddoedai i chwi mo celwydd os ateb trugarog nis rhoddwch yma, ar y cleddyf blaenllym fy einioes a ddiwedda. Os o'n achos yn deuwedd yn hoedl a ddiwedd, yr ydych yn helaeth yn euog o'm marwolaeth. Ym drud annwyl gydymaith onis byddwch trugarog, hwn yw'r cywir ddyn a'r glanrinweddol farchog; a hwn nid yw'n erfyn ond rhowiogaidd olwg i droi heibio marfwolaeth oddi wrth wirion diddrwg. Beth a ddoedir amdanoch ymhob man ar y cerddoch? "Can och yr glendid a ddwc einioes a bywyd." Dalltwch nad ydwyf arnoch yn dymuno mewn dim anonestrwydd ych rhwymo chwi iddo, ond bod mor drugarog ar ych gair a'ch meddwl ac achub ei einioes, dyna'r cwbwl. Trwy fod i hoedel a'i iechyd mewn gafael, mae yn deg ych anrheg; nis dymunwn i ychwaneg. |
Cresyd |
O fy ewythr, yr oeddwn erioed yn coelio pes buaswn trwy fy anap wedi digwyddo i garu Troelus, Achilles, neu Hector na fuasech i unig drugarog o'ch cyngor, eithr fy rhegi trwy gwbwl wrthwynebu. Ni wyddis i bwy y coelir yn y byd anghywir. |
Troelus yn dyfod arnynt. |
|
Pandar |
Edrych pwy sydd yma i'th weled — nid y neb sydd achos o'th hir gaethiwed. Mae Troelus mewn gofal a thithau mewn meddylie: Duw! Na baech eich deuwedd i gwyno yn yr unlle. |
Troelus |
O Pandar, fy anwylyd, na saf rhyngof a Cresyd, ar liniau yn dyfod i wneuthur fy ufudd-dod. |
Cresyd |
Da yw'r byd os anwylfab brenin Asia aiff ar ei liniau i ferch amddifad o Droea. |
Troelus |
Yr anwylferch! O Cresyd drugarorg! Trugaredd, trugaredd i wylofus farchog! |
Cresyd |
A fo drugarog unwaith a gaiff drugaredd eilwaith. A drigarha wrth weiniaid, trugaredd Duw i'w enaid! |
Troelus |
Y peth a'ch trefnodd yma i'm cysuro, yr un peth a ganiata i chwi fy ngwrando a deall y pethau, hir yn guddiedig, a rhoddi i mi unwaith olwg caredig a bod ohonoch fodlon i wir ewyllys calon er gofal, er adfyd, i'ch gwasanaeth fy nghymryd. Fel fy nghyfiawn arglwyddes a'm beunydd gyrchfa, trwy gwbwl o'm synnwyr a'm ufudd-dod i'r eithaf, a chaffael cyfiawnder y modd y rhyglydda, y da am y gorau, y drwg am y gwaethaf, a gwneuthur o'ch mawredd un cymaint trugaredd, a thrwy fy nymuniad fy ngorchymyn yn wastad. A minnau i fod i chwi yn ostyngedig ddidifar i'ch gwasanaethu beunydd fel cyfrinachwr diodefgar, bob dydd bigilydd yn chwanegu, fy mhoen a'm wyllys yn ych gwasanaethu. Er fy mod yn gwybod y dygaf hir nychod, gorchmyna yngwasanaeth i'ch unig feistrolaeth. |
Pandar |
Nid yw hyn Cresyd, yn anghyfreithol ddymuniad, na chwaith anrhesymol, eich gwasanaethu trwy gariad. |
Cresyd |
O Pandar. Mae eto i'm cof fynediad Calchas, mae eto i'm cof pwy amddiffynnodd fy urddas. Oni bai Hector a'i rywiogrwydd, merch a fuaswn i wedi tramgwydd. Gwasanaeth neb pe'i mynnwn, ei wasanaethu ef a ddylwn, trwy gadw ohono fy urddas. Croeso wrth ei gymdeithas. Dymuno yr wyf arnoch, er mwyn y gwir arglwydd, ac er anrhydedd y gwirionedd a boneddideiddrwydd, fod hyn yn tyfu heb ddichelgar feddylie, a'ch wyllys chwi i mi, fel y mae fy wyllys i, i chwithe. Gwna gwbwl o'm gallu beunydd ich llawenychu, trwy na bo arwydd o ddim anonestrwydd. Er hyn i gyd rwy'n eich rhybuddio chwi, Troelus, er eich bod yn anwylfab i frenin Priamus, na feddyliwch allu fod arnaf fi'n rheolwr mewn cariad, yn amgenach nag a berthyn i wasanaethwr. Hawdd yw gennym ddigio o gellweirir ddim a'n briwo. Eich taledigaeth chwi a fydd fel y byddo eich rhyglydd. O hyn allan, fy nghywir farchog dedwydd, trowch heibio drymder, cofleidiwch lawenydd; mewn hyn o obaith, eich hunan ymsicrhewch, i gwna fi yngore ar droi hyn i ddifyrrwch. Am bob trymder a chytsydd, e daw bellach lawenydd. Croeso wrth wamal naturiaeth mewn gwasnaethwr i'm gwasanaeth. |
Pandar |
Y moliannus Dduwiau, mewn uchelder llawenyddwch! Fy nygosa arglwydd, a'm anwyl frawd cyfiawn, fo wyr duw, a chwithe, faint a ddygem o ofalon pan welais chwchwi yn hir nychu mewn cariad, a thrymder gofalon yn chwanegu'n wastad. Rhois fy mryd yn gwbwl am esmwythau ych meddwl, a throi ych tristwch i hyn o ddifyrrwch. Yr anrhydeddus bobloedd ar y ddaear, gwnewch ddifyrwch! Fy nghywir dduw cyfiawn, yn dyst yr wyf yn dy alw, nas gwneuthum i hyn er mwyn chwant na elw, ond yn unig er esmwythau dy brudd-der ath gledi, achos yr hwn bethau bu dy einioes ar golli. Er mwyn Duw, yr owran, cadw ei henw yn ddiogan; synhwyrol yw dy gymdeithas, a chadw yn lan ei hurddas. Da i gwyddost fod i henw da hi mor barchedig y mysg y bobl, megis morwyn fendigedig; ni aned un dyn a wyr i hamau ne wyr ar hon unwaith feiau. Can och ym a erchais fy anwyl nith a dwyllais, yr ewyrth yw anwylyd yn gwneuthur twyll a bradfyd! Meddwl, Troelus, pa ddrygau fu ar gerdded am wneuthur bost o'r cyffelyb weithred; a pha gamddigwyddiad sydd beunydd yn digwyddo, o ddydd i ddydd, am y weithred honno. Am hyn i doeth yn dduwiol y ddihareb ddwys synwhyrol: "Cynta rhinwedd ydiw gwybod, yr ail yw dal y tafod." O yr tafod! Rhy fynych yr wyt yn rhy helaeth; pa sawl gwaith y gwnaethost i lawer arglwyddes loywbleth ddoedyd, "gwae fy fi o'r diwrnod trist im ganed!"? Ac i lawer morwyn ddwyn trymder trwch oi thynged? Ar cwbl yn ddychymig o waith calon wenwynig; ni thal bostiwr ddim i garu, ond y doeth a fedyr gelu. Bellach, fy anwyl frawd, ni a syrthiwn ir achosion, a chymer yth helpu a ddoedais o gynghorion; cadw hyn yn ddirgel, bydd lawen dy galon; dros fy holl ddyddiau mi a fydda it yn ffydlon. Gobeithia di yr hyn gore — ar obaith dda mae gwyrthie; y pethau hyn sydd i ddowad fel y mae dy ddymuniad. |
Troelus |
Myn fy nghywir Dduw cyfiawn, yr wyf i yn tyngu, hwn fel y mynn yr hollfyd sy'n llyfodraethu, os celwydd y ddoeda, Achilles a'i weiw ffon, a bod ym fywyd tragwyddol, a hyllt fy nghalon, Os byth i'r addefa y dirgel chwedlau yma, i un dyn bydol ar coweth daearol. |
Cresyd |
O Dduw! Pa beth yw'r glendid bydol? Hwn mae dysg ar gam yn ei alw yn beth dedwddol? Cymysg yw a llawer o chwerwder beunydd, yn llawn ofer anwadalaidd lawenydd. Os oes lawenydd, pwy heddiw a wyr i ddeunydd? Oes a wyr yn wastadol oddi wrth lawenydd bydol? O y frau olwyn i lawenychu dyn, yn anwadol, i bara ddyn bynnag i bych di yn arddal, naill ai fo a wyr oddi wrth dy lawenydd darfodedig, ai nis gwyr ddim oddi wrth dy gylenic. Os gwyr, i mae yn gelfydd; mor anwadal yw'r llawenydd sydd yn tyfu oi ysturiaeth o dywyllwch anywbodaeth! O gwyddys fod llawenydd a thramgwyddiad diffygiol, y modd y mae yr holl bethau daerol, am bob gwaith y bydd yn ofnus yn ei feddwl i golli, dros hynny o amser y bydd sicr o'i feddiannu. Nis gall undyn wneuthur deunydd ar dwyllodrus lawenydd; wrth ei gadw, mae'n ofalus; wrth ei golli, mae'n beryglus. |
Troelus |
O Mercuriws, er mwyn cariad ar ddyn dirion, achos hon bu Palas wrth Aglawros yn ddicllon, moes i'm help Diana - arnat rwy'n dymuno nad i hyn o siwrnai yn ofer fyned heibio. Chwithau'r tair chwiorydd hefyd sydd yn tynnu edau'r bywyd, moeswch i mi eich help yn amser, na adwch hyn o swirnai'n ofer. |
Cresyd |
Beth a all yr Hedyd truan i wneuthur pan fo yng ngrafanc y gwalchaidd eryr? Beth all morwyn wan ond ochain pan fo cryfder mawr yn harwain? Cyn sicred ac ym ganed, mae'n rhaid ymroi i dynged; a'th dynged titheu, Cresyd, ydiw dwyn y gofalfyd. |