Golygfa 9 Wrth i Kitty weithio, gwelwn fod blinder mawr yn gwasgu arni. Gwelwn hefyd ei bod yn gweithio â phenderfyniad i beidio ildio. Am gyfnod da, y tyndra mewnol hwn yw canolbwynt y ddrama. Yna, clywir darllenwr nad ydym yn ei weld, er ei fod yn bresennol (nid tâp) yn darllen... |
|
Darllenwr |
Geirau y Pregethwr, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem. Gwagedd o wagedd... gwagedd yw y cwbl. Pa fudd sydd i ddyn o'i holl lafur a gymer efe dan yr haul? Un genhedlaeth a â ymaith, a chenhedlaeth arall a ddaw: ond y ddaear a saif byth. Y peth a fu, a fydd; a'r peth a wnaed, a wneir: ac nid oes dim newydd dan yr haul. Nid oes goffa am y pethau gynt; ac ni bydd coffa am y pethau a ddaw, gan y rhai a ddaw ar ôl. Mi a roddais fy nghalon i wybod doethineb, ac i wybod ynfydrwydd a ffolineb: mi a wybûm fod hyn hefyd yn... |
Kitty |
... fod hyn hefyd yn orthrymder ysbryd. |
Darllenwr |
Canys mewn llawer o ddoethineb y mae llawer o ddig: a'r neb a ychwanega wybodaeth, a... |
Kitty |
... ychwanega ofid. |
Darllenwr |
Y doeth sydd â'i lygaid yn ei ben; ond y ffôl a rodia yn y tywyllwch: ac eto... |
Kitty |
... mi a welais yr un ddamwain yn digwydd iddynt oll. |
Darllenwr |
Canys ni bydd coffa am y doeth mwy nag am yr annoeth yn dragywydd; y pethau sydd yr awr hon, yn y dyddiau a ddaw a ollyngir oll dros gof: a pha fodd y mae y doeth yn marw? |
Kitty |
... fel yr annoeth. |
Ysbryd y Bardd |
Am hynny cas gennyf einioes, canys blin gennyf y gorchwyl a wneir dan haul; canys... |
Kitty |
... gwagedd... |
Ysbryd y Bardd |
... a gorthrymder ysbryd... |
Ysbryd y Bardd a Kitty |
... yw y cwbl. |
Ennyd. |
|
Llais Ifan-John. |
Nid oes daioni mwy i ddyn, nag iddo fwyta ac yfed, a pheri i'w enaid gael daioni o'i lafur. |
Kitty |
Ifan-John! |
Ennyd. |
|
Darllenwr ffyddlon |
Hyn hefyd a welais, mai o law Duw yr oedd. |
Darllenwr wedi'i siomi |
Hyn hefyd a welais, mai o law Duw yr oedd. |
Darllenwr sy'n cael hyn yn anodd ei ddeall |
Hyn hefyd a welais, mai o law Duw yr oedd. |
Darllenwr sur |
Hyn hefyd a welais, mai o law Duw yr oedd. |
Darllenwr sur iawn |
Mai o law Duw yr oedd. |