Golygfa 7 Canwr Gwerin... |
|
Canwr |
'I Blas Gogerddan heb dy dad! Fy mab, erglyw fy llef: Dos dithau'n ôl i faes y gad Ac ymladd gydag ef! Dy fam wyf i, a gwell gan fam It golli gwaed fel dwfr, Neu agor drws i gorff y dewr, Na derbyn bachgen llwfr.' 'I'r nefoedd dos, ac yno gwêl Arluniau'r Prysiaid pur; Mae tân yn llygad llym pob un, Yn olau ar y mur.' 'Nid fi yw'r mab amharcha'i fam, Ac enw tŷ ei dad; Cusenwch fi, fy mam,'medd ef, Ac aeth yn ôl i'r gad. Daeth ef yn ôl i dŷ ei fam, Ond nid, ond nid yn fyw: Medd hithau, 'O fy mab! fy mab! O maddau im, O Dduw! Ar hyn, atebai llais o'r mur: 'Trwy Gymru tra rhed dwfr, Mil gwell yw marw'n fachgen dewr Na byw yn fachgen llwfr.' [Ceiriog] |