Golygfa 13 Wrth i'r golau ail-gynnau agorir drws y capel. Mae'r fam yn y capel, wrth y gwaith o olchi'r lloriau. Yn betrusgar braidd, daw merch ifanc i'r amlwg. |
|
Mati |
Mrs. Jones? |
Kitty |
(O gornel dywyll.) Ie? |
Mati |
'Wedodd e mai fan hyn fyddech chi, fwy na thebyg. |
Kitty |
(Yn troi i'w gweld.) Mati! |
Mati |
Popeth yn iawn. |
Kitty |
Wyt ti wedi gweld Ifan-John yn 'weddar? Dyw e'n gweud dim. Llai nag erioed nawr, wrth gwrs. |
Mati |
Weles i e neithiwr – ryw awr fach. |
Kitty |
O. Wyt ti'n gw'bod te. |
Mati'n oedi cyn ymateb. |
|
Kitty |
O. Wrth gwrs. Yn gw'bod ers sbel. Ers meityn. 'Mhell cyn ow'n i'n gw'bod, siŵr o fod. Faint, sgwn i? O, be' 'di'r ots. Mae e'n benderfynol o fynd. |
Mati |
Odi. |
Kitty |
Ond 'sdim rhaid iddo. 'Na beth dw-i ddim yn deall. Odi e'n teimlo'n gryf am y rhyfel 'ma? Beth mae e'n gweud? Dyw e'n gweud dim wrtho'i. Dwi heb glywed e'n siarad am y peth o gwbwl. Darllen yr un papur na dim. Dwi ddim yn deall. |
Mati |
Na. Mae e'n gw'bod hynny. |
Kitty |
Pam na wedith e wrtho'i te. Siarad. Gweud beth sydd ar ei feddwl. |
Ysbaid. |
|
Mati |
Ma' sôn wedi bod bod Elgan yn dod gatre. Odi e wedi gweud 'ny wrthoch chi? |
Kitty |
Elgan yn dod gatre – i beth? |
Mati |
I weithio ar y ffarm, ma' nhw'n gweud. Bydd raid i un o'r gweision fynd wedyn a ma' Ifan-John yn meddwl ma... |
Kitty |
Ie-ie, Ifan-John yn meddwl. Mae Ifan-John yn meddwl beth sy'n siwto Ifan-John i feddwl. Man-a-man i ti ddysgu gymaint â hynny nawr, 'merch i. Beth bynnag, pam bydde Elgan Morris o bawb yn dod gatre. 'Sdim elfen ffarmwr ynddo o gwbwl. |
Mati |
Nagoes. Ond dyna beth ma' nhw'n gweud bydd lot sydd wedi mynd bant i'r coleg a pethe'n 'neud os daw hi'n fater o gonsgripsiwn. Dod gatre i weithio ar y tir. Fyddan nhw'n saff wedyn, on-fyddan-nhw. |
Kitty |
Mor saff â mae hi ar Ifan-John nawr. A phan fydd y whare-plant yma drosodd, fydd y Gerlan yn rhydd – yn disgwyl amdano. |
Mati |
Y Gerlan? |
Kitty |
Mae e wedi sôn wrthot ti, siŵr o fod. Ffarm fach net i chi gael dechreuad arni. Gael y'ch tra'd 'danoch. Wyt ti'n dod mlaen yn iawn yn y Plas, ond-wyt-ti – dod mlaen â hi a fe'n iawn? |
Mati |
Odw. Odw – ar y cyfan. |
Kitty |
Da iawn. Fydd hynny'n help. Un peth ma' rhaid gweud am 'rhen Pryse, Gogerddan – mae e'n dewis ei denantiaid yn dda. Yn deg hefyd. 'Sda fi ddim lot arall i 'weud amdano – dim un ohonyn nhw, o ran hynny. A nawr ma'hwn – Ifan-John... O, beth yw'r pwynt pregethu ragor. Oni bai bod 'da ti ddylanwad arno. |
Mati |
Na. Dim dylanwad. |
Kitty |
Mwy nag wyt ti'n feddwl, siŵr o fod. |
Mati |
Na. Dwi ddim yn credu. Ddim ar y foment, beth bynnag. |
Ysbaid. |
|
Kitty |
A mae Dafydd y Fagwyr yn mynd hefyd. |
Mati |
Mae'n debyg. |
Kitty |
Sôn am y byd yn wallgo. |
Mati |
Dwi'n gw'bod. |
Ysbaid. |
|
Mati |
'Na fe. Fyddan nhw'n gwmni i'w gilydd. |
Kitty |
A mae hynny i fod yn gysur, Mati? |