Golygfa 7 Ar ddiwedd y gân, daw Mati o'r pwlpud. Caiff Kitty rywfaint o sioc o'i gweld. |
|
Kitty |
O! Ti'n gynt nag arfer 'wythnos hon. |
Mati |
Lady Pryce yn Nanteos. Soirée, fel ma' nhw'n gweud. |
Kitty |
Odi Peggy'n gw'bod bo' ti wedi mynd yn gynnar? |
Mati |
Hi 'wedodd wrtho'i. |
Kitty |
A des ti fan hyn. At Kitty, druan bach â hi. |
Mati |
Os nagych chi ise 'nghwmni i... |
Kitty |
O, paid bod mor groen-denau, lodes. |
Mati |
Dwi ddim yn credu mai fi sy'n groen-denau. |
Kitty |
Nag wyt ynta. |
Ysbaid fer. |
|
Kitty |
Ma' cwpwl bach o dato'n berwi. Fyddan nhw ddim yn hir 'wan. |
Y sôn am dato yn ei hatgoffa... |
|
Mati |
O! Ma' rhywbeth bach o'r gegin gen' i fan hyn i chi. Cigach. |
Kitty |
Peggy roiodd e i ti? |
Mati |
Nage. Fi ddaeth ag e. Briwsion casgles i pnawn 'ma tra'r oedd Peggy'n cael napyn bach. |
Kitty |
Wyt ti'n gweud y gwir, gobeithio. Dwi ddim angen unrhyw gardod oddi wrth Peggy na'r plas, ti'n gw'bod. |
Mati |
Fydden i ddim ise chwaith. |
Kitty |
Na fyddet. Dwi'n amau dim. |
Ennyd fer. |
|
Kitty |
Ond ma' dwyn oddi wrthyn nhw'n iawn, odi-hi? |
Mati |
Dwyn? I'r cŵn fydde hwnna'n mynd. Gormod o frasder. |
Kitty |
(Yn rhyfeddu at y syniad.) Gormod o frasder! Siwt wyt ti'n dal dy dafod yn y fath le, dwn i ddim. |
Mati |
Peidiwch chi a dweud dim – 'rholl siarsio i chi wedi gwneud ar Ifan-John i gadw'i gapan yn strêt efo Morris Penrallt a'r Plas! |
Kitty |
Ma' 'na bwrpas i hynny. |
Mati |
Oes. Gwneud yn siŵr fod cenhedlaeth y'ch mab a finne yr un mor daeog a'ch cenhedlaeth chi. |
Kitty |
A be' sy'n bod ar fod yn daeog os mae'n golygu ffarm fach dda i chi'ch dau – dechreuad da. Dechreuad. Cael siawns go lew i wneud y gore ohoni. (Yn blino'n sydyn.) A wedyn – hwn. Yr holl ddwli 'ma. Difetha'r cwbwl. |
Mati |
Y rhyfel, chi'n feddwl. |
Kitty |
Wrth gwrs. Beth arall? Erbyn iddo ddod nôl fydd tenantiaeth Y Gerlan wedi mynd. Wedi hen fynd. |
Ennyd. |
|
Mati |
A fi, Mrs. Jones. |
Kitty |
Beth? |
Mati |
Dwi'n mynd. 'Madael. |
Kitty |
Mati? |
Mati |
Ow'n i wedi bwriadu gweud wythnos ddiwetha', ond... |
Ennyd. |
|
Kitty |
I le ti'n mynd? Le allu di fynd? Beth am dy dad? Beth am y plas? 'Sdim unman gen' ti i fynd. |
Mati |
Oes. |
Kitty |
Nagoes. Wyt ti heb gael diwrnod mwy o ysgol na ges i. Wyt ti wedi 'neud yn dda i gael lle yn y Plas. Yn dda iawn. 'Sdim unman arall i fynd, heblaw... |
Wrth iddi ddechrau ei ddweud, mae Kitty'n sylweddoli mai bwriad Mati yw mynd bant. Mati yn gweld y realiti yn taro kitty ac yn edrych yn ymddiheuriol tuag ati. |
|
Kitty |
(Yn galed.) Ble wyt ti'n mynd? |
Mati |
Birmingham. |
Kitty |
Ble! I weithio yn un o'r ffatrïoedd 'ny? (Yn llawn dirmyg.) Helpu'n hannwyl Lloyd George? |
Mati |
Na. |
Kitty |
(Yn grac ac yn ddi-amynedd.) Ble te? Gwed, ferch. |
Mati |
Ysbyty. |
Kitty'n edrych arni'n syn. |
|
Mati |
Y Southern General. Ble ma' nhw'n dod a'r milwyr. |
Ennyd. |
|
Kitty |
Ble byddan nhw'n dod ag Ifan-John. |
Mati |
Os bydd e'n lwcus. |
Ennyd. |
|
Kitty |
Fydd e ddim. |
Mati |
Mrs. Jones... |
Kitty |
(Ar ei thraws.) Be' ti'n mynd i 'wneud 'na? Glanhau lloriau? Cario bwcedi? |
Mati |
I ddechrau – siŵr o fod. Ond, wel... |
Kitty |
'Ond, wel' beth? |
Mati |
Dwi ise bod yn nyrs – yn y pen draw. |
Kitty |
Mati fach! |
Ennyd. |
|
Kitty |
Wyt ti heb gael ysgol. |
Mati |
'Sdim ots am bethe felna - ond bo' ni'n gallu 'neud – fodlon 'neud - popeth sydd i 'neud. |
Kitty |
(Dan ei hanadl, braidd.) Gwyn dy fyd di. |
Mati |
Mrs. Jones? |
Kitty |
Pryd wyt ti'n mynd? Wyt ti wedi gweud gatre 'to? Wrth y Plas? |
Mati |
Naddo. Neb. |
Kitty |
Ond, mi wyt ti yn mynd. |
Mati |
Odw. Dwi wedi trefnu popeth. |
Kitty |
A beth am Ifan-John? Beth mae e'n gweud? |
Mati |
Dim, hyd-yn-hyn. |
Edrychiad gan Kitty. Mati'n ateb yr edrychiad... |
|
Mati |
Dyw e ddim yn gw'bod. |
Kitty |
Pryd wyt ti'n mynd i 'weud? Ma' rhaid i ti 'weud. Ma' hawl gydag e i w'bod. |
Mati |
Oes-e? |
Kitty yn edrych yn ddwys-ymchwilgar arni, unwaith eto. Yn y pen draw, Mati'n ateb yr edrychiad... |
|
Mati |
Mae e'n sgwennu atoch chi bob wythnos? O hyd? |
Amnaid gan Kitty tra'i bod yn rhagdybio'r hyn sydd gan Mati i ddweud nesaf, sef... |
|
Mati |
Os na ddaw rhywbeth gyda'r post fory fydd deufis wedi mynd ers ges i'r llythyr diwetha'. |
Kitty |
Deufis? |
Mati |
Deufis. |
Ennyd. |
|
Kitty |
Wedest ti... 'Sdim pythefnos wedi mynd ers i ti 'weud i ti gael llythyr ganddo. |
Mati |
Ie, wel – doedd hynny ddim yn wir. |
Kitty |
Ond... |
Mati |
(Ar ei thraws / i ateb ei dryswch.) Y'ch bai chi. Chi a'ch breuddwyd. |
Kitty yn edrych arni. Mati'n ateb yr edrychiad... |
|
Mati |
Ifan-John a fi a'r ffarm fach gysurus. Dedwydd. Y'ch dedwyddwch chi. A'n un i hefyd, falle. Ond dim Ifan-John. Mae hynny'n ddigon amlwg 'wan. Odi. Ddigon amlwg. |
Mae Kitty'n fud am ba bynnag amser y cymer i ddarnau olaf ei breuddwyd gwympo a chwalu'n deilchion. Yn y pen draw... |
|
Kitty |
Mati... |
Mati |
Ie? |
Kitty |
Ddaw e nôl, ti'n meddwl? |