GOLYGFA 6 |
|
Rhagddoedydd |
Cyffelyb i'r melys yr owran yn felysach ddywad, oherwydd hir chwerwder a barhaodd yn wastad, o brudd-der i lawenydd mawr a syrthiodd - ers pan fy aned y fath lawenydd nis digwyddodd. Gwelais ar ôl boregwaith pruddaidd, niwlog, yn canlyn brynhwawngwaith eglur, gwresog, ac ar ôl byrddydd gaeaf blin, gwlybyrog, yn dyfod hirddydd Galanmai yn desog. Ar ôl prudd-der a thristwch, y daw'r holl ddifyrwch, ac ar ôl cawodau helaeth yn siwr y daw gorchafiaeth. Amhosibl i'm tafod allu'n iawn draethu y difyrwch a lawenydd y sydd o bobtu. |
Gweler Troelus a Cresyd mewn gwely. |
|
Rhagddoedydd |
O noswaith ddifyr, hir y bued i'th ymofyn, llwyr y dygaist ddifyrwdd mawr i'th ganlyn. Os mawr y byd a'i gwmpas, dau cymaint yw dy urddas. Os mawr iawn yw'r mynydd, dau cymaint yw'r llawenydd. O f'arglwydd, allai i ddrewiant chwannog cenfigennus a fai'n goganu cariad, ac o gariad yn ddibris gael noswaith ddigwyddiad o lawenydd perffaith hyfryd fel yr owran y digwyddodd i Troelus a Cresyd? Chwi a glywsoch o'r noswaith ddifyr ddigwyddiad; rhaid i chwi glywed peth o'r trwm ymadawiad. Medd doeth, "ni all yr un peth barhau'n wastad: pob peth sydd â dechrau, rhaid iddo gael diweddiad. Y noswaith a blygeiniodd a'r plygain yn ddydd ymrithiodd, a'r pethau yn hyn a ddigwyddodd, dealled y sawl a garodd. Pan ddaeth y ceiliog, astrologer y cyffredin, dan guro ei esgyll â rhybudd fod y nos ar derfyn, a'r seren Luwsiffer, cennad y gloywddydd, yn codi yn y deau, a'i phelydr dros yr hollfryd yn llewyrchu - Yno y dywedai Cresyd wrth Troelus ei hanwylyd: |
Cresyd |
O f'enaid yn fy nghalon, fy nghoel a'm holl ddifyrwch, och yr amser y'm ganed i ddigwydd i mi fath dristwch, pan allo un boregwaith ein dosbarthu ni oddi yma, bellach rhaid ymadael, neu fo ddarfu amdana. O dywyllnos, fe'th waned yn hud dros loywddydd perffaith ar amserau â'th hagr alarwisg ddiffaith, a thros amser mae pob peth i'w esmwythyd mewn bwriad: dynion ac anifeiliaid yn hawdd all achwyn arnad; y dydd yn rhoi trafael yma, tithau'r nos yn rhoddi esmwythdra. Tydi yr owran o lawer a ffoist ynghynt na'th amser. |
Rhagddoedydd |
Troelus, tostur eiriau Cresyd, pan glywodd, heilltion ddagrau ar hyd ei ruddiau a ollyngodd, megis yn rhyfeddu o'r fath lawenydd a difyrwch mor ddisymwth yn dywed y cyfriw drymder a thristwch. Ochenaid trwm, a rodde ar geiriau hyn a ddoede: |
Troelus |
O Cresyd, fy anwylddyn, aeth y byd i gyd yn ein erbyn. O greulon ddiwrnod, melltigedig i lawenydd hyfryd, lleidr y nos a lleidr cariad wyt hefyd. O genfigennus ddiwrnod, melltigedig ddyfodiad o fewn caerau Troea heb unwaith yrru amdanad. Pa achos yr wyt yn ysbienna? A gollaist dy ffordd yma? Duw a wnel i ti golli dy lewyrch a'th oleuni? Och! Beth a wnaeth cariad ddynion yn dy erbyn pan wyt bob amser mor genfigennus unddyn? O Cresyd, beth bellach a wnaf gan hiraethus gariad? Yr owran mae'r amser o'r trwm ymadawiad. Hir fyw nis gallaf yn y fath drymder; oes byth im obaith ond arwain prudd-der? Nid oes fodd na ddaw hiraeth arnaf i'n ddigon helaeth, pan yr wyf yr owran yn ymwrando â hiraeth cyn ymado. Yn wir, f'arglwyddes loyw, eurbleth, hyn pes gwyddwn yn ddiweiniaith, fod eich ufudd was a'ch marchog cywir wedi ei osod yn eich meddwl mor sicir ar ydd ych chwi, f'arglwyddes, yn fy meddwl i a'm mwynes, digŵyn yw gen i ymarfer â hiraeth twm a phrudd-der. |
Cresyd |
O gywir galon a chwbwl o'm ymddiried, mae'r chwarae hwn cyn belled wedi myned fel y caiff yn gyntaf yr haul syrthio i lawr o'r wybren a'r gwalchaidd eryr ymgymharu â'r glomen a phob craig ysmudo o'r tir a'r fan y byddo cyn darffo i Troelus symud o gywir calon Cresyd. |
Troelus |
O cydymaith o'r cymdeithion, y gorau i drugaredd a fu erioed, ac a fu byth mewn gwirionedd, fy meddwl i a ddygaist i esmwythdra nefol o Fflegeton, y tanllyd afon uffernol, Pes gallwn i roddi fy einioes i'th wasanaethu, ni fydde hyn i'w wneuthud ddim wrth a ryglyddyd. |
Pandar |
Fy nghywir gydymaith, erddot ti ddim pes gwnaethwn, fy wir Duw mae felly y mynnwn. O'r geiriau a ddoetwy, na chymer ddig na chystydd, gochel i gyd hyn sydd o aflywenydd. Yr owran, mae dy duedd at lawenydd a mowredd; na bych dy hunan iti yn achos o ddrygioni. Gwathaf yw hyn o holl anffortun a drygioni, bod unwaith yn oludog a syrthio mewn tlodi, mae hwn yn synhwyrol a gatwo i elw; mawrhad yw cael twrnda, mwy mawrhad i gadw. Yn rhy ddiofal na fyddwch, or bod yr hin mewn tawelwch; rheitia yw cymryd ordor pan fo yr ŷd yn ysgubar. Od wyt yn esmwyth, dal dy hun a gaethiwed; cyn sicred a bod pob tân yn goch i'w weled, mae mwy dichell i gadw peth nai ennill. Llawenydd bydol sy ynglyn ar linin candryll; Mae'n ddigon hawdd profi rhag mynyched i mae'n torril rhag torri hwn mewn adwyth, rhaid yw gymryd yn esmwyth. |
Troelus |
Cariad, mae ytt ar dir a môr reoli; cariad, mae ytt orchymyn y nefoedd o fri; cariad, mae ytt ryddid mawr a gollyngdod; O cariad, i ti mae'r holl ufudddod. Tydi, cariad, sy'n clymu pob cyfraith a chwmpeini; cwlwm hyn o gytundeb rhag dyfod byth wrthwyneb. Cariad, ir byd mae'n dwyn caredigrwydd; i bob peth yn ei ryfogaeth y mae'n digwydd; mae hwn yn naturiol i'r pedwar deunydd; y rhain sy wrthwynebys bob un yw gilydd. Y lleuad sydd dros noswaith, yr Haul dros loywddydd perffaith; pob un ai dyfodiad o achos rhinwedd cariad. Hwn, i'r môr, or maint yw trwst ei donnau, sy'n gwneuthur iddo gydnabod ai derfyne; hwn sy'n dwyn afonydd a phrydiau digwyddiad i ffrwythau tiroedd o meilliondir gwastad. Hawsa peth i hepgor bob amser ydi'w gyngor; anhawsa peth yn wastad yw hepgor ydiw cariad. Erfyn it, arglwydd, o'th drugaredd, yn enwedig, roddi rhwym ar gariad a chwlwm caredig; a phlannu yn ei calonnau hir cytundeb, lle bo unwaith gariad, na bo byth anghywirdeb. A thyfu o gariad ffyddlon ai gwreiddin yn y galon, na bo achos iddyn dybied byth o angharedig weithred. |