Golygfa 4 Tra fod y fam wrth ei gwaith daw'r bardd (Mr. Jones) i'r capel. Heb ei gwled, â tua'r sêt fawr i chwilio am rywbeth. Wedi'i wylio am eiliad neu ddwy... |
|
Kitty |
Whilo rhein, syr - Mr. Jones? |
Mr Jones |
O – ie. Siŵr o fod. Nodiadau. Eu hangen nhw arna'i. |
Kitty |
Cyn dydd Sul? |
Mr Jones |
Ia. Ddim yn siŵr a fyddai yma ddydd Sul, a deud y gwir. |
Kitty |
O. Mynd bant? |
Mr Jones |
Ydw. 'Da chi'n gwybod i le, Mrs. Jones? I dir neb. Dyna'n lle i, mae'n amlwg – tir neb. Nes bydd yr holl... yr holl beth yma ar ben. |
Kitty |
Ry' chi'n ddyn lwcus, Mr. Jones. Y Bardd yn troi i edrych arni... Os oes 'da chi rywle i ddianc iddo. Lwcus. |
Yn sylweddoli iddo anghofio am ei gofid. |
|
Mr Jones |
Mrs. Jones, mae'n ddrwg gin' i. Mae'n ddrwg gin' i. |
Kitty |
'Sdim ise. O gwbwl. |
Ennyd. |
|
Mr Jones |
Ryw air wythnos hon? |
Kitty |
Y llythyr arferol. |
Mr Jones |
A, sut... |
Kitty |
(Ar ei draws.) Mae'n iach – hyd yn hyn, diolch yn fawr i chi. |
Mr Jones |
Da iawn. Da iawn. |
Eiliad letwhith. Dim rhagor i'w ddweud. Yn y pen draw... |
|
Mr Jones |
O'r gorau. Adra. |
Mr. Jones yn troi i fynd. |
|
Kitty |
Mr. Jones... |
Yn cynnig ei nodiadau iddo. |
|
Mr Jones |
Diar-diar. Ble ma' mhen i, deud y gwir. (Yn troi i fynd.) Wela'i chi ddydd Sul, 'fallai. |
Kitty |
Debyg iawn. |
Kitty'n oedi, yna'n galw ar ei ôl... |
|
Kitty |
Mr. Jones... |
Mr Jones |
Ia? |
Kitty |
Y gerdd honno - yn y'ch nodiadau... |
Mr Jones |
'Da chi 'di darllen y'n nodiadau? |
Kitty |
Mi oedd y cyfan ar y llawr. Dros y lle i gyd. |
Mr Jones |
Ddrwg gin'i. Pa gerdd? |
Kitty |
Yr un am y dail yn murmur a'r... a'r deuddeg abad a'r tawelwch a'r... |
Mr Jones |
(Ar ei thraws, braidd.) Ystrad Fflur. |
Kitty |
Ystrad Fflur. Ie. Y'ch chi... chi'n mynd i'w cyhoeddi? |
Mr Jones |
Na. Dwi ddim yn credu. Na. |
Kitty |
Pam? |
Mr Jones |
Am ei bod yn gelwydd. Celwydd noeth hefyd. Da bo chi. |