Golygfa 6 Ar ddiwedd y ffilm, darganfyddir Mati yn y pwlpud... |
|
Mati |
I le'r wyt ti'n myned, fy machgen ffein i? 'Myned i ryfel yr wyf' mynte'n hy; O'r ddwy fraich gref a'r corff cadarn cry' Draw dros grib y mynydd, aeth gyda'r llu. Pam wyt ti'n myned, fy machgen ffein i? 'I brofi beth s'da bywyd i gynnig'mynte'n hy; O'r ddwy fraich gref a'r corff cadarn cry' Bant i gael ei hyfforddi aeth gyda'r llu. Am faint fyddi yno, fy machgen ffein i? 'Fydda'i nôl erbyn 'dolig sdim dowt' mynte'n hy; O'r ddwy fraich gref a'r corff cadarn cry' I wersyll 'mherfedd Lloeger aeth gyda'r llu. A gofi di amdana'i, fy machgen ffein i? 'Mi sgwenna'i yn ffyddlon bob wythnos' mynte'n hy; O'r ddwy fraich gref a'r corff cadarn cry' Draw dros y moroedd aeth gyda'r llu. Ddôi di nôl yn gyfan, fy machgen ffein i? 'Dwi'n iach ac yn effro a chydnerth' mynte'n hy; O'r ddwy fraich gref a'r corff cadarn cry' Ymhell, mor bell o gartre sydd gyda'r llu. |
Yn ystod y gân dechreua Kitty hulio'r bwrdd ar gyfer swper. Mae'n gosod cyllyll a ffyrc ar gyfer dau. |