GOLYGFA 3 |
|
Priaf |
Fy meibion, fy arglwyddi a'm hyderus gwmpeini, yn eich cyngor a'ch gweithred mae fy holl ymddiried. Y mae trigain brenin yn barod yn ein herbyn, bob awr yn disgwyl llosgi ein holl wledydd a'n trefi, a difetha o'r diwedd nyni, ein plant a'n gwragedd. A'r achos oll am ddewis o Helen chwychwi Paris. Eich cyngor, pa un orau, ai rhoddi Helen adre ac ymadael â thristwch a byw mewn diofalwch, ai trwy drawster ei dala a gofyn byth y gwaetha, a byw fel y gellir er bygythion y Groegwyr? Atolwg i chwi ddwedyd beth a fynnwch chwi ei wneuthyd. Yn gyntaf doedwch, Hector; beth yw eich meddwl a'ch cyngor? Ai rhyfel ai heddwch? |
Hector |
Yr wyf, fy anrhydeddus frenin, yn ufudd i'ch gorchymyn. Nid yw reswm i'r Groegwyr, trwy i dichell a'i synwyr, a'i geiriau bugyl duon, gael o honyn a fynon. Nid ydyn ond dieithred; mae'n ddigon hawdd i gwaredd. Fy meddwl i a'm cyngor amcan — nis can ond a enillan. |
Antenor |
Fy naturiol dad a'm brenin, mae hyn i gyd yn erbyn y pethau a ddylem ni eu gwneuthyd er mwyn achub ein bywyd a dirywstro ein dynion a byw y modd y buom a rhoddi Helen adre i'r colledwr a'i pia — er cael ohonom ein heddwch, ein esmwythdra a'n diofalwch, a gollwng y dieithriaid 'rhyd yr un ffordd i fyned. |
Paris |
Fy annwyl frenin cyfiawn, fy mrodyr a'n cymdeithion, trwy eich cyngor ac ewyllys mi a wneuthum fy newis; a hynny faentumiaf er y Groegwyr a'u gwaethaf. |
Antenor |
Meddyliwch chwi, o'ch synnwyr, pes gorchfygem ni'r Groegwyr nid oes dim i'w gaffael ond Helen yn ein gafael; ac nis gellid mo hynny heb golli rhai o bobtu. |
Paris |
Mae'n esmwyth iddynt siarad yn eu gwychder a'u dillad; aiff dros gôf y geiriau mawrion cyn gwisgo eu harfau gwynion; eu gwychder oll a'u crefydd sydd ar tafod-leferydd. |
Antenor |
Dyna ennill gorchestol! Cael argwlyddes annaturiol a werthai ei gŵr priod er mwyn dilyn pechod; a ganlynai dieithriaid a gwrthod y fan y'i ganed! Ei meddwl yw oferedd, ei bryd sy i gyd ar faswedd. Nis gall na ddaw gwrthwyneb o hir ddilyn godineb. Fy meddwl a'm cyngor innau yw rhoddi i bawb a ddylai. Troelus, fy annwyl frawd, na amddifynwch mo bechawd. |
Troelus |
Fy ngrasol dad, fy mrenin uchel, fy nghydymdeithion rhyfel, hebryngwch fy mrawd Antenor at ei gydymaith Meneläws; mae fe'n siarad yn debyg, a'i ddull fel gŵr bonheddig a fyddai wedi ei elïo 'rhyd cledrau ei ddwylo. Mae'r eli o gymhendod yn sawrio ar ei dafod. Nis gwêl ef mo'r niwed er dal mewn hir gaethiwed Fy modryb Hesion sydd gystal merch â hithe. Moeswch wneuthur ein meddwl, na choeliwn iddo'n gwbwl, sy'n dewinio y gwaetha dros oes a chenedl Troea. Glynwn yn ein gafael: croeso wrth ffrotun rhyfel! |
Priaf |
Fy ymddiffynwyr o'm blinder, trwy eich synnwyr a'ch gwychder, i'm henaint llawenydd trwy eich moliant tragywydd, fy nghytsain cywiriad a'm hyderus ymddiriaid, eich geiriau cytson a ddefrôdd fy nghalon trwy adrodd fy modlondeb i ufuddhau i'ch cytundeb. A chymerwch feddyliau Antenor i'r gorau. Efo yn siwr a aned tan rhyw fanach blaned fel nad yw cyn gryfed yn ei feddwl a'i weithred ag ydyw Hector a Troelus. Am y cam a wnaethon â'm chwaer Hesion, Helen a gadwa' o fewn caerau Troea. |
Sinon |
O rhyglydd bodd i'ch gras, fe ffôdd yr arglwydd Calchas yn ddisymwth neithiwr i gymdeithas y Groegwyr! |
Paris |
Calchas? Y traetur! |
Antenor |
Fy arglwyddi, rhaid gwylied rhag eich twyllo trwy ymddiried. |
Sinon |
Un ferch ac anwylyd i Calchas ydyw Cresyd. Nid yw yn cymryd ati na'i cholled na'i ddrygioni. Cyffelybrwydd y gwyddai oddiwrth ei fynediad yntau. |
Priaf |
Dos ymaith yn brysur; cyrch ferch y traetur i gael cosbedigaeth am gelu traeturiaeth. |
Sinon yn ymadael. Priaf yn troi at ei feibion: |
|
Priaf |
Oni edrychir, fy meibion, i'r pethau hyn yn greulon, a'r tân parod a enynnodd mewn amser i'w ddiffodd, onide fe geir gweled ormod traeturiaid. Rhaid gwneuthur yn helaeth am hyn gosbedigaeth, onide rwyf yn ofni y bydd gormod drygioni. a Antenor a welir yn dywedyd y caswir. |
Cresyd yn cyrraedd. |
|
Cresyd |
Fy ngrasusol arglwyddi, gyrrasoch i'm cyrchu mewn digofaint a dicllondeb; rwy'n ofni gwrthwyneb. |
Priaf |
Ati ti yw unferch Calchas, yr hen siwrl anghyweithas, a werthai ei holl fraint yn niwedd ei henaint er bod yn dwyllodrus i'w wlad anrhydeddus a mynd mewn caethiwed ym mysg dieithriaid? Dy gydwybod a'th arfer sy'n cyhuddo dy ffalster ac euog wyt ti o'i gwbwl ddrygioni. Am ei fawrddrwg a'i draha ei genedl a ddistrywia. Arnat ti yn gyntaf, Cresyd y dechreuaf. Dy waed, dy einioes, dy benyd, dy fawrloes, a'th farwolaeth greulon a esmwytha fy nghalon. Beth a ddywedwch, fy arglwyddi; pa farwolaeth a rown arni? |
Paris |
I'w llosgi hebryngwch am ei ffalster a'i diffeithwch, a hynny yw marwolaeth. Cyflawnwch y gyfraith. |
Antenor |
Perwch i'w thaflu i bydew dyfndu, Rhy lân yw y llosgi am y fath ddrygioni. |
Troelus |
I'r gwirion na wnewch ddialedd dros yr euog a'i gamwedd, ac na fyddwch rhy greulon; fe ddichon hon fod yn wirion. |
Cresyd |
Fy arglwyddi trugarog, na fyddwch chwi rhy chwannog i golli gwaed gwirionddall dros ddrwg beiau arall. Os gwnaeth fy nhad Calchas i chwi benyd, diflais ydoedd Cresyd; efe mewn euog ateb a minnau mewn gwiriondeb; y tad yn gwneuthud camwedd a'r ferch yn dwyn y dialedd — Dyna gyfraith rhy atgas, ymhell yn erbyn eich urddas. Pes gwnaethai fi'n gydnabyddus â'i ddichell frad twyllodrus, nis buaswn i mewn gafael yn aros ym mysg y rhyfel, na rhyfelwyr yn tramwy cyn fynyched lle y byddwy. Ef a wyddai, fy arglwyddi, nas gallai ymddiried i mi, a hynny a barodd iddo mor ddisymwth ymado. Gwae fi na byddai f'einioes yn iawn abl i ddigywio yr uthr weithred honno ac na liwid, er aros, i un o'm cenedl mo'r achos, fy arglwyddi, ni ddymunwn i chwi yr awron mo'm pardwn. |
Troelws yn dywedyd yn isel yng nghlust ei frawd Hector. |
|
Troelus |
Hector, fy annwyl frawd, ymddiffynnwr gwiriondlawd, Erfyn yr wy ich mawredd ymddiffyn gwirionedd. Ymddiffynwch i Gresyd, i heinioed, a'i bywyd. |
Hector |
Elusen i i chwi wrando ar riddfanys wylo, a thrugarhau wrth achwyn y wirionaidd forwyn. Pe base yn gydnabyddys ai fynediad twyllodrys, dyledys naturiol gadw yn gyfrinachol y pethau drwy fawrloes a gelle iw thad i einioes. Os byddir mor gerulon a'i lladd, beth a ddywaid y gelynion? "Lle bo'r fath greulondeb, na gall fod gwroldeb." |
Troelus |
Rho fy einioes drosti o bu yn hon un drygioni, nac erioed yn arfer â thwyll neu ffalster. Yr ydym yn atolwg i chwi roi maddeuant iddi, ac o'r awr hon allan, yr wyf i, Troelus, fy hunan yn caethiwo fy rhyddid dros gywirdeb Cresyd. |
Priaf |
Eich dymuniad ni gwrthneba' dros golli tir yr Asia. Cewch, Cresyd, yn wirion a diolchwch i'm meibion. Awn i mewn i fyfyr beth sydd chwaneg i'w wneuthur. |
Priam, Paris and Menelews yn gadael. |
|
Hector |
I'ch cartref hwnt cerddwch, trymder mawr na ddygwch. Cymrwch ych rhyddid yn llawen, a'ch bywyd; Ac am gymaint ac a alla, rhowch ych hyder arna. |
Troelus yn troi at Sinon, yr hwn a'i chyhuddasai hi, ac yn dywedyd wrtho yn isel: |
|
Troelus |
Tydi, fudredd celwyddog, i bob achwyn yn chwannog, dy rodresus ddyfeisiau ydyw arwain celwyddau a bwrw beiau ar wirion trwy faleisus ddychmygion ac esgusodi camwedd ac anafus fuchedd er mwyn ysgwyd dy gynffon ar bob math ar ddynion. Oni bai fod yn bresennol fy ngwir dad naturiol, myn yr holl Dduwiau rhown drwyddot fy nghleddau! |
Gadawa pawb ond Troelus: |
|
Troelus |
Onid oes gariad, o Dduw, pa beth sy'm trwblio, os oes gariad, pa fodd, pa sut sydd arno? Os da cariad, o ble mae'n dyfod i'm blino? Os drwg cariad, mae'n rhyfedd iawn ei drino! Rhwng poen, cyffro a thynged, er maint yr wyf yn ei yfed, mwyfwy im yw'r syched. Os wŷf â thi gytûn mewn cariad mae beiau mawr am achwyn arnad. Mewn llong foel rwyf yn amddifad, rhwng dau wynt, gwrthwyneb dreiglad. O Dduw, pa fath ryfeddod sydd mor ddisymwth i'm gorfod? Rhag gwres mewn oerfel dwyn nychdod, rhag oerfel mewn gwres rwy'n darfod. O'r uchelfraint arglwyddes cariad, fy nhrafferthus ysbryd derbyn atat, neu ddod im rinwedd ddianynad i ufuddhau meistres ddigwyddiad. Ei gwas a'i gwasanaethwr a'i dirgel ewyllysiwr, nes fy rhoddi mewn amdo nis caiff wybod oddi wrtho. O Troelus, druan tuchanllyd, mae tynged it i ddwyn penyd. Pes gwyddai dy feistres dy ofid nid oes fodd nas trugarhau wrthyd. Mal rhew yw'r ddyn feindlos ar eglur leuad gaeafnos; tithau yw'r eira oerfelog yn toddi wrth eirias dân gwresog. I borth marfwolaeth, Duw, na bawn wedi'n rheiglo! Prudd-der, o'r diwedd, a'm dwc i yno! |
Pandar yn ymddangos. |
|
Pandar |
Pa anghytûn ddisymwth benyd a drwm ddigwyddodd i'th fywyd? |
Troelus |
Oddi yma y byddwn gysurus i ymado ar blinder trallodrys beunydd sy'm cystyddo. |
Pandar |
O fy arglwydd, pa dynged a ddigwyddodd it ddrwg weithred? A wnaeth y Groegiaid cyn gynted dy liw a'th bryd cyn waeled? |
Troelus |
Pa rhyw beth a'th trefnodd di i glywed fy meddwl trwblus a'm anoddefus gaethiwed, yr hyn mae pawb yn orthrwm ganddynt ei weled? Atolwg it oddi yma fyned! |
Pandar |
Dy drymion eiriau a'm gwnaeth i'n drymach, dy afiachus ochneidiau a'm gwnaeth yn afiach, dy lesgrwydd a'th wendid a'm gwnaeth i'n llesgach. |
Troelus |
Erfyn i ti fyned ymaith! |
Pandar |
Er y cariad fy rhyngom dywed im dy gyfrinach. Dyledus i'th anwylgar gael clywed dy garchar. Oni adwaenost dy gymar? Myfi ydyw - Pandar. |
Troelus |
Os wyt yn meddwl mai ofn gwŷr ac arfau sydd ddychryn i'm corff a'm trwblus feddyliau, mae rhywbeth arall sydd drymach i'm gruddiau nac ofni'r Groegiaid a'u mawrion eiriau. A'r achos hwn sydd farwol trwy drymder naturiol; na ddod arnaf fai anianol am gelu hyn; mae'n weddol. |
Pandar |
Onis gallaf it help na chysur, byddaf rannog o'th boen a'th ddolur. Anghenrhaid i gymdeithion wneuthur y naill i'r llall yr hyn a ellir. Cyn fodloned i ddwyn cystudd ag a fyddwn i lawenydd; ac am hynny na rydd arwydd im i dybied angharedigrwydd. |
Troelus |
Cariad, po fwya rhagddo amddiffynnwy', bydd fy mhoen a'm penyd fwyfwy, heb obaith ond trymder mawrglwy a marwolaeth drom lle y byddwy. |
Pandar |
A gedwaist di yn cyd mor guddiedig oddi wrth dy annwyl gymdymaith caredig? Gellit ddwyn dolur gorthrwm briwedig, a minnau yn gallu it help am feddyg. Nid ochain ac wylo fel brenhines Niobo. Y mae dagrau honno i'w gweled eto. |
Troelus |
Y sôn am ddagrau Niobe'r frenhines; Nis gellwch im les, na help am fesitres. |
Troelus yn gafael yn ei gleddyf |
|
Pandar |
O Dduw, o ble gall hyn ddigwyddo? |
Troelus |
Mae'ch geiriau mawrion, erchyll, yn chwedlau y'm cewyll; nid yw hon wamal na thrythyll, nid oes fodd i allu ei hennill. |
Pandar |
Gwranda, Troelus, fy anwylyd, er nad wyf y gorau'n doedyd, gwelais gyngor yr ynfyd yn helpu'r doeth mewn adfyd. Gwelais gwympio wrth fyned y neb a fydde'n gweled; a'r dall i'r un fan yn cerdded heb gael na chwymp na niwed. |
Troelus yn bygwth lladd ei hunan. |
|
Troelus |
Gadewch hen chwedl i orwedd i'ch mynwes, cynhyrchol farwolaeth i mi sydd gynnes. |
Pandar |
Beth o'th farwolaeth a feddylir os achosion, hon nis gwyddir? Os byw yw hon hi all dy helpio, neu mae anras mawr i'th dwyllo. Ti a elli ymgwyno, wylo a thuchan heb un dyn yn gwybod oddi wrth dy riddfan, a cholli'r peth, mae hyn yn drwstan, a allai it ei gael pes gwneuthit dy gwynfan. Mae llawer yn caru, lawer blwyddyn o'r unty, heb gael o fewn hynny unwaith ymgusanu. A fyn di i'r rhain am hyn o ddigwyddiad ymroi eu hun mewn modd anynad, a thrwy anras mawr a bwriad i lladd ei hun wrth glun ei cariad? Na wnan, peidian; os mynan, bygythian; i'w cariad, ymroddan; ac yn ufudd, gwasanaethan. Troelus, pes fy chwaer naturiol fyddai yn drwm achos o'th gaeth feddyliau, onis gwnai pob peth i'r gorau y llaw hon yn wir a'i lladdai. Datod galon blethedig mewn meddyliau gorthrymedig; nid oes dim help gan feddyg lle bo'r briwio'n guddiedig. |
Troelus |
Os rhaid i minnau bellach ddywedyd pwy ydyw'r ferch a'm rhoes mewn penyd, y mae pawb yma yn adwaenyd, hon yw'r lân arweddaidd Cresyd. Er nych, er poen, er galar, er dwyn marwolaeth gynnar, ni chaiff ar y ddaear wybod hyn onid Pandar. |
Pandar |
O Troelus, er hyd y triniaist ofid fe wnaeth cariad â thydi lendid. Am synnwyr, rhinwedd, gwedd a phryd dy gymhares yw Cresyd. Meddwl, Troelus, trwy lawenydd naturiol, fel y mae Cresyd yn ddaionus rinweddol, felly y bydd i ti'n drugaror synhwyrol, os medri oddi wrthi mewn pethau anghenrheidiol. A medryd peidio â rhoi dy waed mewn cyffro. Ni all rhinwedd, lle y byddo, â chywilydd gytuno. Y tir sy'n dwyn y gwyg a'r chwyn yn chwannog; yr tir sy'n dwyn iachus lysiau gwresog; nesaf i'r boeth ddanhadlen bigog mae'n tyfu yr eswmyth rosyn rhowiog. I'r dyffryn, nesa yw'r mynydd; i'r tywyllnos, nesa yw'r gloywddydd; nes yw'r doeth na'r ffŵl yn gelfydd; nesa i drymder yw llawenydd. Edrych, am dy fod yn dyner wedi dy ffrwyno, i'th helpu mewn amser gad i'r traeth dreio, onide ofer yw'r boen sydd i'th helpio; y synhwyrol a erys yw'r un[neb] a brysuro. Bydd gywir dy ymddygiad, bydd ddyfal a chaead, bydd ufudd a gwastad i wasanaethu dy gariad. |
Troelus |
Pandar, Pandar, nis medraf draethu fy meddwl! Synhwyrol wyt, ti a wyddost y cwbwl. I'r ych a gerddo ni raid un swmbwl; i amddiffyn fy einioes ti a ddaethost mewn trwbwl. Gorchymyn y cwestiwn at un ferch a garwn; fy hoedl pe'i collwn, ei digio nis mynnwn. |
Pandar |
Fy llaw, fy mywyd, fy ngore i ti wneuthud, fy nith, fy anwylyd, fy nghares yw Cresyd. |