| |
---|
|
Golygfa 3 Mae drws y capel yn agor. Clywir, o bell, pump o wŷr ifainc uchel eu hysbryd, os nad lled-feddw, yn agosau. Wrth iddynt ddod mewn trwy'r drws gwelir – o'u gwisg a'u hyder - mai boneddigions ydynt. Golygfa fyrfyfyr fydd hon i'w phrifio o'r hadau canlynol... Mae bob yr un ohonynt â photel siampên yn ei law. Mae pob potel wedi'i lapio â baner ymerodraethol, sef... Awstro-Hwngari, Rwsia, yr Almaen, Ffrainc a Phrydain. Eu hymateb cyntaf wrth 'ddarganfod' y gofod newydd yw hawlio eu cyfran yn enw eu hymerodraeth. cyflawnir hyn pe byddent yn chwarae gêm. Mae'r gêm yn datblygu yn ei sbri wrth i'r pump ruthro i 'feddiannu' mwy a mwy o 'diroedd'. Digwydd rhyw fath o anffawd. Ond nid yw'r sawl a anafwyd yn fodlon derbyn mai damwain ydoedd. Mae'r chwarae yn troi'n chwerw wrth i'r cwmni meddw ymrannu'n garfannau cecrus (yr Almaen ac Awstria-Hwngari yn erbyn Ffrainc, Prydain a Rwsia). Mae cyfeiliant y tympani yn dychwelyd. Yn frawychus o gyflym mae'r cyfeiliant hwn yn troi'r ymgecru yn ffieidd-dra gwirioneddol brawychus. Clywir y geiriau 'this means war'/ 'this is war'/ 'war' drosodd a throsodd. Wedi cyrraedd ei ben llanw... Tywyllwch dudew a thawelwch llethol am funud gyfan.
|